Dr Rowan Williams yn traddodi prif araith Cynhadledd Flynyddol Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol y Drindod Dewi Sant
19.07.2022
Dr Rowan Williams, y Barwn Williams o Ystumllwynarth, a chyn Archesgob Caergaint, bu'n annerch y cynadleddwyr fel y prif siaradwr yng nghynhadledd Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol eleni.
Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Alister Hardy a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, roedd y gynhadledd eleni yn dwyn y teitl "Profiadau Cyfriniol: Ddoe a Heddiw" a gynhaliwyd yn Theatr Cliff Tucker y Brifysgol yn Llambed, a'i ffrydio'n fyw ar-lein. Mynychodd hyd at chwe deg o bobl y digwyddiad yn bersonol gyda rhwng 50 a 90 o bobl yn ymuno ar-lein ar wahanol adegau yn ystod y dydd.
Meddai’r Athro Bettina Schmidt, Athro Astudiaethau Crefyddol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil:
“Roeddem yn falch iawn o groesawu Dr Rowan Williams fel ein prif siaradwr eleni. Siaradodd am y cyfrinydd pwysig Julian o Norwich ac ychwanegodd fewnwelediad hynod ddiddorol o'i safbwynt unigryw ei hun. Mae'n un o noddwyr Ymddiriedolaeth Alister Hardy ac yn gefnogwr mawr.
Edrychodd y gynhadledd ar brofiadau cyfriniol yn y gorffennol a’r presennol, ac o safbwyntiau gwahanol. Yn ogystal ag adlewyrchiad o gyfrinwyr canoloesol megis Julian o Norwich a Margey Kempe, edrychodd y gynhadledd ar y ffordd y mae pobl â phrofiad cyfriniol yn cael eu trin mewn cyswllt clinigol heddiw. Buom hefyd yn trafod cymhlethdod profiad cyfriniol yn ystod COVID19. Roedd yn gynhadledd a thrafodaeth hynod ddiddorol.”
Mae Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol, a noddir gan Ymddiriedolaeth Alister Hardy, yn gartref i archif sydd â dros 6,000 o adroddiadau gan bobl o bob cwr o'r byd sydd wedi cael profiad ysbrydol neu grefyddol mewn lleoliadau eglwysig yn ogystal ag ym myd natur. Wedi’i sefydlu gan Syr Alister Hardy yn 1969 yng Ngholeg Manceinion, Rhydychen, trosglwyddwyd y ganolfan ymchwil i gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed ym mis Gorffennaf 2000. Nod y ganolfan yw astudio adroddiadau cyfoes am brofiadau crefyddol neu ysbrydol. Ychwanegodd yr Athro Bettina Schmidt:
"Dros hanner can mlynedd yn ôl - yn 1969 - gwahoddodd Hardy ysgolheigion i Rydychen i drafod a oedd dull gwyddonol o astudio profiadau crefyddol ac ysbrydol yn bosibl. Yn dilyn y symposiwm cyntaf hwn, sefydlodd y Ganolfan Ymchwil i Brofiadau Crefyddol. Bellach, hanner canrif yn ddiweddarach, mae academyddion yn parhau i fynd ati i astudio profiadau ysbrydol a chrefyddol, er bod mwy o frys yng nghyd-destun seciwlareiddio cynyddol.”
Roedd Syr Alister Hardy’n Wyddonydd o fri a byddai’n mynd i’r afael â maes cymhleth profiadau crefyddol ac ysbrydol yn yr un ffordd ddisgybledig a gwyddonol ag y byddai’n ymdrin â gwyddoniaeth naturiol. Gan ofyn i bobl anfon adroddiadau ato am brofiadau uniongyrchol gyda phwerau ysbrydol neu grefyddol, sefydlodd y Ganolfan Ymchwil sydd wedi bod yn rhan flaengar o’r astudiaeth academaidd o brofiadau crefyddol ers hynny.
Mae diddordebau ymchwil aelodau'r Ganolfan yn amrywio o iechyd ac ysbrydolrwydd; prentisiaethau ysbrydol; syniadau crefyddol am y corff a’r hunan; cyfathrebu â’r meirw a meddiannu gan y meirw; dulliau trawsddiwylliannol o ymdrin â phrofiadau o drothwy marwolaeth a siamaniaeth. Mae eu hymagweddau’n amrywio o anthropoleg i astudiaethau crefyddol i seicotherapi.
Mae'r Ganolfan hefyd yn cyhoeddi cyfnodolyn ar-lein, mynediad agored, a adolygir gan gymheiriaid, o'r enw The Journal for the Study for Religious Experience, yn ogystal â chynnig MRes mewn Profiad Crefyddol yn y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076