Myfyrwyr Blynyddoedd Cynnar Y Drindod Dewi Sant yn arddangos eu cyhoeddiadau gyda’r Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar.
24.01.2022
Mae chwech o fyfyrwyr sy’n astudio’r cwrs BA Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi arddangos eu gwaith yn ddiweddar ar y Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar.
Mae’r Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o unrhyw brifysgol sy’n astudio am radd Plentyndod Cynnar i arddangos eu gwaith. Eleni, bu myfyrwyr Sara Llwyd, Kelly Blenkinsop-Clarke, Emily Evans, Holly Dennis, Rachel Hopkins, a Sacha Jarvis o’r Drindod Dewi Sant yn llwyddiannus, a chafodd eu gwaith ei arddangos ar y rhwydwaith. Yn ystod y flwyddyn academaidd, mae darlithwyr PCYDDS yn aml yn annog myfyrwyr i gyflwyno gwaith o ansawdd academaidd uchel i’r rhwydwaith, ac yna, maent yn helpu’r myfyrwyr i olygu eu gwaith er mwyn sicrhau ei fod o’r safon uchaf.
Meddai Glenda Tinney, Uwch-ddarlithydd ar y rhaglenni Blynyddoedd Cynnar: “Rydym wrth ein boddau wrth weld gwaith ein myfyrwyr yn cael ei gyhoeddi gan y Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Maent wedi gweithio’n ddyfal i gynhyrchu eu cyhoeddiadau, ac mae’n wych gweld eu gwaith yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gwaith Prifysgolion eraill ledled y DU. Gwnaeth y cyhoeddiadau gynnwys archwilio dysgu awyr agored, deddfwriaeth ac arfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru, ac addysg ar gyfer cynaladwyedd. Caiff y meysydd hyn hefyd eu hyrwyddo fel rhan o raglenni blynyddoedd cynnar a chwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru, ac felly, mae arddangos gwaith ein myfyrwyr hefyd yn darparu llais sylweddol ar draws y DU o blaid polisi ac arfer blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
“Mae ein myfyrwyr yn astudio gradd amrywiol, sy’n cynnwys gwahanol gyfleoedd i ddysgu, yn ogystal ag aseiniadau a lleoliadau sy’n cysylltu theori ag arfer. Mae ein graddau Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn cynnig cyfle i drafod ac i ymgymryd â thasgau ymarferol, ac mae’r erthyglau a gyhoeddwyd gan y Rhwydwaith Gradd Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn adlewyrchu hyn. Ceir yn eu plith erthyglau sy’n gwerthuso sut y gall ymarferwyr weithredu polisi ADY newydd, erthygl ar gynllunio cyfleoedd dysgu awyr agored ac erthygl sy’n archwilio profiad ‘addysg ar gyfer cynaladwyedd’ personol myfyriwr. Rwy’n gobeithio y caiff pobl gyfle i ddarllen y gwaith gwych hwn.
Gwnaeth cyhoeddiad Holly Dennis drafod cynaladwyedd yn ystod y blynyddoedd cynnar, gan gysylltu â gwobr John Muir. Mae’r Wobr hon yn annog pobl i ymgysylltu â’r byd naturiol a chael eu hysbrydoli i wneud rhywbeth i gefnogi cadwraeth. Engagement Initiative | John Muir Award (johnmuirtrust.org). Darperir gan y John Muir Trust.
Mae Holly yn teimlo’n gryf am gynaladwyedd ac oherwydd bod hwn yn bwnc llosg ar hyn o bryd, teimlodd hi fod angen y cyhoeddiad hwn. Mae Holly yn ystyried y cyfle hwn yn eiliad “rhowch binsiad i mi”. Nid oeddwn erioed wedi meddwl bod fy nghwaith yn ddigon da, heb sôn am fod yn ddigon da i’w gyhoeddi. Mae hwn wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy ngradd, ac mae wedi rhoi hwb i’m hyder. Rwy’n falch iawn o ddweud mai fy ngwaith i yw hwn.”
Ar hyn o bryd, mae Holly yn astudio am radd MA a allai ei harwain at addysgu Blynyddoedd Cynnar. Yn edrych yn ôl ar ei chyfnod fel myfyrwraig, meddai Holly: “Teimlaf fy mod wedi tyfu’n fwy gwydn fel unigolyn, a’r rheswm am hyn, i raddau, yw fy mod wedi astudio’r rhan fwyaf o’m gradd yn ystod y pandemig. Mae hyn, wrth gwrs, wedi fy achosi i gredu yn fy hun, rhywbeth a fyddai wedi bod yn anodd i mi ei wneud cyn hynny, ac mae fy hyder wedi tyfu yn ystod y 3 blynedd diwethaf.”
Mae Emily Evans yn fyfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn yn Y Drindod Dewi Sant. Yn ei chyhoeddiad, gwnaeth hi archwilio sut y gall profiadau awyr agored, ac yn enwedig gweithgareddau sy’n ymwneud â’r traeth a phyllau glan môr, gynorthwyo datblygiad cyfannol a dysgu gan blant ifanc.
Meddai Emily: “Fel mam i ddau o blant, 13 a 7 mlwydd oed, rwy’n frwdfrydig dros y cyfleoedd profiad dysgu sydd i’w cael yn ystod chwarae a sut mae hyn yn cynorthwyo datblygiad cyfannol. Oherwydd cefais fy magu yng nghefn gwlad, cefais gyfle i ddysgu drwy archwilio, ac rwy’n gobeithio y gall pob plentyn gael yr un profiad. Mae’r radd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar wedi rhoi cyfle i mi gyfoethogi fy ngwybodaeth a gwella fy natblygiad.”
Yn ddiweddar, mae Kelly Blenkinsop- Clarke wedi gorffen ei gradd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn Y Drindod Dewi Sant. Ysgrifennodd hi ar y testun ‘Leading change: The impending changes of Additional Learning Needs in Wales.’
Mae Kelly yn fam i dri o blant ac mae’n gweithio mewn dosbarth meithrin a leolir mewn ysgol gynradd.
“Mae gennyf dri o blant fy hun, ac rwy’n gweithio mewn dosbarth meithrin a leolir mewn ysgol gynradd. Yr hyn sy’n bwysig i mi mewn bywyd yw’r awydd i wneud gwahaniaeth i fywydau plant. Mae’r radd wedi bod yn brofiad amhrisiadwy, ac mae fy ngwybodaeth, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o destunau sy’n ymwneud â’r proffesiwn addysg a gofal blynyddoedd cynnar wedi cynyddu’n sylweddol. Rwyf wedi mwynhau rhoi ar waith yr hyn y gwnes i ei ddysgu yn ystod fy ngradd.”
Mae Rachel Hopkins yn ei blwyddyn olaf yn Y Drindod Dewi Sant. Mae ei chyhoeddiad yn trafod ‘The Additional Learning Needs (ALN) Transformation Programme in Wales’.
Dros y deuddeg mlynedd diwethaf, mae Rachel wedi gweithio mewn llawer o rolau byd addysg, ac nid oes diwrnod wedi mynd heibio pan na wnaeth hi fwynhau ei swydd yn fawr. Yn ddiweddar, mae Rachel wedi bod yn gweithio mewn ystafell ddosbarth anawsterau dysgu difrifol (SLD), lle y cafodd hi’r fraint o gynorthwyo plant i ddatblygu eu deilliannau dysgu.
Mae Sacha Jarvis yn Gynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch sydd wedi bod yn gweithio ym maes Blynyddoedd Cynnar mewn ysgol am 15 mlynedd. Mae’n dod at ddiwedd ei gradd yn Y Drindod Dewi Sant ac yn edrych ymlaen at weld beth sydd gan y dyfodol i gynnig iddi. Gwnaeth ei chyhoeddiad drafod Arfer AAA.
Roedd erthygl Sara Llwyd yn ymwneud ag ‘Implications of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) 2018 Act for Early Years Education and Care practice in Wales.’ Meddai hi fod y gwaith, “wedi dechrau fel poster a chyflwyniad fel rhan o aseiniad un o fodylau’r cwrs gradd, gan esblygu’n bapur nes ymlaen. Roedd eisoes gennyf brofiad o weithio yn y sector, a diddordeb mewn newidiadau i’r system o safbwynt y sawl sy’n ymwneud â darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol. Po fwyaf y gwnes i ymchwilio a darllen, y mwy o gwestiynau oedd gennyf, a sylweddolais fod angen cysylltu’r polisi a’r arfer os oeddent am weithio’n effeithiol.
“Mae derbyn dilysiad gan arbenigwyr mor brofiadol a gwybodus yn y maes bod fy ngwaith yn ddigon teilwng i gael ei gyhoeddi wedi rhoi hwb i’m hyder. Mae gennyf ddiddordeb o hyd mewn profiad bywyd plant sydd ag ADY a’r ymarferwyr hynny sy’n gweithio gyda nhw a’u teuluoedd.
Mae Sara yn falch dros ben o’i chyflawniadau ac yn teimlo mewn dyled i’w thiwtoriaid a oedd, yn ei barn hi, yn ysbrydoledig, ac roedd croeso iddi fynd atynt unrhyw bryd am gyngor. Wrth i yrfa Sara ddatblygu (mae hi’n gweithio i Awdurdod Lleol ac yn cefnogi amrywiaeth o leoliadau Gofal Plant), ei dymuniad yw mynychu rhagor o sesiynau hyfforddi a fydd yn ei galluogi hi i gyflwyno i eraill hyfforddiant ac addysg Blynyddoedd Cynnar. Mae hi’n ychwanegu:
“Nid wyf yn credu eich bod chi byth yn gorffen dysgu, ac am fod fy mrwdfrydedd bellach wedi ei ennyn, rwy’n gobeithio i barhau i ddysgu a rhannu’r wybodaeth honno gydag eraill, gan obeithio ei bod hi’n cyfoethogi profiadau plant yng Nghymru.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476