Myfyriwr meistr o'r Drindod Dewi Sant yn dathlu lansiad ei nofel gyntaf


12.12.2022

Mae awdur dawnus a myfyriwr meistr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu wedi iddi lansio ei llyfr cyntaf, Marian.

Bethan Jones with Marian novel at book launch

Mae gan Bethan Jones angerdd am hanes ac ysgrifennu ac mae wastad wedi cael ei swyno gan chwedl Robin Hood, a’i harweiniodd i ymchwilio i hanes yr oesoedd canol. Nofel sy'n cyflwyno persbectif gwahanol a golwg newydd ar chwedl Robin Hood yw Marian, a gyhoeddwyd gan Austin Macauley Publishers.

Mae Bethan yn byw yn Berkshire gyda’i phartner a’u ci ac ar hyn o bryd mae’n astudio gradd Meistr mewn Astudiaethau Canoloesol yn y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â gweithio’n llawn amser. Mae hi'n byw gyda salwch cronig ond nid yw'n gadael i hynny ei rhwystro. Mae ei hysgrifennu yn tynnu ei sylw ac yn ei chludo i fyd gwahanol, lle gall ymchwilio i fywydau ei chymeriadau. Meddai Bethan:

“Rwyf wastad wedi cael fy swyno gan chwedl Robin Hood ond erioed wedi dod o hyd i stori oedd yn dangos Marian fel prif gymeriad cryf, annibynnol. Rydym wedi gweld rhai straeon sy'n gwrthdroi rôl Robin Hood ond nid stori ar wahân ar gyfer Marian.

Mae Marian yn arweinydd yn ei rhinwedd ei hun ac yn haeddu cael hanes ei hun. Cafodd Marian blentyndod ofnadwy ac adeiladodd rwystrau i amddiffyn ei hun dros y blynyddoedd. Nid yw'n gweld ei hun fel arweinydd, ond mae'n cael ei thaflu i'r rôl. Er ei bod yn fenyw, mae hi'n dod o hyd i ffyrdd o gymryd rheolaeth a dod o hyd i bŵer mewn byd sy'n cael ei arwain gan ddynion. Mae Marian yn llawn antur ac wrth gwrs hanes!”

Bethan Jones with Marian novel 2

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020, penderfynodd Bethan anfon ei nofel at sawl cyhoeddwr ar ôl cael y syniad gwreiddiol pan oedd yn 16 oed. Parhaodd Bethan:

“Cymerodd sawl blwyddyn i mi ddrafftio fy nofel, gan mai dim ond 16 oed oeddwn i pan gefais y syniad am y tro cyntaf ac roeddwn i’n gweithio arno’n achlysurol i ddechrau. Roeddwn i'n gwybod beth roeddwn i eisiau fel y dechrau a'r diwedd, ond dros amser dechreuais ysgrifennu ac wrth i mi fynd ymlaen roedd y stori yn dod at ei gilydd.

Yn 2020, yn ystod cyfnod clo cyntaf COVID, penderfynais anfon fy nofel at nifer o gyhoeddwyr. Roedd yn broses hir i'w chyhoeddi oherwydd oedi o ganlyniad i covid ond erbyn mis Gorffennaf eleni fe'i cyhoeddwyd o'r diwedd. Erbyn hyn, mae fy llyfr gyda’r holl adwerthwyr ar-lein yn ogystal ag yn siop Nottingham Castle!”

Mae Bethan nawr yn edrych ymlaen at y dyfodol ac at gwblhau ei hastudiaethau yn y Brifysgol. Daeth i'r casgliad:

“Roeddwn i wrth fy modd yn ymchwilio ar gyfer fy nofel, ac mae gennyf ddrafft cyntaf ar gyfer y nofel nesaf yn barod, fodd bynnag rwyf wedi gohirio hyn am y tro er mwyn cwblhau fy MA mewn Astudiaethau Canoloesol yn Y Drindod Dewi Sant. Arweiniodd yr ymchwil fi i ddechrau fy MA yn y Brifysgol gan fy mod eisiau ymchwilio’n ddyfnach i’r hanes a darganfod merched diddorol drwy’r oesoedd canol y gallwn o bosibl ysgrifennu amdanynt yn y dyfodol.

Rwy'n mwynhau fy nghwrs yn fawr ac wedi dysgu cymaint am hanes canoloesol. Mae fy narlithwyr wedi bod yn anhygoel, mor wybodus a chyfeillgar, bob amser yn fy ngwthio i ymchwilio ymhellach a dadansoddi. Y cam nesaf yw fy nhraethawd hir, ac ni allaf aros i ddechrau arno!”

Mae nofel Bethan ar gael yma:

Marian: Amazon.co.uk: Bethan Jones: 9781398415317: Books

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076