Myfyrwraig Ragorol ac enillydd Gwobr Grefftau Oriel Mission yn arddangos ei gwaith dros yr haf


12.07.2022

Bydd Megan Jamieson, sydd wedi graddio o’r cwrs BA Crefftau Dylunio, ac y dyfarnwyd iddi Wobr Grefftau Oriel Mission wedi i feirniaid ymweld â’i harddangosfa yn Sioe Raddio Haf Coleg Celf Abertawe, yn arddangos ei gwaith i’w brynu yn yr oriel dros yr haf.

Cafodd gwaith Megan ei ysbrydoli gan ei mamwlad ac roedd yn archwilio ei chysylltiad â lle ar y fferm yng Ngorllewin Cymru lle cafodd ei magu. Meddai Megan, "fe wnes i greu potiau o'r clai roeddwn i wedi’i gloddio o gae y bu fy Nhad a ‘Nhad-cu yn gofalu amdano am 120 o flynyddoedd. Credaf fod y clai yn dal atgofion o’r tir, felly mae’r gwaith hwn ymhlith fy ngwaith mwyaf personol.”  

Bu Meg yn archwilio amrywiaeth eang o dechnegau a gynigiwyd ar y Radd Crefftau Dylunio yn y Drindod Dewi Sant gan gynnwys cerameg, metel, gwydr, enamel a phrint. Mae cyfoeth y crefftau a addysgir ar y cwrs hwn wedi caniatáu i Meg fanteisio ar amrywiaeth hyfryd o ddeunyddiau a phrosesau, ac mae ei gosodiad yn ddathliad o'r daith honno dros 3 blynedd.

Gyda’i gwaith wedi'i ddewis o blith gwaith yr holl fyfyrwyr sy'n graddio o raddau crefft, gan gynnwys y cyrsiau Crefftau Dylunio, Gwydr, Patrymau Arwyneb a Thecstilau, mae'r wobr yn rhoi cyfle i Meg arddangos ei gwaith yn Oriel Adwerthu Mission dros fisoedd yr haf, ac i gynhyrchu detholiad o ddarnau i'w gwerthu yn yr oriel yn y tymor hwy.  

Dewiswyd gwaith Meg gan Rhian Wyn Stone, Cydlynydd Arddangosfeydd ac Adwerthu yn Oriel Mission, "am ddyfnder ei harchwilio, trylwyredd ei hymholi diwylliannol a chelfyddydol, sgiliau gwneud, ansawdd ei gwaith enamlo, potensial gwneud gwaith ceramig gyda chlai cartref ac apêl darnau enamel o ran adwerthu.”

Meddai Anna Lewis, Darlithydd mewn Crefftau Dylunio yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym mor hapus a balch dros Meg. Bydd ennill y wobr hon yn golygu cymaint iddi gan ei bod wedi gweithio'n eithriadol o galed ar y casgliad hardd a meddylgar hwn, a bydd yn ddechrau ardderchog i yrfa anhygoel, rwy’n siŵr.

“Rydym wrth ein bodd â'r daith o'r fferm i'r stiwdio, ac mae'r ffaith bod y gwaith wedi’i wneud o'r clai a gloddiwyd ganddi hi ei hun yno yn ei wneud yn fwy ystyrlon. Dymunwn bob lwc iddi yn ei gyrfa fel gwneuthurwr yn y dyfodol, ac rydym am ddiolch yn ffurfiol i Oriel Mission am gydnabod y dalent rydym yn ei meithrin yma ar y cwrs Crefftau Dylunio.”

Ceir rhagor o wybodaeth am raddau creadigol ar wefan Coleg Celf Abertawe, yn ogystal â manylion penodol am y cwrs BA Crefftau Dylunio;. Bydd gwaith Meg ar gael i’w weld a’i brynu yn Oriel Mission dros yr haf.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078