Hanesydd y Coleg yn dod yn Athro Ymarfer


11.02.2022

Mae John Morgan-Guy wedi cael ei wneud yn Athro Ymarfer Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gydnabod ei yrfa academaidd a’i ymchwil.

Professor John Morgan-Guy

Yr Athro John Morgan-Guy

Rhoddir teitl Athro Ymarfer Anrhydeddus i unigolyn er mwyn cydnabod rhagoriaeth academaidd a/neu broffesiynol yn y disgyblaethau hynny sy'n cyd-fynd â bwriadau strategol y Brifysgol.

Yr Athro Morgan-Guy yw hanesydd y Brifysgol  ac mae hefyd wedi gwasanaethu’n archifydd.  Mae'n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus o Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen y Brifysgol.  Mae wedi cynnal ymchwil sylweddol i hanes campws y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, a sefydlwyd yn 1822, ac mae'n aelod allweddol o'r tîm sy'n cyflwyno amrywiaeth o arddangosfeydd am hanes, trysorau ac archifau'r Brifysgol yn rhan o'i dathliadau deucanmlwyddiant.

Yn ogystal, mae'r Athro Morgan-Guy ar hyn o bryd yn golygu dwy gyfrol i'w cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn ddiweddarach eleni:  Mae'r gyfrol gyntaf yn archwilio'r cyfoeth o lawysgrifau a llyfrau print cynnar a gedwir yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen y Brifysgol o dan y teitl Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y  Drindod Dewi Sant ac yn yr ail gyfrol cofnodir agweddau ar hanes y Brifysgol dros y ddau gan mlynedd ddiwethaf. Mae Gwireddu Gweledigaeth: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 1822 – 2022 yn dilyn ei gyfrol flaenorol, A Bold Imagining: University of Wales Lampeter a olygwyd gyda'r cyn Is-Ganghellor, yr Athro Keith Robbins.

Fe'i ganed yng Nghaerdydd, ac mae cysylltiad yr Athro Morgan-Guy â'r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan yn mynd yn ôl dros 60 mlynedd. Mae'n gyn-fyfyriwr a ddechreuodd ar ei astudiaethau israddedig mewn Hanes yng Ngholeg Dewi Sant, fel y’i gelwid ar y pryd, ym mis Hydref 1962. Oddi yno aeth i St Stephens House Rhydychen a chael ei ordeinio yn 1967.

Dychwelodd i Gaerdydd i ddechrau ei weinidogaeth yn gurad cynorthwyol yn Sblott, rôl a gyflawnodd am dair blynedd cyn symud i Sir Fynwy yn offeiriad plwyf tan 1980.

Bu'n offeiriad rhan-amser ac yn ymgynghorydd archifau Awdurdod Iechyd Gwlad yr Haf am ddeuddeg mlynedd cyn dychwelyd i'r weinidogaeth amser llawn, gan wasanaethu tri phlwyf sirol o amgylch y Drenewydd yn Sir Drefaldwyn.

Yn 1984, dechreuodd ei ddoethuriaeth ar Eglwys y 18fed Ganrif yn Hen Esgobaeth Llandaf 1660 – 1815 yn fyfyriwr rhan-amser yn Llanbedr Pont Steffan ac mae'n dweud ei fod yn credu mai ef oedd y cyntaf i gael gwneud hynny yn fyfyriwr dibreswyl. Cynhaliwyd ei ymchwil dros gyfnod o 14 mlynedd ac roedd yn cynnwys dwy gyfrol o 874 o eiriau. Cwblhawyd ei draethawd ymchwil ar adeg pan nad oedd unrhyw gyfyngiadau o ran hyd na nifer geiriau wedi'u gosod yn y rheoliadau academaidd. Mae'n un o'r ychydig bobl sydd â Thrwydded Ôl-Ddoethurol mewn Diwinyddiaeth ac mae ganddo hefyd Ddiploma mewn Gweinidogaeth o Brifysgol Rhydychen.

Dychwelodd i Lanbedr Pont Steffan yn ddarlithydd rhan-amser yn Hanes yr Eglwys ac yn archifydd y Brifysgol yn 1997. Bu hefyd yn darlithio yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ar y pryd.

  Bu'n gweithio ochr yn  ochr â'r artist a'r hanesydd celf, Peter Lord, ar  brosiect ymchwil Diwylliant Gweledol Cymru Prifysgol Cymru.  

Cydweithiodd â'r Athro Martin O'Kane yn olygydd y gyfrol, Biblical Art from Wales, a gyhoeddwyd gan Sheffield Phoenix Press a dderbyniodd grant Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), a barnwyd bod iddi statws rhyngwladol yng nghyflwyniad y Brifysgol i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2014. 

Fe'i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol am ei waith ar glefydau heintus y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Mae'n Gymrawd o’r Gymdeithas Hanes Frenhinol, ac yn Gymrawd Cymdeithas Hynafiaethau. Bu'n gymrawd gwadd o'r Ganolfan Methodistiaeth a Hanes yr Eglwys ym Mhrifysgol Oxford Brookes yn 2010 a 2020.

Yr Athro Morgan-Guy yw cyd-olygydd y Journal of Religious History, Literature and Culture gyda'i gyd-gyn-fyfyriwr o Lanbedr Pont Steffan, yr Athro William Gibson, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru.

Mae wedi cyhoeddi'n helaeth - mwy na chant o bapurau mewn cyfnodolion, llyfrau aml-awdur a monograffau, y cyntaf pan oedd yn dal i fod yn yr ysgol yn 1961. Mae'r rhain wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar ddisgyblaethau hanes yr eglwys, y celfyddydau gweledol a hanes meddygol. Mae'n adolygydd rheolaidd ar gyfer sawl cylchgrawn academaidd. Mae ei ddiddordebau penodol yn hanes yr Eglwys Anglicanaidd, yn enwedig yng Nghymru, yn y cyfnod ôl-Ddiwygiad, yn ei chelf a'i phensaernïaeth; ac yn y maes meddygol ym maes iechyd y cyhoedd a thrin clefydau heintus yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Bu'n aelod o bwyllgor Cymdeithas Hanes Meddygaeth Prydain, a Chynrychiolydd Cenedlaethol Prydain i Gyngor y Gymdeithas Ryngwladol er Hanes Meddygaeth yn y 1980au, ac ar hyn o bryd mae'n un o ymddiriedolwyr Cyfeillion Eglwysi Digyfaill.

Gwasanaethodd yr Athro Morgan-Guy yn Gaplan dros dro yn y Brifysgol cyn iddo ymddeol yn 71 mlwydd oed ond  mae'n cynnal ei gysylltiad â Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen y Brifysgol, sy'n gartref i'r Casgliadau Arbennig.

Meddai’r Athro Morgan-Guy: "Mae'n bleser ac yn fraint cael fy ngwneud yn Athro Ymarfer yn y Brifysgol. Mae gen i gysylltiad gydol oes â champws Llambed y Brifysgol ar ei amrywiol ffurfiau yn hanes addysg yng Nghymru". 

Meddai’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor: "Mae'r Brifysgol yn dathlu deucanmlwyddiant sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan gan yr Esgob Burgess eleni. Roedd hyn yn arwydd o ddechrau addysg uwch yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o benodi'r Athro John Morgan-Guy yn Athro Ymarfer. Mae'n un o gyn-fyfyrwyr Coleg Dewi Sant ac wedi gwasanaethu’n gaplan dros dro ar Gampws Llambed rhwng 2013 a 2016. Daw John â chyfoeth o brofiad gydag ef mewn Celf Feiblaidd yng Nghymru a Hanes yr Eglwys sy'n greiddiol i hanes Campws Llambed.

Bydd John yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu arweinyddiaeth strategol wrth gynnal hanes cyfoethog y Brifysgol ar gampws Llambed".