Graddedigion MSc Peirianneg y Drindod Dewi Sant yn gwneud effaith yng Nghymru
21.07.2022
Dechreuodd Mike Williams, Jordan Jenkins ac Iwan Dyer eu taith brifysgol ar flwyddyn Sylfaen gan symud ymlaen i gyrsiau peirianneg israddedig ac ȏlraddedig.
Yn ystod ei gwrs meistr, sicrhaodd Mike swydd fel Cydymaith Ymchwil cyflogedig yn gweithio ar dechnoleg ailgylchu Batri Lithiwm-Ion gydag EV Recycling / Treharne Automotive Engineering. Ariennir y prosiect gan Bartneriaeth SMART Llywodraeth Cymru ac mae’r prosesau a ddatblygwyd wedi hysbysu canolfan ailgylchu batris Lithiwm-Ion gyntaf Cymru a chyfleusterau tebyg yn UDA.
Sicrhaodd Jordan swyddi fel darlithydd yn y Drindod Dewi Sant a Chydymaith Ymchwil, ac arweiniodd dîm bach a fu’n llwyddiannus wrth sicrhau cyllid clodfawr Innovate UK – Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) i gynnal astudiaeth ddichonoldeb diwydiannol i systemau gweledigaeth wedi’u galluogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer canfod diffygion mewn cymhwysiad dyddodiad gludiog.
Wrth agosáu at ddiwedd ei radd meistr, llwyddodd Iwan i gael gwaith gyda chwmni oedd yn canolbwyntio ar arfau/cymwysiadau amddiffyn. Mae hon yn uchelgais hirsefydlog ac yn un o'r prif yrwyr ar gyfer ei ddiddordeb mewn peirianneg.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk