Dyfarnu Cymrodoriaeth Oes i'r Athro Catrin Thomas


07.07.2022

Dyfarnwyd  Cymrodoriaeth Connop Thirlwell i’r Athro Catrin Thomas am ei harweinyddiaeth ragorol a nodedig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Professor Medwin Hughes and Professor Catrin Thomas

Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor a'r Athro Catrin Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor

Yr Athro Thomas yw’r Dirprwy Is-Ganghellor sy’n gyfrifol am ddatblygiad academaidd y Brifysgol, ac sydd wedi gwasanaethu’r Brifysgol a’i rhagflaenydd, Coleg y Drindod Caerfyrddin, dros y 30 mlynedd diwethaf.

Wedi’i haddysgu yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth ac Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth Caerfyrddin, Ysgol Ramadeg y Merched, cwblhaodd yr Athro Thomas ei gradd israddedig mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Caerwysg. Yna astudiodd ar gyfer a doethuriaeth mewn Dynameg Hylif ym Mhrifysgol Abertawe ac yna cafodd cytundeb ymchwil ôl-ddoethuriaeth am flwyddyn a noddwyd gan Rolls Royce. Dechreuodd ei gyrfa addysgu fel athrawes Mathemateg yn Ysgol Olchfa, Abertawe. Fe'i penodwyd i swydd darlithydd Mathemateg yn Athrofa Addysg Uwch Gorllewin Morgannwg ym 1986 ac ymunodd â Choleg y Drindod ym 1989. Mae wedi dal swyddi academaidd uwch fel Pennaeth Mathemateg, Cofrestrydd, Dirprwy Is-Ganghellor a Dirprwy Is-Ganghellor.

Wrth gyflwyno’r wobr dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Sefydlir y Gymrodoriaeth fel cymrodoriaeth oes a dim ond un unigolyn fydd byth yn dal y gymrodoriaeth hwnnw. Mae wedi ei sefydlu yn nhraddodiadau Coleg y Drindod yn enw Connop Thirwell, Esgob Tyddewi a greodd y coleg hwn yn 1848. Fe’i cynigir i wŷr a merched teilwng sydd, dros y blynyddoedd, wedi gwneud cyfraniad nodedig naill ai i fywyd y brifysgol neu i Gymru yn gyffredinol.

Eleni, ar ôl mwy na 30 mlynedd o wasanaeth, bydd yr Athro Catrin Thomas yn ymddeol. Mae hi’n unigolyn sydd, dros y blynyddoedd, wedi arddangos arweinyddiaeth ragorol a nodedig ar draws y sefydliad.

Mae prifysgolion yn cael eu gwneud gan bobl; fe'u gwneir gan bŵer cyfunol a chan arweinyddiaeth gyfunol unigolion sy'n dod ynghyd dros achos cyffredin a phwrpas cyffredin. Rwyf wedi bod yn hynod ffodus fel Is-Ganghellor o gael yr Athro Catrin Thomas yn un o fy uwch ddirprwyon ac, yn wir rwyf wedi’i ddweud o’r blaen ac ar gofnod cyhoeddus, mae’r hyn a gyflawnwyd yng nghyd-destun trawsnewid y Brifysgol hon yn ddyledus i’r bartneriaeth a  gwaith cymaint o unigolion. Rwy’n cydnabod gyda diolch y gwaith mae hi wedi’i wneud fel arweinydd. Mae hi'n unigolyn sydd dros 30 mlynedd wedi mynegi strategaeth glir iawn i sicrhau dyfodol y sefydliad hwn.  Mae wedi dangos cadernid barn, cadernid cymeriad a chadernid gwaith.

Wrth i ni nawr ddathlu ei chyfraniad a’i gwaith, mae’n bleser ac yn anrhydedd mawr i mi ar ran y Brifysgol gydnabod ei chyfraniad a dyfarnu iddi gymrodoriaeth oes yn enw Connop Thirwell”.

Yn ei hymateb i’r cynulliad gradd, anogodd yr Athro Thomas fyfyrwyr i sefyll dros eu credoau a’u hawliau. Anogodd y myfyrwyr i beidio â chymryd bywyd yn ganiataol gan son am ei phrofiad ei hun o gael diagnosis o Sglerosis Ymledol (MS) rai blynyddoedd yn ôl.

Dywedodd: “Fy nghyngor i chi yw herio ac ymladd dros eich credoau a sefyll dros eich hawliau chi a hawliau pobl eraill. Mewn gwirionedd ni fu erioed amser pan fu hynny'n bwysicach. Peidiwch byth â chymryd unrhyw beth yn ganiataol gan y gall bywyd newid yn gyfan gwbl ac yn annisgwyl mewn amrantiad fel y gwnaeth i mi pan wnes i ddarganfod bod gen i MS. Mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud y gorau o bob dydd ac i edrych ar fywyd fel cwpan hanner llawn yn hytrach na chwpan hanner gwag. Pob lwc i chi gyd sy'n graddio yma heddiw. Gwnewch yn fawr o bob cyfle a gewch. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd”.