Lansio cwrs newydd mewn Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol ym Mwyty Marco Pierre White yn SA1


06.05.2022

lansiodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gwrs gradd newydd mewn Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol ym mwyty Marco Pierre White ger Campws y Brifysgol yn SA1 Glannau Abertawe. 

Randolph, Wendy Dearing, Jayne Griffith Parry, Dylan E Jones Gastronomy Launch at Marco Pierre White

Nod y rhaglen hon yw rhoi cymhwyster i raddedigion sy'n diwallu anghenion y diwydiant bwytai a lletygarwch yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r byd, gan hybu cyflogadwyedd.  Bydd yr addysgu a arweinir gan ymarfer yn cael ei ategu gan ddarlithoedd gwadd a theithiau maes mynych gan ymweld â bwytai, cynhyrchwyr bwyd, marchnadoedd bwyd penodol, a chynhyrchwyr gwin a diodydd.

Yn ogystal â sgiliau sy’n ymwneud yn benodol â bwytai a gastronomeg, mae gan y rhaglen fodylau sy'n ymgorffori sgiliau arloesi trosglwyddadwy, delio â digwyddiadau annisgwyl, gwydnwch, menter a chyfrifoldeb personol, datrys problemau a chreadigrwydd, arfer adfyfyriol a datblygu meddylfryd mentrus.

Roedd y siaradwyr yn y lansiad heddiw yn cynnwys Dirprwy Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Dylan E Jones a’r Athro Wendy Dearing, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol. Hefyd yn ystod y digwyddiad dangoswyd fideo yn tynnu sylw at y busnesau yn Ne Cymru a fydd yn croesawu myfyrwyr ar leoliad.

Gyda rhestr o westeion nodedig, yn cynnwys llawer o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant o bob rhan o'r sector a'r rhanbarth, rhoddodd y digwyddiad gyfle ardderchog i fyfyrwyr a phawb sy'n ymwneud â'r rhaglen i rwydweithio.

Meddai Rhys Andrews, Rheolwr Cyffredinol bwyty Marco Pierre White:  “Rydym yn falch iawn o gynnal lansiad y BA Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol, sy'n rhywbeth rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Brifysgol arno. Mae'r cwrs yn addo helpu i ddatblygu darpar sêr ein diwydiant, gan roi sylw i Letygarwch fel llwybr gyrfa, a bydd yn helpu i ysgogi’r don nesaf o bobl ifanc dalentog i ymuno â'r sector yn dilyn rhai blynyddoedd anodd.” 

Gyda chyflogadwyedd yn greiddiol i’r rhaglen, bydd hanner yr addysgu'n cael ei gyflwyno i fyfyrwyr drwy leoliadau ym myd diwydiant gyda darparwyr lleol blaenllaw, megis y Cygnus Group, y Secret Hospitality Group, y Seren Collection a Jessica Rice Events. 

Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i feithrin perthynas waith gref â darpar gyflogwyr a chael profiad ymarferol hanfodol tra'n cryfhau a chefnogi'r diwydiant drwy ddarparu gweithwyr hyfforddedig a galluog ar gyfer sefydliadau lleol.

Meddai Dr Jayne Griffith Parry, Rheolwr Rhaglen y cwrs newydd yn y Drindod Dewi Sant,  "Mae wedi bod yn brofiad gwych gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i ysgrifennu’r rhaglen radd. Ei nod yw diwallu angen ein myfyrwyr am gyflogadwyedd yn y dyfodol, tra'n sicrhau eu bod yn ennill sgiliau ymarferol a gwybodaeth gyfoes i gefnogi eu datblygiad. Mae'n hanfodol bod lletygarwch yn cael ei gymryd o ddifrif a bod gyrfaoedd oddi mewn i’r maes yn cael eu hystyried yn llwybrau proffesiynol gwerthfawr ar gyfer twf a datblygiad unigolion.”

Meddai Neil Kedward, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr y Seren Collection a fydd yn ddarparwr lleoliadau: “Rydym yn angerddol ynglŷn â hyrwyddo popeth sy'n wych am letygarwch i bobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda'r Brifysgol i sicrhau bod eu myfyrwyr yn cael cyfleoedd o'r radd flaenaf yn y maes lletygarwch yma yn Ne Orllewin Cymru. 

“Mae'r cwrs newydd mewn Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol yn llwybr hynod dderbyniol i'r rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa broffesiynol mewn bwytai, ac mae hefyd yn gyfle gwych i'n staff presennol gael gradd ochr yn ochr â gweithio. Mae cwmni Seren wrth ei fodd ac yn gwbl gefnogol i'r Brifysgol wrth iddi barhau i adeiladu Ysgol Rheolaeth Lletygarwch gyda phersbectif a phedigri gwirioneddol ryngwladol.”

Mae’r cwrs newydd, y gellir ei astudio fel Tystysgrif Addysg Uwch, Diploma Addysg Uwch neu radd Baglor llawn yn y Celfyddydau, yn bont rhagorol rhwng Addysg Bellach ac Addysg Uwch a gellir ei ddechrau ym mis Medi, Ionawr neu Ebrill.

Bydd dysgwyr hefyd yn derbyn cyfarwyddyd gyrfaoedd pwrpasol yn ogystal â sesiynau datblygu sgiliau i wella hyder, megis ffug gyfweliadau a hyfforddiant LinkedIn i wella eu presenoldeb ar-lein.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am y cwrs ar gael ar wefan y Drindod Dewi Sant.

Eleni mae’r Drindod Dewi Sant yn dathlu 200 mlynedd o addysg uwch yng Nghymru. O’r hadau a heuwyd yn Llambed dros ddwy ganrif yn ôl a datblygiad ein campysau, rydym wedi tyfu i fod yn Brifysgol sector deuol, aml-gampws gan ddarparu rhaglenni sy’n berthnasol yn alwedigaethol mewn partneriaeth â chyflogwyr.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk