'Mae cydweithio rhwng Diwydiant ac Academia yn hanfodol i fynd i'r afael â newid hinsawdd'
04.07.2022
Mae uwchgynhadledd Diwydiant a drefnwyd gan dîm MADE Cymru o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi trafod sut y gall busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru droi heriau ôl-Covid yn gyfleoedd drwy gydweithio â'r byd academaidd
Roedd yr Uwchgynhadledd yn dilyn digwyddiad tebyg, llwyddiannus y llynedd. Cafodd ei hagor eleni gan Julie James, AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a wnaeth draddodi’r brif araith yn dwyn y teitl 'Beth yw rôl diwydiant Cymru wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd? A sut y gall bod yn gynaliadwy fod yn dda i fusnes?’
Mae’r Brifysgol yn cydweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i gyflwyno mentrau hyfforddi a sgiliau datblygol i gefnogi ymrwymiad llywodraethau Cymru a’r DU i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050.
Cafwyd cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb am ddim a gyflwynwyd gan siaradwyr blaenllaw yn y diwydiant. Yn eu plith roedd Gethin Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr, ITERATE, Chris Probert, Arbenigwr Arloesi, Llywodraeth Cymru, ac Eoin Bailey, Rheolwr Innovation UK, Celsa Steel. Cynhaliwd yr uwchgynhadledd ar gampws y Brifysgol yn SA1 Ardal Arloesi’r Glannau ac yn AMRC Cymru, Sir y Fflint, gyda sesiynau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys 'Cynaliadwyedd a Sero Net', 'Buddsoddi yn Eich Dyfodol' a 'Chydweithio’.
Meddai Julie James: “Roeddwn yn falch o gael fy ngwahodd i agor Uwchgynhadledd Diwydiant MADE Cymru. Mae'r digwyddiad hwn yn bwysig, nid yn unig oherwydd y sgyrsiau a gynhaliwyd, ond yr etifeddiaeth gydweithredol y rhoddodd gychwyn arni. Fel sector, gall gweithgynhyrchu chwarae rhan sylweddol wrth fynd i'r afael â heriau newid hinsawdd. Gyda'n gilydd rhaid inni weithio tuag at sicrhau Cymru sero-net ac mae'r digwyddiad hwn yn chwarae rhan yn y broses hon. Edrychaf ymlaen at weld grym diwydiant, y byd academaidd a rhanddeiliaid allweddol yn cael eu cyfuno,”
Dywedodd Gwion Williams, Rheolwr Gweithrediadau, SMARTArloesi, Llywodraeth Cymru: “Roedd mor braf gweld lefel y cydweithio gyda chymaint o wahanol bartneriaid yn dod ynghyd gyda'r nod clir o gydweithio er mwyn cefnogi busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru. Yn ystod y sesiwn brynhawn Iau, roedd yn arbennig o galonogol gweld hyn ar waith gyda chydweithio agos rhwng y Drindod Dewi Sant, AMRC Cymru, KTP, KTN 4 Manufacturing a thîm Arloesi Llywodraeth Cymru.”
Yn ystod yr Uwchgynhadledd, cafwyd cyfle hefyd i gwrdd ag adrannau a phrosiectau eraill yn y Drindod Dewi Sant sy'n chwarae rhan yn y gwaith o gefnogi diwydiant Cymru.
Dywedodd Barry Liles, OBE, Pro Is-Ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) yn y Drindod Dewi Sant: “Mae cefnogi adferiad diwydiant yn dilyn effaith y pandemig yn flaenoriaeth allweddol i'r Brifysgol, sydd â hanes amlwg o weithio gyda diwydiant drwy drosglwyddo gwybodaeth, arloesi ymchwil, datblygu'r gweithlu a thrwy ddarparu llif parod o fyfyrwyr a graddedigion medrus, mewn partneriaeth â chyflogwyr.”
Sefydlwyd menter MADE Cymru yn y Brifysgol i gefnogi’r diwydiannau gweithgynhyrchu yng Nghymru i addasu i heriau Diwydiant 4.0. Cyllidwyd y fenter gan yr UE drwy Lywodraeth Cymru a’i nod yw cefnogi adferiad economaidd gweithgynhyrchwyr yng Nghymru. Bwriedir gwneud hyn drwy gynnig i fusnesau hyfforddiant a gyllidir yn rhannol ac yn gyflawn i uwchsgilio staff yn ogystal ag ymchwil a datblygu sy’n gwella prosesau a chynhyrchion er mwyn lleihau gwastraff a chostau.
Meddai Graham Howe, Pennaeth Gweithredol MADE Cymru yn y Drindod Dewi Sant:
“Mae cydweithio wrth wraidd popeth a wnawn, yn MADE Cymru a'r Drindod Dewi Sant, a gobeithiwn fod y digwyddiad hwn yn dangos ac yn dathlu'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd.
“Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi cael effaith estynedig ar ein cadwyni cyflenwi, ac mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i gynyddu gwydnwch a lleihau gwendidau. Gan mai gweithgynhyrchu yw'r cyfrannwr mwyaf i economi Cymru (o ran Gwerth Ychwanegol Gros), rhaid i ni gydweithio, rhannu gwybodaeth a buddsoddi yn y sector. Mae prifysgolion yn chwarae rhan hollbwysig yn hyn o beth.”
Dywedodd Craig Jones, rheolwr Offer a Datblygu Prosesau, Fibrax Ltd ei fod wedi mwynhau bod yn rhan o'r panel yn y digwyddiad blynyddol.
Ychwanegodd: “Codwyd rhai pwyntiau diddorol am y rhwystrau i gydweithredu. Edrychaf ymlaen at weld y momentwm o ran rhaglen MADE Cymru yn parhau i dyfu, a byddaf yn chwilio am ragor o gyfleoedd i hyrwyddo'r gwaith gwych y mae'r tîm yn ei wneud i gefnogi a chryfhau Gweithgynhyrchu yng Nghymru"
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk