Llwyddiant gradd ar gyfer gweithiwr GIG sy’n dychwelyd i addysg ar ôl 30 blynedd.
15.07.2022
Mae Christine Woods wedi gweithio i’r GIG ers yn agos i ugain mlynedd, gan ddechrau fel clerc cofnodion meddygol a gweithio ei ffordd i fyny i ddadansoddwr data ar gyfer Rheolaeth Meddyginiaethau. Roedd Christine wedi cwblhau’r gwahanol NVQs oedd gan y bwrdd iechyd i’w cynnig, ond teimlodd bod arni angen rhagor o her. Er iddi fod allan o addysg lawn amser ers tri deg mlynedd, dechreuodd y BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) ac mae hi’n graddio eleni.
Mae modylau’r radd wedi ei helpu i ddeall ei rôl gyfredol mewn ffordd wahanol, ac er ei fod yn waith caled eithriadol, roedd Christine yn falch pan roddwyd canlyniadau’r asesiadau hyn, ac roedd hi’n gallu gweld bod yr holl waith caled wedi talu ar ei ganfed. Bu hefyd yn her gweithio gyda myfyrwyr nad oedd ganddynt doriad yn eu haddysg, ac a oedd yn ffeindio’r broses yn llai heriol am nad oedd sgiliau astudio sylfaenol yn dod yn hawdd i Christine.
Meddai Gaynor Thomas, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadura, “Christine yw un o’r myfyrwyr cyntaf i gwblhau ein rhaglen Gradd-brentisiaeth Ddigidol sy’n gyfle gwych i astudio radd a pharhau i weithio’n llawn amser. Mae Christine yn gweithio i’r GIG/Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Cofrestrodd ar y rhaglen brentisiaeth yn 2017 ac ers hynny mae hi wedi mynd o nerth i nerth wrth wella ei sgiliau cyfrifiadura a dadansoddi data. Ei phrosiect blwyddyn olaf oedd astudiaeth ynghylch gofal ar gyfer C-difficile yn ardal Abertawe. Bydd y sgiliau mae hi wedi’u datblygu yn caniatáu iddi wneud gwir wahaniaeth i ofal cleifion yn y dyfodol. Rydym wrth ein bodd ei bod yn graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf haeddiannol.”
Meddai Christine: “Buaswn yn argymell y cwrs hwn yn bennaf oherwydd yr ymrwymiad a roddwyd i ni gan y darlithwyr mewn amgylchiadau a oedd yn aml yn heriol. Nawr, fy mwriad yw symud ymlaen yn fy rôl drwy ddefnyddio’r sgiliau sydd gen i. Mae’r cwrs wedi fy helpu am ei fod wedi profi y gallwch gyflawni unrhyw beth drwy fod yn benderfynol!”
Gwybodaeth Bellach
Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184 (4184)
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk