Helpu eraill yw nod ymchwil myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant i ‘anableddau anweledig’
07.02.2022
Mae astudio wedi bod yn daith o hunan-ddarganfod i Carol Vaughan Roberts, un o raddedigion MBA campws Llundain, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Derbyniodd Carol ei Thystysgrif Sgiliau yn y Gweithle (TystAU), BA (Anrh) Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer Gradd yn y Gweithle ac yn fwyaf diweddar ei MBA mewn Rheoli Adnoddau Dynol ar gampws y brifysgol yn Llundain. Ym mis Chwefror 2021, penderfynodd barhau â’i haddysg ac ymunodd â’r rhaglen Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA) ac mae ar fin symud ymlaen i Ran 2 (y daith ymchwil) ei hastudiaeth Ddoethurol.
Mae Carol, sydd â Dyslecsia ac sy’n cydnabod y gefnogaeth a roddwyd iddi drwy gydol ei chyfnod yn y Brifysgol, wedi defnyddio ei thaith ddysgu bersonol a’i hastudiaethau dilynol fel sail i ymchwil i helpu eraill yn ei sefyllfa.
Meddai Carol: “Ar gyfer fy nhraethawd hir dewisais ymchwilio i anableddau anweledig a’u heffeithiau ar gyflogaeth, pwnc sydd o ddiddordeb mawr i mi ac sydd wedi fy arwain i gofrestru ar y rhaglen ddoethuriaeth yma. Rwy’n bwriadu datblygu fy astudiaethau ymhellach i ddarganfod ffyrdd y gall gweithwyr gefnogi ac annog pobl ag anableddau anweledig i gael eu cynnwys a’u cefnogi gyda’u llwybrau gyrfa. Byddai hyn yn fy rhoi mewn sefyllfa dda i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr ar y pwnc hwn yn fy ngyrfa yn y dyfodol.”
Dywedodd Carol ei bod wedi cael trafferth yn yr ysgol fel plentyn. “Roeddwn i wedi cael fy labelu yn dwp a dinistriol. Fodd bynnag, llwyddais i sicrhau rhai swyddi da yn fy ngyrfa trwy weithio'n galed a gweithio o'r gwaelod i fyny ar gyfer pob rôl,” ychwanegodd.
“Llwyddais i ennill NVQ sef y cymhwyster a’m harweiniodd i gofrestru ar gyfer y TystAU sgiliau yn y gweithle yn y Drindod Dewi Sant. Yn anffodus, cefais fy niswyddo wedyn ond penderfynais gael y cymwysterau ychwanegol yr oedd eu hangen arnaf i roi fy hun ar y llwybr iawn - yn lle gweithio fy ffordd i fyny o waelod yr ysgol eto.”
Dywed Carol ei bod yn cofio teimlo’n bryderus wrth feddwl am ysgrifennu aseiniadau ond i hyn gael ei ddilyn yn gyflym gan ryddhad pan dderbyniodd y newyddion ei bod wedi llwyddo yn ei modiwlau cyntaf gyda graddau da.
“Roedd sylweddoli y gallwn i wneud hyn yn anhygoel,” meddai. “Nid oedd hyn yr un peth â’r hyn yr oeddwn wedi teimlo yn yr ysgol. Nawr roedd gen i bobl a oedd yn credu yn fy ngallu academaidd, a dechreuais gredu yn fy hun. Mae wedi bod yn heriol ceisio cydbwyso astudio gyda gwaith a bywyd bob dydd. Fodd bynnag, mae’r gefnogaeth a roddwyd i mi gan staff Y Drindod Dewi Sant, fy nghyd-fyfyrwyr a fy ngŵr wedi bod heb ei ail.”
Ar ôl cwblhau ei chwrs gradd, dywedodd Carol ei bod wedi cael ei hannog gan ddarlithwyr a’i gŵr i barhau â’i hastudiaethau a chofrestru ar gyfer MBA. Mae hi hefyd ar hyn o bryd yn gweithio fel Gweinyddwr Gweithrediadau ar gampws y brifysgol yn Llundain.“Rwyf wedi bod â diddordeb mewn AD erioed, felly dewisais barhau yn y maes hwn gyda fy astudiaethau,” ychwanegodd.
Dywedodd Carol, sydd hefyd yn gynrychiolydd cwrs, fod y rôl hon wedi ei helpu i gefnogi ei chyd-fyfyrwyr. Nododd:
“Rwyf wedi gwneud rhai cyfeillion gydol oes yn y Drindod Dewi Sant a oedd yn fonws annisgwyl. Byddwn yn argymell bod eraill yn cymryd y daith hon gan ei bod nid yn unig yn agor drysau ond hefyd eich meddwl i’r posibiliadau diddiwedd sydd ar gael i’ch grymuso â gwybodaeth a chyfleoedd ar gyfer datblygiad eich gyrfa.”
Dywedodd Amare Desta, Athro Gwybodaeth a Rheoli Gwybodaeth a Rheolwr Rhaglen Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA) ar Gampws Llundain: “Mae Carol yn enghraifft berffaith o bolisi'r Drindod Dewi Sant tuag at ‘Ehangu Cyfranogiad’.
“Oherwydd ei diddordeb personol, mae Carol yn bwriadu cynnal ymchwil ac ymchwilio i’r gwahanol lefelau o anableddau ‘anweledig’ sy’n effeithio ar filiynau o bobl yma yn y DU yn unig gyda’r nod o nodi mesurau posibl y mae angen i gyflogwyr eu rhoi ar waith pan nad oes unrhyw dystiolaeth o anableddau corfforol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk