Myfyriwr gradd Meistr a chanolfan ymchwil yn y Drindod Dewi Sant yn cydweithio i wella profiadau plant o weithdrefnau meddygol


27.06.2022

Mae Adam Higgins, myfyriwr yn y Drindod Dewi Sant, wedi cydweithio gyda Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) y Brifysgol, i ddatblygu ei gasgliad o brototeipiau cynnyrch sy’n paratoi plant ar gyfer triniaethau meddygol - Pre-Medical-Preparation - neu PreMedPrep – er mwyn gwella eu profiadau o weithdrefnau meddygol.

University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) student Adam Higgins has collaborated with the University’s Assistive Technologies Innovation Centre (ATiC), to develop his range of Pre-Medical-Preparation – or PreMedPrep – product prototypes to improve children’s medical procedure experiences.

Cefnogwyd y prosiect pum mis gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru trwy Cyflymu, rhaglen £24m a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru.

Bu’r myfyriwr MSc Dylunio Diwydiannol 23 oed o Rhiwbeina yng Nghaerdydd yn gweithio gydag ATiC wrth iddo ddatblygu ei gynhyrchion lliwgar a llachar ar y thema anifeiliaid, gyda phob un yn benodol i weithdrefn neu archwiliad meddygol arbennig.

Mae’r cynhyrchion wedi’u bwriadu i addysgu, dal sylw a pharatoi plant ar gyfer eu triniaethau, megis profion gwaed, archwiliadau’r galon a thymheredd, a nebiwlyddion ar gyfer derbyn meddyginiaeth, gan gynnig ymdeimlad o reolaeth ac ymreolaeth i blant dros eu gofal iechyd.

Yn aml gall gweithdrefnau gofal iechyd achosi i blant deimlo pryder, ofn a straen oherwydd ‘ofn yr hyn sy’n anhysbys’.  

Mae cynhyrchion Adam yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr ynglŷn â sut mae gweithdrefn yn gweithio drwy ei harddangos mewn ffordd realistig.  Mae dysgu drwy weld yn ffordd ddymunol a chysurlon o’u cynorthwyo’n emosiynol ac yn wybyddol, a gwella eu profiad meddygol cyffredinol.

Meddai Adam, un o raddedigion Dylunio Cynnyrch Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant:  “Gall diffyg dealltwriaeth plant o’r hyn sy’n digwydd iddynt arwain at brofiad negyddol o weithdrefnau meddygol; gall achosi ofn a phryder ac effeithio ar eu hymweliadau meddygol yn y dyfodol.  Gall fod goblygiadau parhaus i hyn a bydd plant yn aml yn gwrthod triniaethau yn y dyfodol, sy’n gallu golygu bod gweithdrefnau’n cymryd yn hirach a gwneud gwaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn fwy heriol.

"Gan weithio gydag ATiC, y nod oedd defnyddio dull cymysg i werthuso ac optimeiddio prototeipiau cynnyrch PreMedPrep.  Drwy ddefnyddio'r cyfleusterau, yr arbenigedd a'r cysylltiadau â'r diwydiant o fewn ATiC, llwyddais i archwilio'r potensial masnachol a deall a oedd y cynnyrch yn ateb ymarferol i leddfu’r straen ar blant yn sgil eu profiad fel cleifion o gael profion sgrinio gwaed diagnostig.

“Drwy'r cydweithio, llwyddais i gael adborth gan ymarferwyr meddygol pediatrig, a oedd yn hanfodol wrth ddatblygu’r cynnyrch ymhellach.  Yn ogystal, roedd y cymorth technegol a gynigiwyd gan ATiC yn  caniatáu i mi fireinio'r cynnyrch i safonau gweithgynhyrchu, gan sicrhau bod pob cydran yn gydnaws â dulliau gweithgynhyrchu'r diwydiant.

“Mae cysylltu gydag ymarferwyr meddygol drwy ATiC wedi arwain at brofi’r cynnyrch yn y maes.  Yn Hosbis Plant Tŷ Hafan cafodd y cynnyrch ei brofi mewn amgylchedd meddygol realistig a chyda chleifion a oedd yn cael profion sgrinio gwaed.

“Y camau nesaf nawr wrth ddatblygu fy nghynnyrch yw parhau i gynnal profion yn y maes i gasglu data ychwanegol am y cynnyrch i wneud dadansoddiad mwy cynhwysfawr.  Yn ogystal, gweithio gyda chorff profi trydydd parti i gymeradwyo’r cynnyrch o dan y safonau diogelwch perthnasol.”

Dywedodd Ian Williams, Uwch Gymrawd Arloesi yn ATiC : “Mae'n wych gweld Adam yn defnyddio’i syniadau a'i gysyniadau a ddatblygwyd ar y Cwrs Dylunio Cynnyrch yn y Drindod Dewi Sant i greu menter newydd.  Roeddem yn falch iawn o'i gefnogi drwy ganiatáu iddo fanteisio ar yr arbenigedd a'r cyfleusterau arloesol sydd ar gael yn AtiC.

"Roedd y cydweithio, a oedd yn ymestyn dros bum mis, yn cynnwys cynnal gwerthusiadau o ddefnyddioldeb y cynnyrch gyda chlinigwyr a phlant, gan ddefnyddio ein systemau arsylwi a dadansoddi ymddygiad.

"Roedd y rhyngweithio a'r mewnwelediadau hyn yn galluogi Adam i ddeall yr heriau a mireinio ei ddyluniad ar sail yr adborth a, gyda chymorth ATiC, lluniwyd prototeipiau gwaith newydd drwy argraffu 3D, a brofwyd eto i wella'r cynnyrch ymhellach i gymryd cam yn nes at fod yn barod i'r farchnad.”

Yn ogystal derbyniodd Adam gyngor a chymorth gan Kath Penaluna, Rheolwr Menter y Drindod Dewi Sant ac aelod o grŵp cynghori addysg IPUC Swyddfa Eiddo Deallusol y DU, a’r Twrnai Patent, Tom Baker o Murgitroyd, sy’n cefnogi myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn rheolaidd gydag arweiniad ar sut i ddiogelu eu dyfeisiau arloesol.  

Mae Adam wedi gwneud cais llwyddiannus i gofrestru’r dyluniad o Eilo yr Eliffant, sy'n rhan allweddol o hynt y cynnyrch yn y dyfodol ac a fydd yn rhoi hyder iddo wrth arddangos y cynnyrch yn gyhoeddus yn arddangosfa ddylunio flaenllaw New Designers yn Llundain ym mis Gorffennaf.

Nodyn i'r Golygydd

PreMedPrep

Mae PreMedPrep yn sefyll am Pre-Medical-Preparation ac yn dynodi gwir amcan y cynnyrch i helpu plant i baratoi ar gyfer gweithdrefnau meddygol.

Mae'r Eliffant, o'r enw Eilo, yn ateb cyfannol sydd wedi'i gynllunio i leddfu’r straen ar rieni a phlant yn sgil eu profiad fel cleifion o gael profion sgrinio gwaed diagnostig. Mae paratoi yn allweddol i leihau'r pryderon a'r ofnau y mae plant yn eu profi yn y cyfnod cyn cael profion gwaed. Mae gan Eilo lawer o amcanion dysgu gweledol a chyfeiriadol i wella profiad meddygol y claf.

Gan ddefnyddio technegau gêmeiddio a system gyfeillion i baratoi plant a’u rhieni ymlaen llaw, mae Eilo’r Eliffant yn helpu i arwain plant drwy eu profion gwaed a gwella eu profiad fel cleifion yn sylweddol. Gall hyn gynyddu'r tebygolrwydd o gael y prawf gwaed yn iawn y tro cyntaf, rhoi sicrwydd i'r rhieni a grymuso'r plentyn â phrofiad gofal iechyd cadarnhaol.

I gyd-fynd â'r cynnyrch, mae Llyfr Stori Apwyntiad Eilo yn ffordd chwareus o ddysgu am y broses o gymryd sampl gwaed gartref gyda chymorth Eilo a'i ffrindiau. Mae'r llyfr diddorol yn dangos i blant sut mae Eilo yn cael prawf gwaed ac yn dysgu'r camau hanfodol sydd eu hangen i gwblhau'r weithdrefn.

Yn y pen draw, bydd y plant yn cwrdd ag Eilo'r Eliffant yn yr ysbyty, lle gallant chwarae gyda'r cynnyrch ffisegol a darganfod sut mae profion gwaed yn cael eu cynnal. Gall hyn dynnu eu sylw oddi ar eu hofnau neu eu pryderon mewn ffordd gadarnhaol, ac felly bydd ganddynt fwy o reolaeth dros eu profiad.

Pan fydd hi'n amser cael y prawf gwaed, bydd Eilo'r Eliffant wedi rhoi'r hyder sydd ei angen ar y plentyn i fynd drwy’r weithdrefn a chael profiad gofal iechyd cadarnhaol.

Y Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC)

Mae ATiC, canolfan ymchwil integredig sy'n rhoi dulliau meddwl ac arloesi strategol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ar waith drwy ei chyfleuster ymchwil arloesol i Brofiad Defnyddwyr (UX) a Gwerthuso Defnyddioldeb, wedi’i lleoli yn Ardal Arloesi Abertawe ac mae’n bartner ym mhrosiect £24m Cyflymu Cymru (Cyflymydd Technoleg Arloesi Iechyd Cymru).

Mae cynllun cydweithio arloesol Cyflymu rhwng y Drindod Dewi Sant, Cyflymydd Arloesi Clinigol Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Iechyd Prifysgol Abertawe, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Gwybodaeth Bellach

Bethan Evans

Swyddog Prosiect ATiC, Marchnata a Chyfathrebu | ATiC Project Officer, Marketing and Communications

Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) | Assistive Technologies Innovation Centre (ATiC)

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant | University of Wales Trinity Saint David

Technium 1 | Technium 1

Heol y Brenin | King’s Road

Abertawe | Swansea

SA1 8PH

E-bost | Email bethan.evans@uwtsd.ac.uk