Grŵp Y Drindod Dewi Sant yn lansio Academi’r Gyfraith Cymru
21.07.2022
Mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) wedi lansio Academi Gyfreithiol ar gyfer Prentisiaethau sector deuol gyntaf Cymru i ddarparu addysg a hyfforddiant arloesol a chynaliadwy ar gyfer y Sector Cyfreithiol.
Y nod yw datblygu canolfan ragoriaeth mewn hyfforddiant cyfreithiol, gyda staff proffesiynol profiadol yn gweithio’n agos gyda’r sector i ddatblygu ystod gynhwysfawr o gyrsiau i fodloni ei anghenion sy’n newid yn gyflym. Bydd yr Academi, sydd hefyd yn cael ei chefnogi gan Swyddfa Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr, yn helpu cyflogwyr i ddenu staff newydd yn ogystal ag uwchsgilio staff presennol sy’n awyddus i symud ymlaen yn eu datblygiad proffesiynol.
Bydd gwaith yr Academi yn cyd-fynd yn agos gyda Bil Addysg ac Ymchwil Trydyddol (AYT) newydd Llywodraeth Cymru gan helpu i gefnogi dysgwyr i symud yn ddiffwdan o addysg orfodol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, a dymchwel rhwystrau at ddiogelu llwybrau haws i ddysgwyr a chefnogi buddsoddi parhaus mewn ymchwil ac arloesi.
Fe fydd yn arbenigo mewn hyfforddiant CILEX a chaiff ei hachredu gan Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX) i ddarparu cymwysterau Lefel 3 a Lefel 5 y CPQ (Cymhwyster Proffesiynol CILEX).
Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Y Drindod: “Yn rhan o Grŵp Y Drindod, mae Academi’r Gyfraith mewn sefyllfa gref i ddarparu addysg a hyfforddiant arloesol a chynaliadwy ar gyfer y Sector Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr.
“Ein nod yw bod yn eithriadol o ran ein dull addysgu, yn ysbrydoledig gyda phrofiad a disgwyliad ein cyflogwyr a dysgwyr, gan ymrwymo i waith partneriaeth effeithiol ac arloesol.”
Bydd prentisiaethau’n cael eu cynnig fel llwybrau i mewn i broffesiwn y gyfraith, gan roi’r cyfle i gyfuno gwaith a dysgu drwy asio hyfforddi yn y swydd gydag astudio oddi ar y safle.
Bellach, caiff y Fframweithiau Prentisiaeth hyn eu hariannu’n llawn yng Nghymru.
Meddai Naldo Diana, Cyfarwyddwr Gweithredol Ymgysylltu â Busnes ac Arloesi yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae prentisiaethau’n hyblyg ac wedi’u cynllunio i gynnig rhaglen ddysgu strwythuredig sy’n cyd-fynd ag anghenion yr unigolyn a’r cyflogwr gan ddarparu platfform i wella gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gwaith a fydd yn gwella cyflogadwyedd a dilyniant gyrfa.
“I gyflogwyr, gall prentisiaethau lenwi bwlch sgiliau yn y busnes drwy uwchsgilio neu ailhyfforddi gweithwyr, yn ogystal â helpu i recriwtio gweithwyr newydd talentog sydd â photensial i mewn i’r busnes. Rydym eisoes yn derbyn nifer fawr o ymholiadau am y cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn yr Academi.”
Ychwanegodd Mark Davies, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr: “Rwyf wrth fy modd bod Swyddfa Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi bod yn gweithio mor agos gyda CILEX a Llywodraeth Cymru i greu’r rhaglen brentisiaeth gyfreithiol arloesol hon.
“Rydym yn croesawu’r rhaglen brentisiaeth hon a fydd yn darparu addysg gyfreithiol reoledig o ansawdd i’r staff a gyflogir gan ein haelodau ledled Cymru.
“Yn Gyfarwyddwr ar gwmni cyfreithiol yn Abertawe, rwy’n gyffrous y bydd Y Drindod a Choleg Sir Gar yn gallu darparu’r rhaglen hon yn uniongyrchol i gwmnïau sydd nid yn unig yng Ngorllewin Cymru, ond hefyd ar draws Cymru gyfan. Bydd y rhaglen brentisiaeth hon yn rhoi i weithlu’r dyfodol y sgiliau hynny sy’n hanfodol wrth alluogi i gwmnïau cyfreithiol Cymru ddatblygu a ffynnu a’u galluogi i fodloni heriau’r dyfodol a ddaw yn sgil datganoli’r system gyfiawnder ymhellach yng Nghymru.”
O fis Medi 2022 bydd prentisiaid yn gallu cofrestru yn Academi’r Gyfraith, a chefnogir y Fframweithiau Prentisiaeth gan gymhwyster Proffesiynol CILEX (CPQ).
Bellach, mae’r Fframweithiau Prentisiaeth a ganlyn yn cael eu hariannu’n llawn yng Nghymru.
Prentis mewn Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 3
Prentis Uwch mewn Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 5
I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Lydia.david@colegsirgar.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk