Dwy fyfyrwraig sy’n famau yn graddio gyda’i gilydd ar ôl gweithio law yn llaw drwy gydol eu cyfnod prifysgol


12.07.2022

Ar ôl cydweithio’n agos ar nifer o brosiectau yn ystod eu cwrs BA Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol, mae’r myfyrwyr Laura Yildiz ac Adrienne Boran wedi graddio ochr yn ochr â’i gilydd ar ôl tair blynedd o gydbwyso gwaith caled a bywyd teuluol.

Gyda’r ddwy ohonynt wedi meithrin cariad at deithio ers plentyndod, a'r ddwy ag awydd i ddilyn yr angerdd hwn fel gyrfa, bu Laura ac Adrienne yn gweithio mewn gwahanol wledydd cyn dod i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i astudio, a hynny ar ôl dod yn famau.  

Meddai Laura: "Yn dilyn genedigaeth fy mhlentyn cyntaf, symudodd fy mhartner a minnau i Gymru. Teimlwn fod hwn yn gyfle perffaith i ailystyried fy llwybr yn y dyfodol a sefydlu gyrfa newydd. Gwyddwn y byddai dychwelyd i addysg yn rhoi'r cyfleoedd gorau a gwybodaeth fanwl i mi, ac fe wnaeth y penderfyniad hwn fy arwain i ddarganfod y rhaglen radd anhygoel mewn Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth sydd ar gael yn y Drindod Dewi Sant.

“Roedd dychwelyd i addysg fel myfyriwr aeddfed yn peri rhywfaint o bryder; fodd bynnag, mae cael perthynas waith agos gyda'r darlithwyr twristiaeth a derbyn cefnogaeth ac anogaeth sylweddol a pharhaus ganddynt wedi fy ngalluogi i ragori drwy gydol fy astudiaethau.”

Ychwanega Adrienne: “Fe wnaeth mynychu wythnos diwydiant a chael cyngor a gwybodaeth arbenigol gan siaradwyr gwadd ledled y byd, yn ogystal â chael y cyfle i rwydweithio ac adeiladu perthynas broffesiynol gyda phartneriaid ac arbenigwyr allweddol yn y diwydiant byd-eang, wneud i mi deimlo'n llawn cymhelliad ac mae hynny wedi fy annog i fanteisio ar bob cyfle posibl.”

Laura ac Adrienne oedd y cyntaf i ddod yn Gynrychiolwyr Rhanbarthol ABTA tra roeddent ar leoliad yn rhan o’u gradd, a buont yn gweithio i feithrin cysylltiadau rhwng myfyrwyr y Drindod Dewi Sant, Aelodau ABTA yn y rhanbarth a Phrif Swyddfa ABTA i gysylltu rhanddeiliaid y diwydiant â’r genhedlaeth nesaf o dalent.

“Fel rhan o'n rolau yn ABTA cawsom gyfle i gymryd rhan yn y Diwrnod Gweithredu dros Deithio, a oedd yn cynnwys gweithredu fel lleisiau myfyrwyr i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gefnogi ailgyflwyno teithio rhyngwladol yn ddiogel, mewn pryd ar gyfer tymor brig yr haf yn 2021 – i arbed miloedd o swyddi teithio," esbonia Adrienne.

“Yn ystod y diwrnodau cyn y Diwrnod Gweithredu dros Deithio, llwyddodd y ddwy ohonom i drefnu ac arwain galwad rithwir gyda David Rees, Aelod Llafur Cymru o’r Senedd, i drafod pwysigrwydd yr hyn roeddem ni’n ceisio ei gyflawni. Roedd hyn yn cynnwys creu twrw ar y cyfryngau cymdeithasol yn llawn cynnwys ystyrlon, a hefyd cefnogi cyrff Masnach o bob rhan o’r diwydiannau hedfan a theithio.

“Cafodd y gwaith a wnaed y diwrnod hwnnw ei gydnabod gan nifer o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, ac o ganlyniad gwnaeth ein hymdrechion argraff fawr ar dîm ABTA a chyfeiriwyd at ein gwaith mewn cyfweliad yn Travel Weekly. Gwahoddwyd y ddwy ohonom am gyfweliad dilynol gyda phennaeth Advantage Holidays & Cruise lle buom yn ymhelaethu ar ein syniadau a’r hyn yr oeddem wedi’i gyflawni.”

Ond nid dyna’r diwedd i’r ddwy ohonynt. Aeth Laura yn ei blaen: “Yn ystod y flwyddyn olaf, cafodd y ddwy ohonom gyfle i ymgymryd ag interniaeth rheoli prosiect ar gyfer yr Harmonious Entrepreneurship Society (HES), i ddatblygu a chyflwyno digwyddiad ar-lein i addysgu ac ysbrydoli myfyrwyr y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Ryngwladol Malaya-Cymru.

“Pwrpas hyn oedd hyrwyddo’r cysyniad o Entrepreneuriaeth Gytûn ac annog creu mentrau busnes newydd sy’n mynd i’r afael ag un neu fwy o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy lansio Cystadleuaeth Menter Myfyrwyr beilot. Denodd y gystadleuaeth gyfanswm o 16 o dimau myfyrwyr, sy’n dangos llwyddiant y digwyddiad, gan roi i ni ymdeimlad gwych o gyrhaeddiad a hyder yn ein galluoedd rheoli.”  

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr y Rhaglen Rheolaeth Digwyddiadau, Twristiaeth a Chyrchfannau Hamdden Rhyngwladol yn y Drindod Dewi Sant: “Mae Laura ac Ady wedi gweithio gyda’i gilydd yn wych drwy gydol eu hamser yn y Brifysgol. Cafodd y ddwy ohonynt ail blentyn tra roeddent yn astudio, ond maent wedi ymroi’n llwyr i’w hastudiaethau ac yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle posibl.

“Roedd hyn yn cynnwys dod yn Gyd-gynrychiolwyr Myfyrwyr y Diwydiant Teithio ABTA, a’u galluogodd i lobïo’n weithredol ar ran y sector teithio yn ystod y cyfnod clo, a threfnu cynhadledd ar-lein fawr a oedd yn cynnwys recordio cyfweliadau gyda siaradwyr o Galiffornia i Abu Dhabi. Rydw i a’m tîm yn hynod falch o’u cyflawniadau ac yn dymuno pob lwc iddynt yn y dyfodol.”

Mae gan y ddwy fenyw bellach ragolygon gyrfa gwych o fewn y diwydiant ac maent yn chwilio am waith sy'n eu galluogi i barhau i gydbwyso magu teulu ifanc ochr yn ochr â rôl broffesiynol foddhaus.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078