Ffilm ‘Save the Cinema’ yn dylunio a chreu golygfeydd yng Ngweithdy Dylunio Setiau a Chynhyrchu y Drindod Dewi Sant


18.01.2022

Mae’n bleser mawr gan y Gweithdy Dylunio Setiau a Chynhyrchu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi ei fod wedi bod yn rhan o’r ffilm newydd ei rhyddhau ‘Save the Cinema’ sy’n gynhyrchiad ar gyfer Sky.

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) Set Design Production Scenery Workshop is proud to announce its involvement in the newly released ‘Save the Cinema’ film for Sky.

Stori wir yw ‘Save the Cinema’ sy’n edrych yn ôl ar ymgyrch Liz Evans i achub Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin rhag cau.  Mae sêr megis Jonathan Pryce, Samantha Morton, Tom Felton, Adeel Akhtar a Susan Wokoma yn ymddangos yn y ffilm.  

Wrth i’r gwaith cynhyrchu ddechrau, daeth Gwyn Eiddior, y cyfarwyddwr celf, i Gampws Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant i weld a oedd unrhyw bropiau neu olygfeydd ar gael y gallai eu defnyddio ar gyfer y ffilm am ei bod yn cael ei ffilmio yng Nghaerfyrddin.  Ar ôl gofyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn hwyrach y diwrnod hwnnw am weithdy i’w ddefnyddio i adeiladu setiau ar gyfer y ffilm yng Nghaerfyrddin, awgrymodd y Darlithydd, Dave Atkinson, iddyn nhw ddefnyddio’r cyfleusterau yn y Drindod Dewi Sant.  

Yn sgil hyn, cafodd tîm adeiladu’r ffilm ei leoli yng Ngweithdy Golygfeydd Dylunio Setiau a Chynhyrchu yn y Drindod Dewi Sant, sy’n golygu bod yr holl waith adeiladu a’r gwaith celf golygfeydd a grëwyd i’r ffilm, wedi eu gwneud ar y campws.  Yn ogystal â Dave, a gafodd ei gyflogi’n rheolwr y gweithdy, roedd dau o raddedigion y cwrs BA Dylunio Setiau a Chynhyrchu, Mari Hullett ac Ashley Phillips, yn ddigon ffodus i gael gwaith o’r prosiect hwn yn yr adrannau celf golygfeydd a graffeg.  

Buon nhw’n gweithio ochr yn ochr â’r cynllunydd cynhyrchiad profiadol Jonathan Houlding sydd wedi gweithio ar gynyrchiadau sgrin o’r radd flaenaf megis ‘Love Actually’, ‘Band of Brothers’ a ‘The Martian’.  Ychwanega Dave,

“Gwnaethom ni greu amrywiaeth o olygfeydd i’r ffilm.  Yn bennaf addurniadau ar gyfer Theatr y Lyric, a golygfeydd y theatr buon nhw’n ffilmio arnyn nhw.  Y salon trin gwallt oedd y peth mwyaf i gael ei adeiladu, ac roedd hwnnw’n siop wag.  Bu’n rhaid i ni ailosod salon cyfan mewn yno.  Un elfen a oedd yn hwyl i’w gwneud oedd set y Brecwast Mawr – gwnaethon ni’r ystafell wely lle buon nhw’n cyfweld pobl.”

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) Set Design Production Scenery Workshop is proud to announce its involvement in the newly released ‘Save the Cinema’ film for Sky.

Meddai Mari Hullett, sydd wedi graddio o’r cwrs:

“Roedd gweithio ar ‘Save the Cinema’ fel artist golygfeydd yn gyfle gwych a byddaf i bob amser yn gwerthfawrogi f’amser yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad fel profiad i fynd ag ef ymhellach i mewn i fy ngyrfa.  Rwy’n ddiolchgar dros ben am y cyfle i weithio wrth ochr y tîm golygfeydd ac adeiladu cyfeillgar a medrus iawn oherwydd bu modd i mi ddysgu cymaint ganddyn nhw.  Bu modd i mi hefyd weithio ar rolau gwahanol o fewn yr adran gelf megis propiau graffig, ac roeddwn i’n gwerthfawrogi hynny’n fawr am fy mod wedi profi sbectrwm ehangach o sgiliau sy’n ymwneud â set ffilm.  Ar y cyfan, roedd yn brofiad i lonni’r calon i fod yn rhan o brosiect a oedd yn ymwneud â fy nhref brifysgol a’r gymuned ehangach.  Hon hefyd oedd fy rôl broffesiynol gyntaf ar brosiect ffilm sy’n wir wedi agor fy llygaid i’r cyfleoedd cynyddol o fewn y diwydiant ffilmiau yng Nghymru.  Bydd yn gyffro mawr i mi ei gweld ar y sgrin!”

Mae profiad fel hyn wedi bod yn gyfle gwych, ac yn gyfle i’r myfyrwyr fedru cael cipolwg ar y diwydiant. Ychwanega Dave Atkinson:

“Mae croesawu Sky Cinema i’r campws wedi rhoi cyfle i’r Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin nid yn unig arddangos yr ymarferwyr o safon uchel sy’n graddio o’r cwrs Dylunio Setiau a Chynhyrchu, ond hefyd arddangos y cyfleusterau sydd gennym ni, megis y gweithdy golygfeydd sydd ag offer a pheiriannau o’r radd flaenaf.”

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk