Dyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Dr Rhys Thomas
05.07.2022
Heddiw, (Gorffennaf 5) derbyniodd yr anesthetydd ymgynghorol Dr Rhys Thomas Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Wedi'i eni a'i fagu yn Llandeilo, astudiodd Dr Thomas feddygaeth yn Llundain cyn ymuno â'r fyddin a'r Gatrawd Barasiwt lle bu'n gwasanaethu yn Sierra Leone, Irac ac Afghanistan fel meddyg gan gyrraedd rheng yr Is-gyrnol. Mae Dr Rhys Thomas bellach yn Anesthetydd Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Yn ystod argyfwng y Coronafeirws, defnyddiodd Dr Thomas ei brofiad fel uwch-ymgynghorydd yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin i gydweithio â chwmni peirianneg CR Clarke & Co yn Rhydaman i ddylunio’r Awyrydd Argyfwng Covid ar gyfer pobl sy’n dioddef o’r coronafeirws, a dderbyniodd sêl bendith Llywodraeth Cymru. Mae'r peiriant yn helpu cleifion i anadlu a hefyd yn glanhau ystafell o ronynnau firaol, gan sicrhau mai dim ond aer wedi'i buro y caiff cleifion anadlu.
Mae'r ddyfais hon yn cael ei defnyddio mewn ysbytai yng Nghymru a sawl gwlad arall. Mae Dr Thomas hefyd wedi datblygu strategaeth ‘ward rithwir’ i alluogi cleifion i osgoi mynd i’r ysbyty drwy ddefnyddio meddalwedd newydd a’i ddyfais CPAP gartref.
Dr Rhys Thomas yw cyd-sylfaenydd Ambiwlans Awyr Cymru hefyd. Wrth dderbyn y wobr, dywedodd:
“Mae’n anrhydedd ac yn fraint enfawr bod yma heddiw oherwydd cefais fy ngeni a’m magu yn Sir Gaerfyrddin ac mae cael y wobr hon yn ôl gan y Sir yn anhygoel a dweud y gwir - mae’n gylch da mewn ffordd. Nid yw heddiw yn ymwneud â chofio rhai o’r pethau rwyf wedi’u gwneud yn y gorffennol yn unig ond mewn gwirionedd yr hyn y gallwn ei wneud gyda’n gilydd yn y dyfodol.
Hoffwn hefyd eich llongyfarch chi i gyd yma heddiw, rydych eisoes yn llwyddiant, ac rydych ar fin gwneud gweddill eich bywydau yn llwyddiant hefyd. Conglfaen llwyddiant allweddol yw addysg ac mae gennych chi sylfaen wych yn barod.
Mae fy ngeiriau o gyngor i chi yn cael eu cymryd gan eraill a ysbrydolodd fi yn ystod fy mywyd. Hoffwn ddweud diolch heddiw i fy rhieni - diolch yn fawr iawn i chi'ch dau am ddysgu i mi am gariad oherwydd heb hynny ni allwch wneud unrhyw beth.
Pan fyddaf yn edrych yn ôl ar fy mywyd mae bellach yn gwneud synnwyr ond wrth symud ymlaen ar y pryd nid oedd bob amser yn gwneud synnwyr. Rwy'n addo ichi fy mod wedi cael fy nghwestiynu ynghylch pam y gwnes i rai pethau, ond dilynais fy nghalon a dyna fydd yn rhaid i chi ei wneud. Dilynwch eich calon a pheidiwch byth â rhoi'r gorau iddi.”
Yn cyflwyno Dr Rhys Thomas i’r gynulleidfa roedd Dr Lowri Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol. Yn ystod y seremoni, dywedodd Dr Lloyd:
“Pleser a braint y bore ma yw cael cyflwyno’r Dr Rhys Thomas, un o feibion Sir Gâr, sydd wedi cyflawni cymaint yn barod yn ei yrfa.
Dyfeisgarwch ac awydd gwirioneddol i ddatrys, gwella a gofalu am eraill.
Fel miloedd o Gymry eraill mae wedi gwasanaethu yn y fyddin, a hynny ledled y byd ac mae clywed am y mannau y bu yn ystod ei yrfa filwrol – Sierra Leone, Irac, Afghanistan – yn rhoi darlun i ni o’r hyn mae Rhys wedi ei weld. Ni all y mwyafrif ohonom amgyffred realiti ac erchylltra rhyfel ac mae’r hyn sydd wedi digwydd yn yr Wcrain yn y misoedd diwethaf wedi ein hatgoffa pa mor fregus yw heddwch yn ein byd.
Datryswr, arweinydd, arloeswr, un â’r awydd i ofalu am eraill yn dy waed – dyma gywydd byr i’th anrhydeddu di Rhys
Wyt Rhys i ni’n ddatryswr,
yn y gad, ti yw’r gwr;
ti yw’r un trwy’r awyr all
ein harwain i fan arall.
Mae ’na rhai’n rhoi mwy na’u rôl
It Rhys, rhown glod arhosol.”
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076