Llwyddiant Ffair Yrfaoedd i Gyn-fyfyrwyr a Myfyrwyr ar Gampws SA1 Abertawe
17.05.2022
Daeth myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr i Ffair Yrfaoedd ar gampws SA1 Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i gwrdd â darpar gyflogwyr a chlywed am y cyfleoedd gwaith sydd ar gael mewn amrywiaeth o sectorau.
Wedi'i drefnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, hwn oedd y digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ar ôl y pandemig ac fe'i cynhaliwyd yn adeilad IQ gyda ffocws ar bynciau STEM.
Cydlynwyd y digwyddiad gan Mel Hall, Cynghorydd Gyrfaoedd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA) yn y Brifysgol ac roedd cynrychiolwyr o 25 o fusnesau’n bresennol.
Meddai: "Diolch yn fawr iawn i holl staff gwych y Drindod Dewi Sant a weithiodd gyda’i gilydd i wneud y Ffair Gyrfaoedd a Gwirfoddoli gyntaf ym maes Technoleg i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn llwyddiant ysgubol, gyda chyflogwyr lleol a chenedlaethol a thros 120 o fyfyrwyr yn bresennol. Bu'r digwyddiad yn llwyddiant mawr, ac mae'r adborth cadarnhaol a gawsom gan y myfyrwyr a’r cyflogwyr a gymerodd ran wedi bod yn anhygoel.
"Mae'r tîm gyrfaoedd yn hynod falch o'r gwaith a wnawn i gefnogi myfyrwyr sydd wedi cael amser anodd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ystod y pandemig. Mae'n wych cael digwyddiad i ddod â chyflogwyr, myfyrwyr a graddedigion wyneb yn wyneb i wella cyflogadwyedd i'n myfyrwyr a hefyd i fynd i'r afael â'r angen i lenwi'r swyddi hanfodol hynny i gyflogwyr.”
Meddai Jane Bellis, Cynghorydd Gyrfaoedd Gweithredol Gwasanaethau Myfyrwyr: "Cawsom gefnogaeth wych gan ddarlithwyr WISA a'r brifysgol ehangach, megis cydweithwyr o’r maes ymgysylltu â Chyn-fyfyrwyr a datblygu Prentisiaethau. Hoffem ddiolch i'n holl gyflogwyr a mudiadau gwirfoddol am fynychu. Roedd 120 o fyfyrwyr yn bresennol a gobeithiwn fod llawer wedi sicrhau lleoliadau gwaith/swyddi ar lefel graddedigion o ganlyniad. Ar nodyn personol, cefais fwynhad mawr o gynorthwyo ein myfyrwyr ar y diwrnod a gweld yn uniongyrchol eu brwdfrydedd i ymgysylltu â chyflogwyr.”
Mae'r tîm gyrfaoedd yn rhoi cyngor ac arweiniad un i un ar yrfaoedd i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, ynghyd â help gyda CV, ceisiadau, paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyngor ar ddod o hyd i brofiad gwaith. Mae'r gwasanaeth gyrfaoedd yn y Drindod Dewi Sant yn falch o dynnu sylw at y ffaith eu bod yn cynnig gwasanaeth i gyn-fyfyrwyr pryd bynnag y gwnaethon nhw raddio, a'u bod ar gael i’r un graddau i raddedigion diweddar ag y maent i'r rhai a raddiodd flynyddoedd lawer yn ôl ac sydd efallai'n ystyried newid gyrfa neu wedi’u diswyddo.
Meddai Pierluigi Bonagura, Myfyriwr Peirianneg Modurol yn y Drindod Dewi Sant, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad: “Mae wedi bod yn ddigwyddiad anhygoel, sydd wedi bod o gymorth i mi ac eraill i ddarganfod cyfleoedd gwaith newydd. Da iawn chi am drefnu hyn.”
Roedd y tîm Cyn-fyfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant wrth eu bodd bod cynifer o raddedigion wedi teithio i'r digwyddiad, rhai o bob rhan o'r DU, a'u bod yn hynod gadarnhaol yn eu hadborth am y digwyddiad, yn ogystal â chyflogwyr a oedd yn mwynhau'r cyfle i estyn allan at fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr ynghylch nifer o rolau yn y sector cyflogaeth.
Cafodd Rheolwyr Recriwtio o Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) gyfle i ryngweithio wyneb yn wyneb â myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu meddalwedd, cymorth technegol neu brofion.
Meddai Jan Sparks, GIG Cymru: “Cafodd myfyrwyr gyfle i archwilio opsiynau lefel mynediad ac i rwydweithio â phobl yn y diwydiant y dymunant weithio ynddo. Yn ogystal cyflwynwyd myfyrwyr i lwybrau gyrfa amgen na fyddent efallai wedi meddwl amdanynt o’r blaen.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n adeiladu ac yn dylunio gwasanaethau digidol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru. Mae IGDC yn rhan o deulu GIG Cymru. Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag i Swyddogion Datblygu Meddalwedd ymuno â'n tîm i ddatblygu, profi a chefnogi'r cymwysiadau meddalwedd cenedlaethol o fewn GIG Cymru.”
Ymhlith y cyflogwyr a oedd yn bresennol yn y digwyddiad roedd: Tata Steel, GotBoost, AaGIC Cymru, Rheolaeth y GIG, Kier, Sureview, DVLA, Kaymac Marine Engineering, Sony, Concrete Canvas, Parc Thema Oakwood, Undeb y Myfyrwyr, Adran Ieithoedd Tramor Modern Prifysgol Caerdydd, Theatrau Sir Gâr, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Canolfan yr Amgylchedd, Vinci Construction, Flexonics, Vaillant, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Heddlu De Cymru, Menter PCYDDS, Hydrock Engineering, Gwasanaethau Adeiladu Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Sunny Recruitment.
Mae dolenni i’r cyflogwyr a oedd yn bresennol i’w gweld ar ein safle LinkedIn: Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant
Dysgwch ragor am y modd y gallwn helpu cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr gyda phob agwedd ar ddatblygu gyrfa: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/gyrfaoedd/.
I gysylltu â'n tîm cyn-fyfyrwyr e-bostiwch: alumni@uwtsd.ac.uk, ac edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth https://www.uwtsd.ac.uk/alumni/
Gwybodaeth Bellach
Mrs. L. McVicar
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184 (4184)
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk