Lansio’r Ganolfan Ddigidol newydd i gynnig hyfforddiant sgiliau digidol rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant
03.05.2022
Mae'r Tîm Gwasanaethau Digidol yn dathlu lansiad ei adnoddau newydd ar gyfer staff a myfyrwyr, sef y Ganolfan Ddigidol (Digicentre), ar gampws SA1 ddydd Gwener 29 Ebrill.
Mae'r ganolfan arloesol yn darparu porth i staff a myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau digidol gan ddefnyddio ystod o offer, gan ddechrau gyda holiadur hunanasesu i werthuso lefelau sgiliau digidol cyfredol a chynnig adnoddau hyfforddi a datblygu i adeiladu a datblygu ar y sgiliau hynny. Argymhellir llwybrau dysgu ar Moodle y gall cyfranogwyr weithio drwyddynt dan eu pwysau ac ennill bathodynnau digidol yn unrhyw un o'r chwe chymhwysedd, fel y'u diffinnir gan, y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC).
Mae'r datblygiad newydd cyffrous hwn i staff a myfyrwyr yn ategu strategaeth ddigidol Y Drindod Dewi Sant. Meddai James Cale, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Digidol : “Fel Prifysgol rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r seiliau gorau posibl ar gyfer datblygiad personol ein holl staff a’n myfyrwyr. Erbyn hyn mae’n fwy hanfodol nag erioed fod staff a myfyrwyr wedi eu grymuso drwy allu manteisio ar dechnolegau, profiadau, a chyfleoedd dysgu i adeiladu’r sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer y gweithle ac i greu cyfleoedd yn y dyfodol a llwyddiant i ffynnu mewn economi digidol sy’n mynd yn fwy ac yn fwy hybrid.
"Bydd ein hadnodd y Ganolfan Ddigidol yn cynnig dull blaengar yn y sector o ddatblygu sgiliau digidol, gan ddefnyddio’r adnoddau gorau o’u bath gan Jisc, Microsoft a LinkedIn Learning i sicrhau dull strwythuredig o ddatblygu sgiliau digidol. Fe fydd yn fuddiol i staff a myfyrwyr ac yn ein helpu i ddarparu ein Strategaeth Ddigidol uchelgeisiol ar gyfer y sefydliad.”
Yn rhan o’r fenter, byddwn hefyd yn gweithredu rhaglen datblygu staff sydd wedi’i hanelu at staff academaidd yn ystod mis Mai a Mehefin, bydd hon yn cynnwys meysydd sy’n gysylltiedig â dysgu cyfunol yn benodol. Bydd rhaglenni tebyg ar gyfer myfyrwyr a gwasanaethau proffesiynol yn dilyn yn y misoedd wedyn. Mae’r rhaglen yn cynnwys mewnbwn gan amrywiaeth o dimau Gwasanaethau Digidol sy’n cynnwys Darpariaeth Gwasanaethau TG, Systemau a Seilwaith TG, Creadigrwydd a Dysgu Digidol a’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu.
Meddai Alison Harding, Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgy: “Swyddogaeth graidd unrhyw lyfrgell yw creu cyfleoedd dysgu i bawb. Wrth ddatblygu’r Ganolfan Ddigidol rydyn ni’n adeiladu ar y gwaith hwn, ac wrth wneud hynny yn gyrru datblygiad sgiliau digidol y gymuned gyfan. Ein nod yw sicrhau y gall bawb gyrraedd eu potensial sut bynnag a ble bynnag y maent yn penderfynu cymhwyso’r sgiliau bywyd allweddol hyn”.
Mae mynediad i'r gwasanaethau a gynigir a rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan newydd y Ganolfan Ddigidol, Sgiliau Digidol Y Drindod Dewi Sant - Sgiliau Digidol Y Drindod Dewi Sant. Gellir cysylltu â'r tîm i gael rhagor o wybodaeth yn digitalskills@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184 (4184)
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk