Myfyrwraig sydd wedi graddio â gradd Meistr yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr i barhau â’u hastudiaethau
07.07.2022
Dechreuodd Donna Cleaver, myfyrwraig aeddfed, ar eu hastudiaethau yn y Drindod Dewi Sant yn 2014 ar y cwrs BA Astudiaethau Cymdeithasol. Ar ôl dechrau anodd mewn addysg, teimlai ei bod wedi colli allan yn ei blynyddoedd ffurfiannol ac wedi ymddieithrio oddi wrth ddysgu, ond roedd eisiau bod yn fodel rôl ar gyfer ei thri phlentyn.
Gydag ymrwymiadau teuluol a swydd amser llawn yn gweithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, llwyddodd Donna i gydbwyso ei gyrfa a’i theulu â’i hastudiaethau ac roedd wrth ei bodd i gael ei gradd.
gen i fawr o hyder yn fy ngallu academaidd. Fodd bynnag doedd dim i boeni amdano. Roedd y darlithwyr ar y rhaglen yn gefnogol iawn, yn gyfeillgar a gwybodus, gan wneud fy nhair blynedd ar y cwrs yn gyfnod pleserus iawn.
Dysgais gymaint yn ystod y cyfnod hwn a chredaf fod fy ngradd wedi fy siapio fel person ac wedi gwella fy nghyflogadwyedd. Ers graddio â BA yn 2017, rwy wedi cael fy nghyflogi Meddai Donna: “Roeddwn i’n teimlo’n nerfus wrth gychwyn y cwrs, ac yn poeni y byddwn i allan o’m dyfnder. Roedd dros 14 blynedd wedi mynd heibio ers i mi adael addysg a doeddfel Cynghorydd Llesiant mewn addysg uwch, gan roi cyngor a chymorth i fyfyrwyr ar eu taith academaidd drwy eu hastudiaethau.”
Wrth iddi gwblhau ei gradd, taniwyd diddordeb Donna mewn astudio ac ymchwil, a phenderfynodd ddychwelyd i’r brifysgol i astudio am radd Meistr mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas. Heddiw mae’n un o’r graddedigion balch ar gampws Caerfyrddin.
Wrth symud ymlaen mae Donna’n bwriadu parhau â’i thaith ddysgu gyda PhD a chanmolodd yr ymrwymiad a’r anogaeth gan academyddion am alluogi ei llwybr i lwyddiant yn y brifysgol, gan ddatgan ‘Ni allaf feddwl am unrhyw le arall lle byddai’n well gennyf astudio’.
Gwybodaeth Bellach
Llinos McVicar BA (Hons), MA, AFHEA, ACIM
Principal Communications and PR Officer Alumni
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cyn-fyfyrwyr
Ffôn/ Phone 01792 481184 (4184)
E Bost/Email: llinos.mcvicar@uwtsd.ac.uk