Dyfodol pren yng Nghymru


20.05.2022

Mae'n wych bod datgarboneiddio ac adferiad gwyrdd wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru (2015). Ond beth y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?

In April, in partnership with WoodKnowledge Wales, the University of Wales Trinity Saint David was rewarded funding from the UK Community Renewal Fund, to deliver a feasibility study and business plan with the ambition to establish a Welsh Timber Development Centre, which includes plans for the first timber focussed facility in Wales.

Y diwydiant adeiladu yw un o gyflogwyr mwyaf Cymru, ac mae'n darparu dros 100,000 o swyddi, ond, yn anffodus, mae hefyd yn un o'n llygrwyr mwyaf. Dyna pam y mae ein cenhadaeth yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) i uwchsgilio'r sector i ddod yn ddiwydiant Sero-net yn bwysicach nag erioed. A ninnau'n bartneriaid allweddol yn y prosiect Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac ymgyrchoedd addysgol Sero-net eraill, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod dyfodol disglair yn wynebu sgiliau gwyrdd ac addysg werdd yng Nghymru.

Ein huchelgais yw sicrhau bod defnyddiau cynaliadwy yn wirioneddol amlwg ym maes adeiladu yng Nghymru, a byddwn yn cefnogi Cymru Carbon Isel trwy sicrhau bod adeiladau preswyl a masnachol, fel ei gilydd, yn llawer mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni a charbon, ynghyd ag ategu'r ecosystem sgiliau a gwybodaeth sy'n ofynnol i gyflawni'r allbynnau hyn.

Cais llwyddiannus am gyllid

Ym mis Ebrill, mewn partneriaeth â WoodKnowledge Wales dyfarnwyd cyllid i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gan Cronfa Adfywio Cymunedol y DU i ddarparu adroddiad dichonoldeb a chynllun busnes ac iddynt y nod o sefydlu Canolfan Datblygu Pren Cymru, a fyddai'n cynnwys cynlluniau ar gyfer y cyfleuster cyntaf yng Nghymru i ganolbwyntio ar bren. Pren yw ein hunig ddefnydd adeiladu adnewyddadwy sydd ar gael yn eang, ac yn hynny o beth mae ganddo rôl bwysig yn y gwaith o ddatblygu dulliau adeiladu carbon isel newydd.

Bydd ein Canolfan Datblygu Pren, a leolir yn Llanbedr Pont Steffan yn y Canolbarth, yn rhoi cyfle i gyd-ddylunio/ddatblygu cynnyrch ac arloesi gwasanaethau, ynghyd ag i ddechrau mentrau a busnesau newydd, camau a fydd yn arwain at swyddi newydd a gwell sgiliau ar gyfer y rhanbarth a Chymru. Mae WoodKnowledge Wales (WKW) yn dîm o arbenigwyr o ystod o ddisgyblaethau a sectorau, megis penseiri, peirianwyr, ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes tai, gwyddonwyr coed a melinwyr coed. Gyda'n gilydd, rydym yn ymrwymedig i ysgogi newid trwy gydweithio ledled y byd academaidd, diwydiant a pholisi.

Yn ei gynllun cyfredol, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi nodi 'hybu'r economi' yn brif flaenoriaeth. Mae Strategaeth Economaidd newydd y Cyngor Sir yn amlinellu'r modd y mae'n bwriadu cyflawni hyn ac yn amlygu'r berthynas agos rhwng ffyniant economaidd ac asedau naturiol y sir.

Mae ein gweithgarwch yn rhan allweddol o Canolfan Tir Glas, sef gweledigaeth strategol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gyfrannu at y gwaith o adfywio tref Llanbedr Pont Steffan, ac mae'r fenter hon yn gatalydd allweddol ar gyfer ystod o ddatblygiadau cysylltiedig ledled yr ardal.

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig

Cafwyd rhan ganolog ein cyllid i ddatblygu cyrsiau a digwyddiadau a fyddai'n arbenigo mewn pren o Gymru, gweithgynhyrchu, ac adeiladwaith/ôl-osod carbon isel. Bydd y rhain yn cael eu darparu yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf 2022 gan arbenigwyr yn y diwydiant a'n hacademyddion blaenllaw.

Mae rhaglen y diwgyddiadau ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, masnachwyr, myfyrwyr, neu hyd yn oed y rhai sy'n ystyried newid gyrfa, ac mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n amrywio o weithgynhyrchu paneli yn unol ag amserlen uwch ar gyfer adeiladau uchel eu perfformiad, i ddefnyddio technegau i fesur effaith adeiladau, i gynnal gwerthusiadau o berfformiad adeiladau yn achos ôl-osod, ac i'r ffordd o gynhyrchu'r pren y mae arnom ei angen i sicrhau Cymru ddi-garbon mewn modd cynaliadwy.

Byddant yn rhan o gynigion i ymgorffori ein dysgu ymhellach mewn cyrsiau newydd a chyrsiau cyfredol a gynigir ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.Bydd y sesiynau gweithdy a gynllunnir ar gyfer y Ganolfan Datblygu Pren hefyd yn cefnogi cymwysterau newydd ym maes addysg bellach ac addysg uwch, a hynny mewn partneriaeth â Coleg Sir Gar a Coleg Ceredigion.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk