Llwyddiant mewn cystadlaethau i fyfyrwyr y flwyddyn olaf yng Ngholeg Celf Abertawe.
06.06.2022
Mae rhai o fyfyrwyr dawnus Coleg Celf Abertawe wedi ennill gwobrau am eu prosiectau terfynol yn y sioe gelf diwedd blwyddyn graddedigion. Ar ôl dwy flynedd o absenoldeb, roedd y sioeau celf yn fodd i’r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith yn bersonol o'r diwedd, cwrdd â phobl sy'n hoffi celf, teulu a ffrindiau i ddathlu eu llwyddiant. Arddangosodd graddedigion blaenorol eu gwaith ar-lein, a rhoddodd hyn rywfaint o ysbrydoliaeth i raddedigion eleni wrth ddechrau eu prosiectau eu hunain, a galluogi graddedigion rhwng 2020 a 2021 i ddangos eu gwaith i orielau, cyflogwyr a phrynwyr posibl, sy’n beth hanfodol wrth lansio gyrfa lwyddiannus yn y byd celf gystadleuol.
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Coleg Celf Abertawe: "Mae'r sioe haf i raddedigion yn dathlu pen llanw astudiaeth myfyrwyr gyda ni yn y gwahanol feysydd celf a dylunio o gelfyddyd gain i grefftau dylunio a phopeth rhyngddynt. Mae'r sioe wedi'i gwasgaru ar draws nifer o leoliadau, Campws Dinefwr, Heol Alexandra, Amgueddfa'r Glannau a chanolfan siopa'r Cwadrant. Ar flaen ein Campws Dinefwr fe welwch ddarn mawr o waith celf sy'n nodi 'Mae Colegau Celf yn Newid y Byd', a dyna'n wir beth a welwch chi yn ein sioeau graddedigion, myfyrwyr/graddedigion a fydd yn newid y byd".
Mae’r gwobrau a ddyfarnwyd a’r myfyrwyr a’u henillodd wedi'u rhestru isod:
- Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru: £2500 Enillwyd gan Tomos Sparnon Un o Raddedigion Celfyddyd Gain Cyflwynwyd gan Stuart Castledine Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru
- Gwobr(au) Hayden John James: £1000 OR, £1000 IR. IR Celfyddyd Gain Redhab Jafar. Darluniau OR Joshua Rush. Cyflwynwyd gan yr Athro Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr Oriel Gelf Glynn Vivian ac Athro Ymarfer Y Drindod Dewi Sant. Gwobr a ddewiswyd gan yr Athro Ymarfer, yr Athro Karen MacKinnon, yr Athro Jenni Spencer Davies, yr Athro Marc Rees.
- Gwobr Elizabeth Jeffries: £250, Enillwyd gan Damasque Wells Patrymau Arwyneb. Cyflwynwyd gan Georgia McKie, Rheolwr Rhaglen
- Dyfarniadau INSPIRE Y Drindod Dewi Sant: 5 gwobr £200 yr un, i'w dewis Cyflwynwyd gan Chris Holtom INSPIRE. Mollie Larcombe Dylunio Graffig, Ann Dineen Ffotograffeg, Adam Higgins Dylunio Cynnyrch, Ellie Jones Patrymau Arwyneb, Timothy Cromarty Technoleg Cerddoriaeth Greadigol.
- Gwobr Josef Herman Carolyn Davies: Enillydd gwobr £500 Redhab Jafar cyflwynwyd gan Jackie Hankins Sefydliad Josef Herman
- Gwobr Darlunio Rhys Bevan Jones: Enillydd £200 Katie Bayliss ac Eleanor Curtis. Cyflwynwyd gan Gwen Beynon
- Ysgoloriaeth Cronfa Les Artistiaid: Gwobr o £10,000 cyflwynwyd gan yr Athro Tim Davies, enillydd Owain Sparnon, un o Raddedigion Celfyddyd Gain
- Gwobr Paentio Freelands: Enillydd Adam Charlton, cyflwynwyd gan yr Athro Tim Davies
- Bwrsariaeth Ôl-Covid y Celfyddydau Creadigol WISA : Jessica Pritchard. Dylunio Graffig blwyddyn gyntaf. Cyflwynwyd gan Donna Williams Rheolwr Rhaglen
I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfeydd sy'n cael eu cynnal ledled Abertawe, ewch i Sioeau Haf Coleg Celf Abertawe 2022. I weld cyrsiau’r celfyddydau creadigol a drama sydd ar gael ar ein Campws yn Abertawe, ewch i: Coleg Celf Abertawe | Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184 (4184)
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk