Gradd a gwobr i Aslihan Aida Abdikoğlu
08.07.2022
Mae myfyrwraig ar gampws Llambed y Drindod Dewi Sant yn dathlu heddiw wedi iddi raddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ac ennill gwobr am ei gwaith caled.
Mae Aslihan Aida Abdikolu wedi graddio heddiw (dydd Gwener, 8 Gorffennaf) gyda BA mewn Anthropoleg a Datblygiad Rhyngwladol yn ogystal â derbyn ‘Gwobr yr Athro Alan MacFarlane a Sarah Harrison ar gyfer Anthropoleg’ eleni. Sefydlwyd y wobr i amlygu a chydnabod cyflawniad eithriadol ym maes Anthropoleg yn y Brifysgol.
Ar ôl cwblhau gradd gysylltiol mewn Astudiaethau Rhyngddiwylliannol a Rhyngwladol yng Ngholeg Douglas Vancouver, roedd Aslihan eisiau parhau â'i hastudiaethau dramor. Ar ôl siarad â’r Tîm Ymgysylltu Byd-eang yng Ngholeg Douglas, cafodd gyfle i astudio ymhellach yn Llanbedr Pont Steffan. Dywedodd Aslihan Aida Abdikolu:
“Roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau parhau i ddilyn llwybr tebyg, ac roeddwn wrth fy modd o gael y cyfle i astudio anthropoleg a datblygiad rhyngwladol yn y Drindod Dewi Sant – roeddwn i’n gyffrous iawn i ddechrau gan ei fod yn cysylltu fy nau ddiddordebau academaidd.
Roeddwn wrth fy modd bod y cyrsiau hyn yn canolbwyntio'n fawr ar y rhaglen, roedd pob cwrs a gymerais yn cyfrannu at fy nhraethawd hir mewn rhyw ffurf hefyd. Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd eisiau dysgu mewn ffordd llawer mwy personol a mwy penodol. Rwy'n meddwl ei fod yn gwrs a dull dysgu perffaith i'r rhai sydd wir eisiau plymio i'w hastudiaethau a mwynhau'r broses o weithio’n galed.
Mae'r holl gyrsiau yr wyf wedi'u cymryd a'r profiadau y mae'r brifysgol wedi'u rhoi i mi wedi cyfrannu at fy llwyddiant proffesiynol ac academaidd. Roedd yr holl brofiad yn Llanbedr Pont Steffan hefyd wedi rhoi cryn dipyn i mi yn bersonol. Roedd dysgu byw mewn lle nad oeddwn yn gwybod dim amdano cyn cwympo mewn cariad ag ef yn fy nysgu i drysori'r pethau bach a'r dyddiau araf a glawog!
Rhai o’r heriau oedd y sioc ddiwylliannol gychwynnol a brofais yn ystod y misoedd cyntaf o fyw yn Llambed ar ôl bod mewn dinasoedd mawr fel Vancouver a Budapest cyhyd. Efallai yn yr ychydig wythnosau cyntaf ei fod hyd yn oed yn unig ar adegau, ond cwympais mewn caraiad gyda Llambed cyn dod o hyd i fy ngrŵp o ffrindiau, yn ogystal â staff caredig y brifysgol.”
Ar ddiwedd ei chwrs cafodd Aslihan gyfle i weithio fel intern ymchwil yn Sazani Associates yng Nghaerfyrddin. Ychwanegodd hi:
“Diolch i Charlene o Go Wales roeddwn yn gallu bod yn intern ymchwil yn Sazani Associates yng Nghaerfyrddin. Mae’r profiad gwaith wedi bod mor llwyddiannus fel fy mod ar hyn o bryd, gydag anogaeth Sazani, yn y broses o wneud cais i ddilyn gradd meistr yn Sefydliad Ymchwil, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd Prifysgol British Columbia (UBC).
Ar ben hynny, cynigiodd Sazani swydd o bell i mi gyda’r cwmni fel ymchwilydd. Mae hynny’n dal i deimlo fel breuddwyd ac rydw i mor ddiolchgar amdano.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael ar gampws Llambed y Brifysgol, cliciwch yma - https://www.uwtsd.ac.uk/cy/llambed/
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076