Dewis y Drindod Dewi Sant i roi cartref i Ganolfan Fyd-eang UNESCO ar gyfer y Gynghrair BRIDGES


08.06.2022

Dewiswyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan UNESCO i roi cartref i Ganolfan Fyd-eang ar gyfer y Gynghrair ‘Datblygu’r Gallu i Amddiffyn Amgylcheddau a Chymdeithasau Byd-eang’ (BRIDGES).

The University of Wales Trinity Saint David has been selected by UNESCO to host a Global Hub of the BRIDGES Coalition in UNESCO’s Management of Social Transformations programme.

Yn 2019, dechreuodd UNESCO a’i bartneriaid broses i sefydlu a lansio cynghrair ryngddisgyblaethol fyd-eang ar gyfer gwyddor cynaliadwyedd dan yr enw BRIDGES, sef Datblygu’r Gallu i Amddiffyn Amgylcheddau a Chymdeithasau Byd-eang.   Bwriad y gynghrair yw integreiddio’r Dyniaethau, gwyddor gymdeithasol, a safbwyntiau gwybodaeth draddodiadol a lleol yn well i mewn i ymchwil, addysg a gweithredu er cynaliadwyedd byd-eang drwy ddatblygu a chydlynu ymatebion cadarn i newidiadau amgylcheddol a chymdeithasol ar raddfa leol a thiriogaethol.

Yn dilyn adolygiad o gynnig y Drindod Dewi Sant gan Grŵp Gweithredol BRIDGES yn cynrychioli UNESCO, rhoddwyd gwybod i’r Brifysgol y bydd gwaith bellach yn cychwyn i sefydlu Canolfan Fyd-eang newydd ar y campws, gyda’r agoriad swyddogol wedi’i drefnu ar gyfer mis Medi eleni.   

Dywedodd Steven Hartman, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cynghrair Gwyddor Cynaliadwyedd BRIDGES, Rhaglen Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol UNESCO:

“Ym marn unfrydol y pwyllgor adolygu, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu amgylchedd sefydliadol ardderchog sydd, drwy’i blaenoriaethau a’i chenhadaeth ddatganedig, mewn sefyllfa dda i fod yn ganolbwynt i weithgareddau a chydweithrediadau BRIDGES.  Yn sicr roedd hyn yn eglur i’r pwyllgor adolygu yng nghyd-destun cenedlaethol Cymru.  Roedd hi hefyd yn eglur y byddai Canolfan BRIDGES yn y Drindod Dewi Sant yn darparu angori cadarn ar gyfer y Gynghrair yn y DU ac mewn cysylltiad â’r gymuned ryngwladol.”

Mae’r pum canolfan sy’n rhan o’r glymblaid fyd-eang ar hyn o bryd wedi’u lleoli yn GFL-ASU (Canolfan Flaenllaw), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Pretoria, The Club of Rome a chanolfan thematig sy’n canolbwyntio ar newid cymdeithasol-amgylcheddol hirdymor a cydnerthedd a arweinir ar y cyd gan y Ganolfan Ymchwil Ecodynameg Dynol yn CUNY a Menter Ymchwil Newid Hinsawdd a Hanes ym Mhrifysgol Princeton.

Cyfarwyddwr y Ganolfan Fyd-eang yw Dr Luci Attala.  Meddai:

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn ac rydw i wrth fy modd bod UNESCO wedi dewis y Drindod Dewi Sant ac wedi cydnabod beth sydd gan y brifysgol i’w gynnig.  Rydw i’n edrych ymlaen at ymgymryd â fy rôl a dechrau gweithio i gefnogi staff y Drindod Dewi Sant i gydweithio â rhwydwaith rhyngwladol o ysgolheigion sy’n mynd ati i chwilio am atebion i’r broblemau taer byd-eang sydd ohoni a hyrwyddo gwyddor cynaliadwyedd."

Nododd Dr Jeremy Smith, Deon Cynorthwyol yn yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau:

“Cynghrair BRIDGES UNESCO yw’r ail fenter gan UNESCO i’r Brifysgol ymwneud â hi ac i’r Drindod Dewi Sant mae’n cynrychioli mwy o dystiolaeth eto o ffocws cynyddol ei gweithgaredd o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) Cymru ac yn fwy eang tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU.”

Ychwanegodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor:

“Mae sefydlu Canolfan Fyd-eang ar gyfer Cynghrair BRIDGES UNESCO ar ein campws yn ddatblygiad allweddol i’r Brifysgol.  Bydd arbenigedd y Brifysgol ym meysydd y Dyniaethau a gwyddor gymdeithasol yn rhan o rwydwaith rhyngwladol sy’n ceisio datblygu atebion cadarn i newidiadau amgylcheddol a chymdeithasol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n fwy pwysig nag erioed sicrhau bod cadernid byd-eang, cynaliadwyedd a’r amgylchedd yn rhan flaengar o lunio polisïau.”

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076