Gwobrau Llenyddol Prifysgol Cymru


09.12.2022

Mae Cronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru wedi dyfarnu ei gwobrau blynyddol.

cawcs_university_of_wales building

Cyflwynwyd Gwobr Hywel Dda i Dr Daniel Huws am ei gyfraniad oes i faes llawysgrifau Cymreig. Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith i Dr Simon Brooks am ei gyfrol Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 2021).

Ar 20 Mehefin bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cyhoeddi’r astudiaeth fwyaf trylwyr ac ysgolheigaidd o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig sydd erioed wedi’i gyhoeddi.

Penodwyd Dr Daniel Huws yn archifydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1961. Yn 1967, trodd ei olygon at lawysgrifau canoloesol ac mae ei gyhoeddiadau niferus wedi gweddnewid ein dealltwriaeth o’n treftadaeth lenyddol. Erbyn ei ymddeoliad yn 1992 roedd wedi hen ennill ei blwyf fel y pennaf awdurdod yn ei faes, ac yn 1996 dechreuodd weithio ar ei magnum opus, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800–c.1800. Cyhoeddwyd tair cyfrol hirddisgwyliedig y Repertory gan y Ganolfan Uwchefrydiau a’r Llyfrgell Genedlaethol yn 2022. Cynhaliwyd cynhadledd ‘Llawysgrifau Cymru’ ym mis Mehefin eleni i nodi’r achlysur yng nghwmni Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS.

Meddai Dr Sara Elin Roberts, un o feirniaid y Panel eleni: ‘Diolch i Dr Daniel Huws am ei am ei holl waith ar y llawysgrifau cyfraith dros y blynyddoedd, ei gyfraniadau cyson i Seminar Cyfraith Hywel, ei waith ar Beniarth 28, ei ysgrifau yn Lawyers and Laymen, The Welsh King and his Court a Tair Colofn Cyfraith, ei gyfrol Medieval Welsh Manuscripts ac yn wir y Repertory.’

Daw’r wobr hon o incwm cronfa a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus i goffáu dathlu milflwyddiant Hywel Dda ym 1928.

Simon Brooks for the Sir Ellis-Griffith Memorial Prize

Enillydd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith yw Dr Simon Brooks am ei gyfrol Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 2021). Ganed a maged Simon Brooks yn Llundain i rieni o Gymry. Daeth i Gymru i fynychu Prifysgol Cymru, ac ar ôl graddio a gwneud doethuriaeth yn y Gymraeg bu’n olygydd y cylchgrawn Barn. Mae wedi cyhoeddi amryw o lyfrau ysgolheigaidd gan gynnwys Pam na fu Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2015), astudiaeth o genedlaetholdeb Cymreig. Bellach mae wrthi’n ysgrifennu teithlyfr am y gymuned Gymraeg yn Lloegr. Mae’n adnabyddus hefyd fel llais dylanwadol ym myd polisi iaith; ef oedd awdur yr adroddiad ‘Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’ sy’n sail i rai o bolisïau Llywodraeth Cymru yn y maes. Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar ran Llywodraeth Cymru.

Meddai Dr Brooks, ‘Mae’n hyfryd cael derbyn y wobr hon. Mae ysgrifennu llyfrau ysgolheigaidd yn y Gymraeg yn gallu bod yn waith unig ar adegau, ac roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod cyfnod Covid pan oedd hi’n anodd cael ymateb gan y gynulleidfa oherwydd yr amgylchiadau. Felly, mae derbyn cydnabyddiaeth oddi wrth y gymuned Gymraeg yn werthfawr iawn, ac yn donig. Dwi’n hynod ddiolchgar i Brifysgol Cymru am yr anrhydedd.’

Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y cyhoeddiad gorau yn y Gymraeg sy’n ymdrin â llenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymraeg neu eu gweithiau. Daw’r Wobr o gronfa a godwyd i gofio enw’r diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860–1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn. 

Meddai Margaret Evans ar ran Ymddiriedolwyr Cronfa Dreftadaeth Y Werin:

“Mae’n destun balchder gweld enillwyr hynod deilwng ar gyfer y gwobrau hyn. Ar ran yr ymddiriedolwyr oll hoffwn eu llongyfarch ar eu hysgolheictod. Dyma ddathliad pellach o bwysigrwydd gwaith parhaus y Gronfa i gefnogi a gwobrwyo llwyddiant ar hyd y cenedlaethau.”

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones ar ran y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd:

“Rydym yn ddiolchgar iawn unwaith eto eleni i’r Ymddiriedolwyr am eu cefnogaeth ac i’r beirniaid am eu gwaith manwl. Hoffem longyfarch Dr Daniel Huws a Dr Simon Brooks yn wresog iawn ar ennill y gwobrau nodedig hyn ac am eu cyfraniadau sylweddol i’n hysgolheictod yng Nghymru ac yn rhyngwladol.”

Ataliwyd Gwobr Goffa Vernam Hull 2021.

Nodyn i'r Golygydd

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076