Lansio llyfr yn nodi deucanmlwyddiant yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd
05.10.2022
Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 4 Hydref i lansio llyfr yn nodi blwyddyn daucanmlwyddiant Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Y Gwir Barch Esgob Wyn Evans, Natalie Williams, Alison Harding, Yr Athro John Morgan-Guy, yr Hybarch Randolph Thomas, Ruth Gooding a'r Tra Barch Ddr Sarah Rowland Jones
Mae “Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant” wedi’i olygu gan yr Athro John Morgan-Guy a’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru sy’n llawn darluniadau ac yn cynnwys detholiad o draethodau byrion o blith y miloedd lawer o drysorau a gedwir yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws y brifysgol yn Llambed.
Mae daucanmlwyddiant y Brifysgol yn nodi gosod y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan yn 1822 gan Thomas Burgess, Esgob Tyddewi. Wrth groesawu’r gynulleidfa i Gadeirlan Tyddewi, soniodd y Tra Barchedig Ddr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi, am y cysylltiad hir rhwng yr Eglwys Gadeiriol a champws Llambed y Brifysgol ac, yn benodol, y cysylltiad a’r bartneriaeth rhwng y ddwy lyfrgell i hybu ysgolheictod.
Talodd yr Athro John Morgan-Guy deyrnged i'r rhai a gyfrannodd at y gyfrol a soniodd am y cysylltiad hir rhwng Llanbedr Pont Steffan a'r Gadeirlan gan gynnwys trwy Thomas Burgess yn ogystal â phrifathro cyntaf y Coleg, Llewelyn Lewellin, a oedd hefyd yn Ddeon Tyddewi.
Dywedodd: “Rwy’n talu teyrnged i’r rhai sydd wedi cyfrannu at y gyfrol hon, yn enwedig yr awduron, y mae llawer ohonynt yn staff presennol neu gyn-aelodau o Lambed, Ruth Gooding, sy’n curadu’r casgliadau arbennig, Dr Martin Crampin a ddyluniodd y llyfr ac a gynhyrchodd y ffotograffau ardderchog o'r casgliad, Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd am y gwaith cyfieithu yn ogystal â Gwasg Prifysgol Cymru.
“Dyma’r sefydliad colegol addysg uwch hynaf yng Nghymru, ac yn ei ddau gan mlynedd o hanes mae wedi derbyn llawer o lawysgrifau hynod ddiddorol a phrin, llyfrau printiedig cynnar, cyfrolau darluniadol hardd, a chyhoeddiadau prin o ddalenni i gyfnodolion. Derbyniwyd y rhain yn bennaf trwy roddion hael nifer o gymwynaswyr, gan gynnwys sylfaenydd y sefydliad, yr Esgob Thomas Burgess o Dyddewi, gyda’r casgliad yn cael ei gadw heddiw yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws Llambed.
Mae’r gyfrol lawn darluniadau hon yn cynnwys detholiad o luniau o’r miloedd lawer o weithiau a fu’n ymestyn dros saith can mlynedd rhwng y drydedd ganrif ar ddeg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ysgrifau byrion gan ysgolheigion y mae eu gwybodaeth a’u gwerthfawrogiad o’r gweithiau yn ddiguro, yn datgelu cyfoeth yr hyn a elwid unwaith yn ‘y llyfrgell fach orau Cymru.”
Yn ystod y lansiad, dywedodd Ruth Gooding, Llyfrgellydd Casgliadau Arbennig, Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen: “Wrth greu’r llyfr hwn roeddem am sicrhau y byddai’n hardd, ond hefyd y byddai’n llyfr y byddai pobl yn ei ddarllen. Mae gennym tua 35 000 o lyfrau yn ein casgliadau. Ysgrifennon ni tua 40 o’r rhain yn Trysorau, yn adrodd straeon dynol am eu hawduron gwreiddiol”.
Ymhlith yr eitemau a ddisgrifir yn y gyfrol mae tri llyfr o eiddo Jane Austen a’i chwaer Cassandra, a fu gynt yn rhan o archif sefydliadol campws Abertawe y Brifysgol.
Mae cyhoeddi'r llyfr yn benllanw 4 blynedd o waith i'r tîm. Dywedodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu yn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn lansio’r llyfr arbennig hwn yn ystod wythnos llyfrgelloedd sy’n lleoedd arbennig lle mae pobl yn dysgu ac yn dod yn rhan o gymuned.
Mae cyhoeddi’r llyfr hwn yn benllanw 4 blynedd o waith i’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu, Dywedodd Alison Harding, Pennaeth Gweithredol Llyfrgelloedd ac Adnoddau Dysgu y Drindod Dewi Sant:
“Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bob aelod o’r tîm sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect.
Yn benodol, hoffwn nodi’r cydweithwyr hynny sydd wedi’u lleoli yn ein Casgliadau Arbennig ac Archifau, na fyddai’r llyfr hwn wedi bod yn bosibl hebddynt. Mae eu hymrwymiad rhyfeddol a’u proffesiynoldeb drwy gydol y prosiect hwn wedi amlygu gwerth eu gwaith, a’r rôl allweddol y maent yn ei chwarae wrth sicrhau bod y casgliadau hyn yn cael gofal a’u bod yn hygyrch i bawb.
Dyma hefyd oedd ein cyfle i arddangos llawenydd a harddwch y casgliadau hyn, a’u rôl wrth lunio’r brifysgol, y gymuned y mae’n ei gwasanaethu a’r genedl ehangach.”
O flaen y lansiad dywedodd yr Athro Medwin Hughes DL:
“Rydyn ni’n lansio’r gyfrol yn ystod y flwyddyn allweddol hon o nodi daucanmlwyddiant sefydlu’r brifysgol. Mae’r hyn sydd gyda ni yn dapestri o lawysgrifau a llyfrau sy’n allweddol i ddeall diwylliant a hanes Cymru.
Mae’n gyfle i edrych yn ôl wrth gwrs ond yn bwysicach na hynny mae’n gyfle i edrych at y dyfodol a gofyn y cwestiwn beth sydd angen felly ar Gymru i greu cyfleoedd a phartneriaethau newydd sy’n dathlu ein diwylliant ac sy’n dehongli ein diwylliant ni mewn ffordd fodern ddigidol? Dyna’r her ac rwy’n siwr y bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl yn hyn hefyd.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, Natalie Williams:
“Mae’n anrhydedd mawr i Wasg Prifysgol Cymru gyhoeddi’r gyfrol drawiadol ac unigryw hon ar y cyfoeth a ddaliwyd yn llyfrgell Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Mae manylder a harddwch gweledol cymaint o weithiau a atgynhyrchir yn y llyfr hwn, ynghyd â’u hanes hynod ddiddorol o ardaloedd ar draws y byd, yn wirioneddol arbennig. Mae’r llyfr hwn wedi bod yn ymdrech wirioneddol gydweithredol rhwng cydweithwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Gwasg Prifysgol Cymru – mae’n arbennig i’r Wasg gan y’i cyhoeddwyd ym mlwyddyn ein Canmlwyddiant. Talaf deyrnged i’r holl gydweithwyr a dalodd y fath ofal a sylw i’r gyfrol wych hon. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio gyda thîm mor wybodus i ddwyn y gyfrol hon i ffrwyth.
Yn ystod y digwyddiad torrwyd teisen arbennig yn dangos tudalennau o’r llyfr er mwyn nodi daucanmlwyddiant y Brifysgol a chanmlwyddiant y wasg.