Myfyrwraig o’r Drindod Dewi Sant yn ennill Gwobr Grefftau Oriel Mission 2022
29.06.2022
Mae Megan Jamieson, myfyrwraig ar y radd BA Crefftau Dylunio, wedi ennill Gwobr Grefftau Oriel Mission wedi i feirniaid ymweld â’i harddangosfa yn Sioe Raddio Haf Coleg Celf Abertawe fis diwethaf.
Cafodd gwaith Megan ei ysbrydoli gan ei mamwlad ac roedd yn archwilio ei chysylltiad â lle ar y fferm yng Ngorllewin Cymru lle cafodd ei magu. Meddai Megan, "fe wnes i greu potiau o'r clai roeddwn i wedi’i gloddio o gae y bu fy Nhad a ‘Nhad-cu yn gofalu amdano am 120 o flynyddoedd. Credaf fod y clai yn dal atgofion o’r tir, felly mae’r gwaith hwn ymhlith fy ngwaith mwyaf personol.”
Bu Meg yn archwilio amrywiaeth eang o dechnegau a gynigiwyd ar y Radd Crefftau Dylunio yn y Drindod Dewi Sant gan gynnwys cerameg, metel, gwydr, enamel a phrint. Mae cyfoeth y crefftau a addysgir ar y cwrs hwn wedi caniatáu i Meg fanteisio ar amrywiaeth hyfryd o ddeunyddiau a phrosesau, ac mae ei gosodiad yn ddathliad o'r daith honno dros 3 blynedd.
Gyda’i gwaith wedi'i ddewis o blith gwaith yr holl fyfyrwyr sy'n graddio o raddau crefft, gan gynnwys y cyrsiau Crefftau Dylunio, Gwydr, Patrymau Arwyneb a Thecstilau, mae'r wobr yn rhoi cyfle i Meg arddangos ei gwaith yn Oriel Adwerthu Mission dros fisoedd yr haf, ac i gynhyrchu detholiad o ddarnau i'w gwerthu yn yr oriel yn y tymor hwy.
Y prif feini prawf dethol ar gyfer enillydd y wobr oedd:
- Gwreiddioldeb y cysyniad
- Dull cymhwyso’r syniad(au)
- Sgiliau gwneud
- Integredd y darnau gorffenedig o waith h.y. pa mor raenus, gorffenedig a chadarn ydynt
- Pa mor barod ydynt i’w gwerthu
Dewiswyd gwaith Meg gan Rhian Wyn Stone, Cydlynydd Arddangosfeydd ac Adwerthu yn Oriel Mission, "am ddyfnder ei harchwilio, trylwyredd ei hymholi diwylliannol a chelfyddydol, sgiliau gwneud, ansawdd ei gwaith enamlo, potensial gwneud gwaith ceramig gyda chlai cartref ac apêl adwerthu darnau enamel.”
Meddai Anna Lewis, Darlithydd mewn Crefftau Dylunio yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym mor hapus a balch dros Meg. Gwn y bydd ennill y wobr hon yn golygu cymaint iddi gan ei bod wedi gweithio'n eithriadol o galed ar y casgliad hardd a meddylgar hwn.
“Rydym wrth ein bodd â'r daith o'r fferm i'r stiwdio, ac mae'r ffaith bod y gwaith wedi’i wneud o'r clai a gloddiwyd ganddi hi ei hun yno yn ei wneud yn fwy ystyrlon. Dymunwn bob lwc iddi yn ei gyrfa fel gwneuthurwr yn y dyfodol, ac rydym am ddiolch yn ffurfiol i Oriel Mission am gydnabod y dalent rydym yn ei meithrin yma ar y cwrs Crefftau Dylunio.”
Ceir rhagor o wybodaeth am raddau creadigol ar wefan Coleg Celf Abertawe, yn ogystal â manylion penodol am y cwrs BA Crefftau Dylunio. Bydd gwaith Meg ar gael i’w weld a’i brynu yn Oriel Mission dros yr haf.
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Press and Media Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn | Phone : 07384467078