Imogen, 10 oed, yn barod i daro’r tonnau diolch i Ganolfan Arloesi Cerebra yn y Drindod Dewi Sant
21.06.2022
Mae Dr Ross Head a’i dîm yng Nghanolfan Arloesi Cerebra (CIC) yn y Brifysgol wedi addasu bwrdd syrffio ar gyfer Imogen Ashwell-Lewis, 10 oed, sydd â pharlys yr ymennydd, fel y gall reidio’r tonnau, gydag ychydig o help, yn union fel pawb arall.
Mae ethos CIC yn syml – os gall plant freuddwydio am bethau mawr, gallant gyflawni pethau mawr. Mae’r gwaith a wneir gan dîm CIC yn sicrhau bod plant yn cael y cyfle i gyflawni eu nod ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau, o syrffio i farchogaeth ceffylau – a hyd yn oed gymryd rhan mewn triathlonau.
Meddai Dr Ross Head, Athro Cysylltiol: “Dewison ni addasu byrddau sydd ar gael eisoes er mwyn dangos pa mor hawdd ydyw. Felly mae plant yn gallu dewis eu bwrdd, eu lliw a’u brand eu hunain yn union fel pawb arall, a gydag addasiad bach gallant daro’r tonnau.”
Meddai mam Imogen, Catherine Ashwell-Lewis: “Rydyn ni mor ddiolchgar i’r Drindod Dewi Sant. Cafodd Imogen amser anhygoel ac mae’n dwlu ar ei bwrdd pinc, mae gymaint yn haws iddi na’r bwrdd gorwedd wyneb i lawr mae wedi bod yn ei ddefnyddio hyd yn hyn.”
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o brosiectau gan CIC i helpu Imogen, a oedd yn cynnwys creu helmedau marchogaeth pwrpasol, ac maent hefyd wedi ei galluogi i gymryd rhan mewn digwyddiadau triathlon a hyd yn oed ddringo Pen y Fan.
Mae Ross a’r tîm yn datblygu atebion rhesymegol, arloesol a hwyliog i blant sydd â chyflyrau’r ymennydd. Nod eu dyluniadau yw lleihau rhywfaint ar y stigma cymdeithasol sy'n gysylltiedig ag anableddau drwy lunio cynnyrch sydd nid yn unig yn ymarferol ond hefyd yn atyniadol i bobl ifanc anhygoel. Mae rhai o'u cynnyrch yn ddyluniadau pwrpasol 'untro', mae eraill yn cael eu gwneud mewn sypiau bach, ac mae rhai wedi'u cynllunio gyda'r farchnad fasnachol mewn golwg.
Mae Canolfan Arloesi Cerebra yn bartneriaeth gydweithredol rhwng Cerebra a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda'r tîm wedi’i leoli yn adeilad Alex y Brifysgol yn Abertawe. Mae CIC hefyd yn rhan o ATiC – y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol yn y Brifysgol – ac mae ganddi hanes amlwg o ddarparu ymchwil a datblygu sy'n seiliedig ar arfer i gefnogi cwmnïau meddygol ac elusennau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.
Mae gwaith ATiC yn canolbwyntio’n bennaf ar bobl gyda phwyslais ar arloesi sy’n galluogi ymchwilwyr i gydweithio â busnesau i ddatblygu ymyriadau creadigol sy’n gwella iechyd a lles. Fe’i lluniwyd i gefnogi cynlluniau cydweithredu ym maes ymchwil gwyddorau bywyd ledled Cymru ac mae’n adeiladu ar record y Drindod Dewi Sant o gyflawni wrth ddatblygu rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesi ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr elusen Cerebra, ewch i www.cerebra.org.uk
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk