Dathlu prosiect ar y cyd rhwng Y Drindod, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent mewn seremoni raddio


03.08.2022

Ymunodd uwch swyddogion o Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent â seremonïau graddio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) yn Abertawe i longyfarch swyddogion a oedd yn derbyn Diploma Graddedig a BSc mewn Arfer Plismona Proffesiynol.

Y Drindod oedd un o’r prifysgolion cyntaf yng Nghymru i weithio gyda heddluoedd i ddarparu’r ddwy raglen newydd dan Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF).

Gan weithio mewn cydweithrediad â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent, mae’r Brifysgol yn darparu‘r rhaglenni hyn i swyddogion-fyfyrwyr trwy’r Academi Golau Glas, canolfan ragoriaeth i ddarparu fframwaith proffesiynol newydd i hyfforddi swyddogion a staff y gwasanaethau brys.

Rhennir yr hyfforddiant ar gyfer recriwtiaid Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent rhwng hyfforddiant craidd ar gyfer swyddogion heddlu, a ddarperir gan staff heddluoedd Gwent a De Cymru mewn lleoliadau hyfforddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chwmbrân, mewn partneriaeth â’r Brifysgol, i ddatblygu, asesu ac achredu elfen gymwysterau eu hastudiaethau.

Meddai Bronwen Williams: “Rydym wedi creu partneriaeth gref lle mae’r holl bartïon wedi cydweithio i greu rhaglen academaidd sy’n cwmpasu cwricwlwm y Coleg Plismona, sy’n bodloni anghenion y ddau lu, yn cyd-fynd â phatrwm gwaith heddwas ymateb, ac yn cynnal hygrededd academaidd.

“Ers y garfan gyntaf ym mis Mawrth 2019, mae’r Brifysgol wedi croesawu 4 carfan y flwyddyn gan ddarparu’r rhaglen i bron i 1,000 o heddweision newydd o’r ddau lun. 

“Y Swyddogion newydd hyn yw’r cyntaf i fynd trwy broses recriwtio newydd y PEQF (fframwaith cymwysterau addysg heddweision), gyda’r nod o broffesiynoli rôl cwnstabliaid yr heddlu i lefel gradd.

“Maent wedi gorfod astudio am radd wrth weithio’n llawn amser fel heddwas ymateb.

“Mae gallu dathlu’r cyflawniad hwn yn eu seremonïau graddio yn golygu y gallwn ddathlu eu gwaith caled, eu penderfyniad a’u hymrwymiad i rôl cwnstabl yr heddlu ac i’w llongyfarch ar fod yn arloeswyr ar gyfer y llwybr newydd hwn.”

Mae’r Rhaglen Mynediad i Ddeiliaid Gradd (DHEP) yn ffurfio rhan o’r PEQF ac mae’n ddiploma graddedig dwy flynedd. Nod y PEQF yw sicrhau arfer cyson o ran gweithredu, asesu ac achredu hyfforddiant cychwynnol yr heddlu ar draws y 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r diploma Graddedig yn cwmpasu’r arfer plismona craidd y bydd ei angen ar swyddogion er mwyn sicrhau statws patrolio annibynnol yn eu blwyddyn gyntaf mewn swydd. Mae hefyd yn cynnwys modylau dysgu seiliedig ar waith a gaiff eu cefnogi gan ddysgu i ffwrdd o’r gwaith i gyflawni cymhwysedd galwedigaethol llawn ar ddiwedd yr ail flwyddyn.

Cychwynnwyd ar y cydweithio rhwng y Drindod Dewi Sant a’r ddau heddlu 4 blynedd yn ôl, mewn ymateb uniongyrchol i ganllawiau newydd a gyhoeddwyd gan y Coleg Plismona, er mwyn darparu Gradd-brentisiaeth Cwnstabliaid yr Heddlu a Diploma Graddedig mewn Arfer Plismona Proffesiynol ar y cyd. Mae’r Brifysgol hefyd yn darparu’r radd cyn-ymuno newydd mewn Plismona Proffesiynol, a luniwyd i godi safonau a phroffesiynoli plismona.

Mae gan y Drindod Dewi Sant dîm mewnol cydweithredol yn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd, sy’n cynnwys y Portffolio Gwasanaethau Cyhoeddus, Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol, a thimau Datblygu Prentisiaethau sy’n gweithio mewn partneriaeth â heddluoedd De Cymru a Gwent i ddarparu’r Radd-brentisiaeth a’r diploma graddedig mewn Arfer Plismona Proffesiynol.

Meddai PC Jordan Williams, a raddiodd gyda’i gydweithwyr o Heddlu Gwent: “Mae astudio o dan raglen Arfer Plismona Proffesiynol Y Drindod wedi fy ngalluogi i gyfuno hyfforddiant ymarferol gydag astudiaeth bersonol.  Yn ogystal â darparu’r wybodaeth ac arfer proffesiynol creiddiol, er gwaetha’r pandemig, mae’r rhaglen wedi rhoi i mi rwydwaith cryf o gymorth gan gyd-hyfforddeion, swyddogion profiadol a darlithwyr. Rwy’n ddiolchgar i’r bartneriaeth rhwng y llu a’r brifysgol am fuddsoddi yn fy ngyrfa.”

Meddai’r Uwch-arolygydd Justin Evans, Heddlu De Cymru, a Dirprwy Arweinydd Cymru ar gyfer PEQF: “Da iawn yn wir i bawb sydd wedi ennill eu graddau a’u diplomâu.  Mae’n gyflawniad aruthrol a dymunwn bob lwc i chi yn eich gyrfaoedd gyda’r heddlu yn y dyfodol. 

“Roedd e’n wir yn ddigwyddiad ffantastig ac yn bleser gweld cynifer ohonoch chi’n mwynhau eich cyflawniadau gyda theulu a ffrindiau.”

Meddai’r Prif Arolygydd Laura Bartley: “Am gyflawniad ffantastig i bob un o’r swyddogion heddlu hyn.  Roedden nhw ymhlith y swyddogion heddlu cyntaf yn y DU i ddechrau’r rhaglen radd, a gwnaethpwyd hyn gyda her sylweddol ychwanegol pandemig Covid 19.  Dylen nhw fod yn falch iawn o’u hymdrechion.

“Os ydych chi’n chwilio am yrfa gyda ni, rydym ni wrthi’n recriwtio ar gyfer swyddogion heddlu a staff yr heddlu ar hyn o bryd.  Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.”

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078