Enwi’r Drindod Dewi Sant yn Brifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn 2022
29.06.2022
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill y teitl Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn yn Seremoni Wobrwyo Ewropeaidd Triple E 2022 yn Fflorens, yr Eidal.
Yn ogystal, derbyniodd David Kirby, Athro Ymarfer yn y Drindod Dewi Sant, wobr Cyflawniad Oes yn y seremoni i gydnabod ei arweinyddiaeth yn y maes a'i waith parhaus i gefnogi myfyrwyr yn y Brifysgol.
Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd a chreadigol ei myfyrwyr a’i graddedigion fel egwyddor gynllunio allweddol ac mae sgiliau o’r fath wedi’u hymgorffori yn ein rhaglenni.
Mae Gwobrau Triple E yn gydnabyddiaeth fyd-eang o ymdrechion i sicrhau entrepreneuriaeth ac ymgysylltiad ym maes addysg uwch. A hwythau’n cael eu gweithredu’n rhanbarthol, mae Gwobrau Triple E yn ceisio meithrin newid mewn prifysgolion gan bwysleisio eu rôl yn eu cymunedau a’u hecosystemau.
Mae’r Wobr Prifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn yn cydnabod sefydliad sydd wedi dylunio a chyflawni dull eithriadol o ran ymgorffori entrepreneuriaeth ar draws y brifysgol. Mae’r sefydliad wedi datblygu’i ddealltwriaeth unigryw ei hun o’r hyn mae’n ei olygu i’r sefydliad i fod yn entrepreneuraidd, gan gydweddu i’r amgylchedd y mae’n gweithredu o’i fewn. Mae entrepreneuriaeth wrth wraidd y sefydliad ac yn cael ei meithrin nid yn unig ymhlith y staff a’r myfyrwyr, ond hefyd gan y sefydliad ei hun sy’n gweithredu’n entrepreneuraidd ac yn effeithio’n gadarnhaol ar ystod eang o randdeiliaid.
Meddai’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant: “Mae'n anrhydedd mawr derbyn y wobr am Brifysgol Entrepreneuraidd Ewropeaidd y Flwyddyn, sy'n gydnabyddiaeth bwysig o ymroddiad ein staff i gefnogi myfyrwyr entrepreneuraidd a mentrau newydd a busnesau bach a chanolig yn ein cymunedau.
"Mae buddsoddiad parhaus y Brifysgol wedi gweld egwyddorion entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd yn cael eu hymgorffori ym mhob rhan o'r sefydliad cyfan, gan gynnwys ei haddysgu, partneriaethau â diwydiant a rhaglenni ymchwil.
“Rydym wedi creu diwylliant o fenter sy'n ymgysylltu â nifer cynyddol o fyfyrwyr a graddedigion drwy ein prosiectau a'n rhaglenni arloesol. Yr ydym hefyd yn hybu ymgysylltu â busnesau drwy brosiectau ymchwil cydweithredol gyda diwydiant ac yn cefnogi busnesau bach a chanolig i dyfu ac arloesi ac uwchsgilio staff i ddatrys heriau'r byd go iawn.”
Meddai Dr Kathryn Penaluna, Athro Cysylltiol mewn Addysg Fenter a Chyfarwyddwr yr Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol (IICED): “Cymeron ni ran yn y gystadleuaeth yn rhan o ddathliadau ein daucanmlwyddiant, am fod ein sylfaenwyr yn amlwg yn entrepreneuraidd. Mae ein record o ran busnesau newydd gan raddedigion yn gyson ymhlith yr ystadegau uchaf yn y DU, ac rydym ar y brig yn y DU ar hyn o bryd o ran y gallu i oroesi am fwy na 3 blynedd.
“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi cael ein cydnabod yn Brifysgol Entrepreneuraidd y Flwyddyn. Mae'n cydnabod ein gwaith ym myd addysg sy'n datblygu meddylwyr arloesol creadigol a'n cyrhaeddiad rhyngwladol drwy brosiectau a arweinir gan IICED. Mae ein hymchwil yn y maes hwn hefyd newydd gael ei gydnabod yng nghanlyniadau’r REF, ac mae'r wobr hon yn achos arall ar gyfer dathlu brwd.”
Yn ôl yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) roedd safle’r Drindod Dewi Sant yn 2019-2020 fel a ganlyn:
1af yn y DU am fusnesau newydd sy’n dal i weithredu ar ôl 3 blynedd.
2il yn y DU am gyfanswm y cwmnïau gweithredol.
9fed yn y DU am gyfanswm y rheini a gyflogir mewn busnesau newydd gan raddedigion.
Mae IICED yn arweinydd byd-eang cydnabyddedig o ran datblygu mathau o addysg sy'n paratoi ar gyfer y dyfodol ac sy'n helpu dysgwyr i lwyddo. Maent yn cynnig amrywiaeth o gymorth i fusnesau newydd, gyda’r rhan fwyaf o’r busnesau wedi’u hysbrydoli gan y cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd hyn ac wedi’u cynllunio ar y cyd â nhw. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’u menter Syniadau Mawr Cymru, mae’n gymysgedd pwerus.
Gan roi sylwadau ar y cyhoeddiad, meddai’r Athro David A Kirby, sylfaenydd Cwmni Deillio’r Brifysgol, Harmonious Entrepreneurship Ltd: “Mae hon yn gydnabyddiaeth amserol iawn a haeddiannol iawn i’r Brifysgol. Dros y deugain mlynedd ddiwethaf neu fwy, drwy’i thri champws mae wedi arloesi o ran entrepreneuriaeth, nid yn unig yng Nghymru, ond yn rhyngwladol. Mae wedi gwneud hynny’n dawel ac yn effeithiol ac mae’n parhau i wneud hynny nid yn unig drwy gefnogi cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru am lesiant cenedlaethau’r dyfodol yn y wlad hon, ond drwy ymchwilio’n barhaus a chyflwyno mentrau newydd sy’n arwain datblygiad y pwnc yn rhyngwladol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk