Myfyriwr Celf Gain PCYDDS yn ennill Gwobr Goffa Brian Ross
06.07.2022
Mae Adam Charlton, sy’n graddio gyda gradd mewn Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cael ei ddewis i dderbyn Gwobr Goffa Brian Ross.
Mae’r wobr, a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cael ei rhoi i bump o raddedigion Celf Gain yng Nghymru, y mae pob un yn derbyn £3000 i helpu sefydlu eu hunain fel artistiaid creadigol proffesiynol.
Dyfarnwyd y wobr £3000 i Adam yn dilyn ei arddangosfa yn arddangosfa’r radd ym mis Mai, lle dangosodd myfyrwyr eu gwaith terfynol i’w asesu a’i weld gan dimau academaidd, y cyhoedd a chyrff dyfarnu.
Mae proffil Adam yn defnyddio lluniadu a phaentio, gan adael i’r ddau gyfrwng uno’n chwareus a gorgyffwrdd mewn lle arbrofol, gan ddefnyddio lliw a llinell i greu dialogau personol, emosiynol.
“Rwy’n creu celf sydd am fy mywyd – rwy’n anwahaniaethol ynglŷn â’r hyn mae fy nghelf yn ymwneud ag ef,” meddai. “Eleni, rwy’ wedi llunio llawer o waith drwy ddychwelyd at yr un darn mewn cyflyrau emosiynol gwahanol iawn a gadael i un meddylfryd ymateb i un arall, yn hytrach na’u gwahanu.
“Rwy’n credu bod dwy ffordd o baentio – paentio’r hyn a welwch yn gorfforol a phaentio’ch syniadau. Mae’r casgliad o waith yma yn ymwneud â’r olaf yn bennaf. Hyd yn oed pan ddefnyddiais ddelweddau fel cyfeiriad, roedd yn ymwneud yn fwy â dal teimlad neu berthynas emosiynol drwy amser na nodweddion gweledol y ddelwedd ei hun.”
Medd Tim Davies, Athro mewn Celf Gain yn PCYDDS: “Rydym wrth ein bodd bod Adam wedi ennill Gwobr Goffa Brian Ross. Enwebodd y tîm Celf Gain Adam gan ei fod yn fyfyriwr rhagorol sy’n graddio gyda photensial enfawr.
“Mae hefyd yn enillydd gwobr baentio Freelands. Bydd yr anrhydedd hwn yn ei weld yn arddangos ei waith yn Sefydliad Freelands yn Llundain yn nes ymlaen eleni, sy’n arddangosfa wych ar gyfer ei baentiadau. Dymunwn y gorau i Adam ar gyfer ei daith yn y dyfodol fel artist gweledol a gwyddom y bydd ei ymrwymiad a’i arbrofi diofn o fudd iddo.”
Wedi ei sefydlu yn 1853, Mae Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr Celf a Dylunio sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau yng Nghymru a’r DU, yn y 3ydd safle yn y DU ar gyfer Crefft a Dylunio, yn 5ed yn y DU ar gyfer Celf, ac yn 9fed yn y DU ar gyfer Ffaswin a Thecstilau.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078