Dychwelyd i addysg yn newid golwg myfyrwraig yn Birmingham ar fywyd a hi ei hun, ac yn destun balchder i’r teulu


24.06.2022

15 mlynedd ar ôl gadael yr ysgol, cafodd y ddarpar fodel a’r fam i ddau o blant sy’n hoff o chwaraeon Sherrell Dillion ei hysbrydoli i ddilyn Addysg Uwch gan ei merch, a hithau heb yr un syniad o beth fyddai’n dod o’r hyn a wnaeth...

Ar ôl cyfnod hir o amgylchiadau anodd gartref, daw Sherrell i’r casgliad: "Yr hyn a'm harweiniodd i'r brifysgol mewn gwirionedd oedd fy merch.  Daeth hi ata i un diwrnod gyda thystysgrif roedd wedi'i gwneud i mi am fod yn fam anhygoel. Roedd wedi ei lapio'n sgrôl fel diploma priodol, ac felly dyma fi’n meddwl, ‘Hoffwn i gael un o'r rhain mewn bywyd go iawn'. Sylweddoles i fod angen i mi newid fy mywyd er mwyn  newid fy stori.’"

Cofrestrodd Sherrell ar y cwrs BA Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle ar gampws Birmingham Y Drindod Dewi Sant. "Roeddwn i bob amser yn cymryd yr awenau ym mha swydd bynnag swydd yr oeddwn i’n ei gwneud," ychwanegodd. "Not yn unig hynny, ond roeddwn i wedi dechrau busnes ar-lein  nad oedd yn mynd yn dda iawn, felly meddylies i 'beth am fynd i'r brifysgol a rhoi cynnig ar gwrs am flwyddyn a gweld sut mae hynny'n mynd? '

"Fy nod oedd gweld a oedd gen i'r gallu i wneud gwaith prifysgol, a llwyddo fy aseiniadau gyda rhywfaint o ddealltwriaeth o reoli busnes. Ond yn bennaf, roeddwn i am ddangos i'm plant, ni waeth beth rydych chi'n mynd drwyddo mewn bywyd, na ddylech chi adael i hynny eich diffinio chi, a bod  rhaid iddyn nhw ddilyn eu breuddwydion a'u nodau.  "

"Rwy wedi gwneud fy nheulu mor falch drwy lwyddo fy holl aseiniadau ar Lefel 4, a nawr galla i gysylltu'r hyn rwy wedi'i ddysgu yn ôl iddynt hefyd, sy'n fy ngwneud yn falch ohonof fy hun hefyd.  Rwy hefyd wedi bod wrth fy modd yn gwisgo ac yn dod i'r campws, gan nad ydw i wedi gorfod codi ar gyfer yr ysgol ers blynyddoedd!  Felly roedd dod yn ôl i'r brifysgol am y  tro cyntaf yn fyfyrwraig aeddfed yn brofiad cyffrous i mi, ac rwy wedi mwynhau bob munud. "

Er gwaethaf y rhwystr iaith sydd weithiau'n ei herio, mae Sherrell wedi ceisio cymorth gan staff y Brifysgol a'i chyd-fyfyrwyr, ac mae bellach yn teimlo'n llawer mwy hyderus ac wedi'i chefnogi'n llawn yn ei hastudiaethau, yn ogystal â bod yn fwy medrus ar dechnegau ymchwil, ysgrifennu academaidd ac ail-lunio sy'n sgiliau y mae'n gwybod y gall eu defnyddio mewn astudiaethau pellach ac yn  ddiweddarach mewn bywyd.

"Rwy wedi goresgyn heriau drwy anadlu, gadael i mi wylo, a cheisio credu ynof fy hun ychydig yn fwy, oherwydd rwy'n gwybod y galla i ddod i ben – mae hefyd yn bwysig gael yr hyder i gyfaddef bod angen help arnoch weithiau."

"Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i eraill yn enwedig os oes ganddyn nhw ddiddordeb ym myd busnes, oherwydd eich bod chi’n cael dysgu cymaint o ddulliau sydd o fudd i gwmni.  Mae’n gwneud i chi i feddwl a dadansoddi pob agwedd ar  y busnes yn feirniadol, a gallwch chi hefyd helpu eraill gyda'r wybodaeth a'r pethau rydych chi wedi'u dysgu."

"Dros yr haf rwy am ddechrau fy musnes unwaith eto a mynd amdani, a graddio ar Lefel 4 wedi fy ysgogi i barhau â'r cwrs hwn y flwyddyn nesaf ac wedi rhoi mwy o hyder i mi wneud cais am rolau arwain y tu allan i'r brifysgol. Mae gen i gynlluniau i ddechrau fy musnes modelu fy hun yn y dyfodol agos hefyd, ac i helpu fy mhlant gyda pha brosiectau bynnag brosiectau maen nhw'n eu cynnig."

"Mae'r cwrs hwn yn bendant wedi  fy helpu'n broffesiynol ac yn bersonol: Rwy'n defnyddio meddwl mwy beirniadol i fy mywyd, rwy'n edrych ar bethau'n wahanol, mae fy sgyrsiau'n wahanol. Y Brifysgol yw fy mlaenoriaeth gyntaf;  mae wedi fy ngwthio i’r eithaf ond mae'r cyfan wedi bod yn werth chweil hyd yn hyn, ac rwy’n methu aros i raddio a dangos i'm plant fy mod i wedi gwneud hynny. Mae popeth yn bosib."

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078