Defnyddio creadigrwydd i “ysbrydoli newid, pryfocio, a dod â phrydferthwch i’r byd”, dychwelodd un myfyriwr adref i astudio a graddio yn Abertawe
12.07.2022
Ar ôl treulio amser dramor, penderfynodd Joseff Williams ddychwelyd i dref ei fagwraeth, Abertawe, a dilyn ei ddiddordebau creadigol i lunio cynllun gyrfa boddhaus yn ei ardal leol. Mae’n dweud wrthym am ei brofiad yng Ngholeg Celf Abertawe:
“Rydw i bob amser wedi bod yn frwdfrydig ynghylch dilyn gyrfa yn y sector creadigol, ond doeddwn i byth yn teimlo y gallwn i slotio i mewn i un cyfrwng penodol. Roedd y BA Dylunio Graffig yn teimlo fel y dewis iawn am ei bod yn amlddisgyblaethol ac yn cynnwys elfennau o ffilm, ffotograffiaeth a dylunio. Popeth rydw i’n ei garu.”
“Cyn hyd yn oed ystyried mynd i Goleg Celf Abertawe, gosodais nifer o nodau creadigol i fy hun am y cwpl o flynyddoedd o’m mlaen i. Roeddwn i’n dymuno dylunio brandio ar gyfer siop goffi, dylunio ar gyfer gŵyl neu gynhadledd ac arwain tîm creadigol.
“Yn y diwedd gwnes i bob un o’r pethau hynny yn ystod fy nhair blynedd yn y brifysgol heb hyd yn oed sylweddoli eu bod ar y cwricwlwm. Cafodd fy rhestr wirio greadigol ei thicio i gyd yn anfwriadol!
“Byddwn i’n argymell astudio am radd Celf a Dylunio oherwydd er gwaethaf toriadau cyson o ran cyllid, mae creadigrwydd yn ganolog i gymaint o’n bywydau.
“Yn fy sesiwn gynefino yn y Drindod Dewi Sant, dywedodd y Profost Ian Walsh (a oedd yn Ddeon ar y pryd) mai Coleg Celf Abertawe oedd trysor pennaf y Drindod Dewi Sant. Mae hyn wedi cyd-fynd â fy mhrofiad i yn y Drindod Dewi Sant. Mae’r staff celf a dylunio – o’r staff gweinyddol, i’r technegwyr a’r darlithwyr – oll yn bobl rhyfeddol.
“Er gwaethaf treulio rhan fawr o fy nghyfnod yn y Brifysgol gartref yn ystod y pandemig, byddaf i’n gweld eisiau Coleg Celf Abertawe a Champws Dinefwr gymaint. Ond o symud ymlaen, rydw i’n edrych ymlaen at chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio fy nghreadigrwydd i ysbrydoli newid, pryfocio, a dod â phrydferthwch i’r byd.”
Yn rhan o’i radd, cyhoeddodd Joseff lyfr am geiswyr lloches yn Abertawe i annog empathi, mynd i’r afael â chamsyniadau ynghylch pobl sy’n ceisio lloches a dod â pharch ac urddas i grŵp o bobl sy’n aml yn cael eu cynrychioli ar gam yn y cyfryngau.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078