Llwyddiant gyrfaol a bri rasio i un o raddedigion Peirianneg Beiciau Modur Y Drindod Dewi Sant


23.08.2022

Graddiodd Sam Mousley o’r Drindod yn 2019 gydag MEng mewn Peirianneg Beiciau Modur, ac ers hynny mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth, yn gweithio i McClaren fel Peirianwr Calibradu Injanau, ac yna symudodd i Triumph. Er gwaethaf ei amserlen waith brysur, mae Sam yn parhau i rasio mewn digwyddiadau beiciau modur cystadleuol gyda chyn-fyfyrwyr ac aelodau’r tîm Rasio Orthrus o’r Drindod Dewi Sant, Jordan Ballantyne, Peiriannydd Datblygiad Mecanyddol yn McLaren.

Yn ddiweddar, cymerodd Sam ran yng nghystadleuaeth TT Ynys Manaw ac mae’n dweud bod ei lwyddiant o ganlyniad i’w gariad at bopeth sy’n gysylltiedig â beiciau modur a’r cyfle a roddodd Y Drindod iddo symud ei yrfa rasio ymlaen.

Mae’n rhaid fy mod i’n dwlu ar Y Drindod Dewi Sant, oherwydd penderfynais dreulio pum mlynedd o’m mywyd yno! Dechreuais ar y flwyddyn sylfaen yn 2014, am na wnes i arholiadau Safon Uwch, a bu hyn yn gam da iawn oherwydd nid yn unig y diweddarodd fy mathemateg a’m gwyddoniaeth, ond rhoddodd fantais i mi mewn modylau eraill hefyd a des i adnabod y darlithwyr yn barod ar gyfer blwyddyn un. Ar ddechrau blwyddyn 1, gwnes i a phum myfyriwr arall sefydlu ‘Orthrus Racing’, tîm rasio beiciau modur y gwnaethom ei ddatblygu dros y pedair blynedd nesaf gyda chefnogaeth wych gan y brifysgol. Gwnaeth llawer o fyfyrwyr eraill ymuno â ni ar y daith, a gyda fi’n reidio, gwnaethom rasio am 4 blynedd ar Yamaha R6 a ddaeth i’w anterth mewn ras ar gylch cwrs mynydd Ynys Manaw yn y ‘Manz GP’ lle daethom yn ail yn y ras newydd-ddyfodiaid!

Ar ôl fy mlwyddyn olaf, penderfynais nad oeddwn yn barod i ffarwelio â’r brifysgol eto ac arhosais am bumed flwyddyn i wneud gradd meistr integredig. Dechreuais fy nhraethawd hir ar fodelu tanio mewn silindr ac o ganlyniad i’r cysylltiadau gwych sydd gan y brifysgol â’r diwydiant, cefais sgwrs gyda McLaren Automotive ac fe’i orffennais fel prosiect ar y cyd â McLaren. Arweiniodd hyn at fy swydd gyntaf yn McLaren fel peiriannydd calibradu. Erbyn hyn rwy’n gweithio yn swydd fy mreuddwydion fel peiriannydd calibradu i Triumph Motorcycles ble rwy’n cael y cyfle i ddatblygu systemau rheoli tyniant ar gyfer modelau newydd a reidio llawer o feiciau!

Gwybodaeth Bellach

Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM

Principal Communications and PR Officer Alumni

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr

Ffôn/ Phone 01792 481184  (4184) / 07850 321687                                                               

E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk