Jaz Joyce yn lansio Academi Chwaraeon newydd Y Drindod Dewi Sant
14.07.2022
Mae Jaz Joyce, yr Olympiad, chwaraewraig rygbi ryngwladol Cymru a chyn-fyfyrwraig wedi lansio academi chwaraeon newydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Nod Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant yw cefnogi myfyrwyr sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon perfformiad uchel i gynnal a datblygu eu perfformiad.
Mae'n fenter ar y cyd rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, a bydd yr Academi yn galluogi myfyrwyr o bob rhan o gampysau a rhaglenni'r Drindod Dewi Sant i gael mynediad at gyfleusterau arbenigol y Brifysgol ac i gystadlu yng nghynghreiriau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).
Meddai Lee Tregoning, Cyfarwyddwr yr Academi Chwaraeon; "Rwy'n falch iawn y bydd y Brifysgol yn gallu cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu galluoedd chwaraeon ochr yn ochr â'u hastudiaethau academaidd. Rydym am sicrhau bod myfyrwyr yn Y Drindod Dewi Sant yn cael y cymorth sydd angen arnynt i gyflawni eu potensial i'r eithaf mewn meysydd academaidd a chwaraeon".
Ychwanegodd Jaz Joyce; "Rwy'n gyffrous iawn i fod yn lansiad yr Academi Chwaraeon. Rwy'n credu bod gan hyn gymaint o fanteision i fyfyrwyr yma, gan eu bod yn gallu hyfforddi a defnyddio'r cyfleusterau a hefyd cymryd rhan mewn cwrs ac astudio'n llawn amser."
Bydd gan fyfyrwyr fynediad at arbenigedd tîm chwaraeon, iechyd a ffitrwydd y Brifysgol a fydd yn darparu rhaglen o weithgareddau i'w cynorthwyo i gyrraedd eu nodau chwaraeon. Bydd y rhain yn cynnwys hyfforddi ar gyfer hyfforddiant technegol a sgiliau, cryfder a chyflyru, maeth a deiet, therapi chwaraeon yn ogystal â rheoli ffordd o fyw.
Bydd gan fyfyrwyr fynediad i ystafelloedd ffitrwydd, clinigau therapi, y ganolfan antur awyr agored yn ogystal â rhai sefydliadau partner gan gynnwys Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin, Clwb Rygbi Athletic Caerfyrddin, Trac Athletau Caerfyrddin a'r Felodrom.
I ddechrau, y chwaraeon sydd ar gael drwy'r academi fydd:
- Rygbi dynion a menywod
- Pêl-droed dynion a merched
- Pêl-rwyd i Fenywod
- Chwaraeon unigol - athletwyr dygnwch, triathlon, beicio, athletau
Mae'r Brifysgol eisoes wedi cystadlu mewn pencampwriaeth rygbi 7 bob ochr y BUCS 7 yn Leeds. Roedd y Capten Morgan Thomas, myfyriwr BA Addysg Gynradd (SAC) wrth ei fodd gydag ymdrech ei garfan gan ddweud.
"Gwnaeth pob chwaraewr ymdrech arwrol ac rwy’n falch dros ben ohonyn nhw. Ein nod ni oedd mynd ati’n gyffredinol i ailgychwyn y tîm Rygbi a'r timau Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant, i gael ychydig o sylw yn y BUCS a mwynhau ychydig. Rwy'n credu ein bod ni wedi cyflawni hynny ac yn teimlo ein bod ni wedi gwneud argraff ar feddyliau'r holl dimau bod Y Drindod Dewi Sant yn ôl!"
Meddai Becky Bush, Llywydd Undeb Myfyrwyr Campws Caerfyrddin Y Drindod Dewi Sant:
"Rydym wrth ein bodd gyda chyhoeddi'r Academi Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant. Mae'n wych clywed am y cyfleusterau arbenigol sydd ar gael i'n myfyrwyr, ac sy’n gaffaeliad mawr iddyn nhw.
"Bydd yr Academi yn dod â myfyrwyr sy'n angerddol am chwaraeon at ei gilydd ac yn gwella eu profiad. Bydd yn cyfrannu at les cadarnhaol myfyrwyr ac yn creu ymdeimlad o gymuned ar draws ein campysau.
"Rydyn ni wrth ein bodd cael bod yn bartner gweithgar i'r Academi o'r cychwyn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyd-ddarparu a gwella cyfleoedd i'n myfyrwyr."
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476