Ethol academydd blaenllaw o'r Drindod Dewi Sant yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
03.05.2022
Mae’r Athro Bettina Schmidt o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae Bettina Schmidt yn Athro mewn Astudio Crefyddau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant lle mae'n dysgu ar gyrsiau astudio crefyddau ac anthropoleg crefyddau. Mae ganddi gefndir academaidd mewn Anthropoleg Ddiwylliannol a astudiodd ynghyd ag Astudiaethau Crefyddol ac Ieithoedd Affricanaidd ym Mhrifysgol Marburg yn yr Almaen. Yn 2004 symudodd i’r DU a dysgu yn gyntaf yn Rhydychen ac yna ym Mhrifysgol Bangor cyn symud ymlaen i’r Drindod Dewi Sant yn 2010.
Mae Bettina wedi gwasanaethu fel Llywydd Cymdeithas Brydeinig Astudio Crefyddau ac fel Is-lywydd TRS-UK. Tan yn ddiweddar, hi oedd dirprwy gadeirydd is-banel REF2021 ar gyfer Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol.
Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac yn gystadleuol iawn. Fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.Wrth glywed y newyddion, dywedodd yr Athro Bettina Schmidt:
“Mae wir yn anrhydedd cael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a bod fy nghyflawniadau academaidd yn cael eu cydnabod fel hyn. Edrychaf ymlaen yn fawr at gyfrannu at weithgareddau a gwaith y gymdeithas yn y dyfodol.”
Eleni, mae chwe deg chwech o Gymrodyr newydd yn cael eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae eu harbenigedd yn amrywio o beirianneg awyrofod i hanes Ewropeaid Affricanaidd, microadeileddau seramig i’r ffidl Faróc, menywod mewn llawfeddygaeth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a llawer o feysydd eraill.
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas:
“Mae gwybodaeth arbenigol ein Cymrodyr newydd yn rhagorol. Mae ystod yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i gwrdd â’r heriau amgylcheddol, technegol, cymdeithasol, diwylliannol ac iechyd sy’n ein hwynebu.
“Mae gallu’r Gymdeithas i ddod â’r bobl dalentog yma at ei gilydd yn ein caniatáu i ddechrau a dylanwadu ar ddadleuon pwysig am sut mae Cymru, y DU a’r byd yn gallu llywio’r dyfroedd tymhestlog sydd o’n blaen heddiw.
”Rwy’n falch iawn bod 50% o’n Cymrodyr yn fenywod. Mae hyn yn dangos ein bod yn dechrau cwrdd â’n hymrwymiadau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae yna waith i’w wneud eto, wrth i ni weithio i sicrhau bod y Gymdeithas yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ond mae hwn yn gam pwysig.”
Wedi’i sefydlu yn 2010, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn defnyddio gwybodaeth ei harbenigwyr i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysgu, a darparu cyngor polisi annibynnol. Mae ychwanegu Cymrodyr newydd bob blwyddyn yn cynorthwyo'r Gymdeithas i gyflawni'r amcanion hyn.
Gallwch lawrlwytho rhestr lawn o’r Cymrodyr newydd yn cynnwys eu sefydliadau a meysydd ymchwil yma.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076