Grŵp PCYDDS yn lansio fframwaith Prentisiaeth Gyfreithiol newydd


18.08.2022

Mae Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan gynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, wedi lansio fframwaith Prentisiaeth Gyfreithiol cyntaf Cymru er mwyn darparu addysg a hyfforddiant arloesol a chynaliadwy ar gyfer y Sector Cyfreithiol.

 

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) Group, including Coleg Sir Gar and Coleg Ceredigion has launched Wales’s first Legal Apprenticeship framework to deliver innovative and sustainable education and training for the Legal Sector.

Yr amcan yw datblygu hyfforddiant cyfreithiol rhagorol, gyda staff proffesiynol profiadol yn gweithio’n agos gyda’r sector i ddatblygu amrywiaeth gynhwysfawr o gyrsiau i fodloni ei anghenion sy’n newid yn gyflym.     

Gwnaiff y fframwaith, a gefnogir gan Swyddfa Cymdeithas y Gyfraith, Cymru, helpu cyflogwyr i ddenu staff newydd, yn ogystal ag uwchsgilio staff presennol sy’n awyddus i’w dysgu proffesiynol gamu ymlaen.  

Gwnaiff y rhaglenni alinio’n agos â Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Tertiary Education and Research (TER) Bill) newydd Llywodraeth Cymru, gan gynorthwyo dysgwyr i symud yn hawdd o addysg orfodol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, a thorri lawr rhwystrau er mwyn sicrhau llwybrau dysgwyr haws, a chefnogi buddsoddiad parhaus mewn ymchwil ac arloesiad.   

Gwnânt arbenigo mewn hyfforddiant CILEX, a chânt eu hachredu gan y Chartered Institute of Legal Executives (CILEX) i gyflenwi’r cymwysterau CPQ (CILEX Professional Qualification), Lefel 3 a Lefel 5.

Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd PCYDDS: “Gwnaiff y fframwaith hwn ein galluogi ni i ddarparu addysg a hyfforddiant arloesol a chynaliadwy ar gyfer y Sector Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.”

“Ein bwriad yw bod yn rhagorol wrth addysgu, yn ysbrydoledig o ran profiad a disgwyliad ein cyflogwyr a’n dysgwyr, ac ar yr un pryd, yn ymroddedig o ran gwaith partneriaeth effeithiol ac arloesol.”

Caiff prentisiaethau eu cynnig fel llwybrau sy’n arwain at y proffesiwn cyfreithiol, gan ddarparu’r cyfle i gyfuno gweithio a dysgu drwy gyfuno hyfforddiant mewn swydd ag astudio oddi ar y safle.   

Caiff y Fframweithiau Prentisiaeth hyn eu hariannu’n llawn bellach yng Nghymru.

Meddai Mr Naldo Diana, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu â Busnes ac Arloesi yng Ngholeg  Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Mae prentisiaethau’n hyblyg, ac maent wedi’u dylunio er mwyn cynnig rhaglen ddysgu strwythuredig sy’n gweddu i anghenion yr unigolyn a’r cyflogwr, gan ddarparu llwyfan a wnaiff wella gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwaith, gan wella, yn eu tro, cyflogadwyedd a chamu ymlaen mewn gyrfa.

“O ran cyflogwyr, gall prentisiaethau lanw bylchau sgiliau busnes drwy uwchsgilio neu ailhyfforddi cyflogeion, yn ogystal â helpu recriwtio cyflogeion talentog newydd sydd â photensial i’r busnes. Rydym eisoes yn derbyn nifer mawr o ymholiadau am y cyrsiau sy’n cael eu cynnig.”

Ychwanegodd Mark Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cymdeithas y Gyfraith: “Rwyf wrth fy modd bod Swyddfa Cymdeithas y Gyfraith, Cymru wedi gweithio mor agos gyda CILEX a Llywodraeth Cymru i wireddu’r rhaglen prentisiaeth gyfreithiol arloesol hon.

“Rydym yn croesawu’n fawr iawn y rhaglen brentisiaeth hon a wnaiff ddarparu addysg gyfreithiol reoledig o ansawdd uchel ar gyfer y staff sy’n cael eu cyflogi gan ein haelodau ledled Cymru gyfan.

“Fel Cyfarwyddwr un o’r cwmnïau cyfraith a leolir yn Abertawe, rwy’n gynnwrf i gyd  oherwydd bydd PCYDDS, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn gallu cyflwyno’r rhaglen hon yn uniongyrchol i gwmnïau sydd wedi’u lleoli nid dim ond yng Ngorllewin Cymru yn unig ond hefyd ledled Cymru gyfan. Gwnaiff y rhaglen brentisiaeth hon gyfarparu ein gweithlu’r dyfodol â’r sgiliau hynny sy’n hanfodol ar gyfer galluogi cwmnïau cyfraith yng Nghymru i ddatblygu ac i ffynnu, a’u cyfarparu nhw hefyd i wynebu unrhyw heriau a allai godi yn y dyfodol oherwydd datganoli ymhellach i Gymru unrhyw faterion sy’n ymwneud â chyfiawnder”.

O fis Medi 2022 bydd prentisiaid yn gallu cofrestru ar y rhaglenni gyda’r Fframweithiau Prentisiaeth wedi’u cefnogi gan y Cymhwyster Proffesiynol CILEX (CPQ).                      

Caiff y Fframweithiau Prentisiaeth canlynol bellach eu hariannu’n llawn yng Nghymru.

Lefel 3 Prentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol                                                                            

Lefel 5 Uwch-brentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol                                                                            

I wneud cais am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lydia.david@colegsirgar.ac.uk

Nodyn i'r Golygydd

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy’n gonffederasiwn o nifer o sefydliadau yn cynnwys Prifysgol Cymru, yn ogystal â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn golegau cyfansoddol. Mae’r Grŵp yn cynnig continwwm o addysg bellach i addysg uwch er budd dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.

Gweledigaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw bod yn Brifysgol sydd ag ymrwymiad i lesiant a threftadaeth y genedl wrth galon ei holl weithgareddau. Rhan ganolog y weledigaeth hon yw hyrwyddo a gwreiddio system addysg sector deuol sy’n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir, gan sbarduno datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ar draws Cymru a thu hwnt.

Sefydlwyd y Brifysgol yn 1822 a mae’n ei daucanmlwyddiant yn 2022. Ei Siarter Brenhinol a ddyfarnwyd yn 1928 yw’r hynaf o blith holl brifysgolion Cymru. Mae campysau’r Brifysgol yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd a Llundain, ac mae ganddi Ganolfan Ddysgu yn Birmingham. 

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ymrwymo i osod myfyrwyr yng nghanol ei chenhadaeth drwy ddarparu cwricwlwm dwyieithog perthnasol ac ysbrydoledig, ynghyd ag amgylchedd dysgu cefnogol, buddsoddi yn ei champysau a’i chyfleusterau a sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn cael cyfle i gyflawni eu potensial.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk