Dychweliad i ddysgu un o raddedigion PCYDDS Llundain yn ysbrydoli newid gyrfa
28.02.2022
Ar ôl 10 mlynedd o weithio yn y diwydiant adeiladu, mae Errol Malcolm, un o raddedigion PCYDDS Llundain, yn awyddus i wneud yn fawr o’i sgiliau digidol newydd a’i gymwysterau.
Yn chwilio am her newydd, gwnaeth Errol ymuno â champws Llundain y Brifysgol gan fwriadu diweddaru ei sgiliau. Erbyn hyn, mae ef wedi graddio gyda chymhwyster MBA mewn Gweinyddu Busnes, ac yn chwilio am rôl newydd o fewn GIG. Yma, mae’n canmol y Brifysgol am ei chefnogaeth yn ystod ei daith dysgu, ac mae’r cyfleoedd newydd sy’n ei aros wedi ei gyffroi’n fawr.
Meddai ef: “Cyn i mi ddechrau ar fy nghwrs yn y brifysgol, gweithiais fel briciwr am ryw ddeng mlynedd yn Llundain ac o’i chwmpas, yn ogystal ag yn y Siroedd Cartref, i nifer o gwmnïau. Teimlais fod angen her newydd arnaf, ac edrychais ar nifer o wahanol opsiynau, ond yn y diwedd, penderfynais y peth gorau i’w wneud byddai cael fy ailhyfforddi a diweddaru fy sgiliau. Penderfynais ddychwelyd i fyd addysg, a gwnaeth hynny fy arwain at Y Drindod Dewi Sant, ac yna, penderfynais ymgofrestru.
Meddai Errol y gwnaeth ef bryderu ar y cychwyn, ond roedd ef yn benderfynol o lwyddo, gan ychwanegu bod y cymorth a gafodd ef gan staff PCYDDS wedi helpu gwneud ef yn gartrefol wrth iddo wynebu heriau newydd.
Meddai ef: “Yn ystod fy nhymor cyntaf, wynebais heriau sgiliau digidol, a’r rheswm am hynny, yn fy marn i, oedd oherwydd roeddwn yn un o aelodau hŷn y dosbarth, ac felly, nid oeddwn yn deall yn iawn yr hyn yr oeddent am i mi ei wneud, ac oherwydd methais gyfathrebu gyda’r darlithwyr ynglŷn â’m heriau. Ond unwaith y dechreuais gyfathrebu gyda Dr Audsin Dhas Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gwnaeth ef yn siŵr bod rhywun yn eistedd gyda fi tan i mi wybod fy ffordd o gwmpas cyfrifiadur.
“Mae’r cwrs wedi fy helpu mewn sawl ffordd; yn gyntaf, rwy’n darllen llawer mwy erbyn hyn, rwy’n teimlo bod darllen cyfnodolion yn wych oherwydd maent yn llawn gwybodaeth, ac erbyn hyn hefyd, rwy’n deall bywyd llawer yn well. Mae’r cwrs hefyd wedi rhoi hyder i mi ddechrau chwilio am swydd newydd o fewn GIG.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk