Myfyrwyr Busnes y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin yn creu cystadleuaeth i Fyfyrwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
15.12.2022
Fe wnaeth myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs BA Busnes a Rheolaeth o Ysgol Fusnes Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant greu cystadleuaeth unigryw i fyfyrwyr busnes o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel rhan o’u gwaith cwrs.
Fel rhan o’r modiwl ‘Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth’, gofynnwyd i fyfyrwyr ail flwyddyn greu cystadleuaeth syniad busnes. Fe wnaethant benderfynu gwahodd myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion i gymryd rhan trwy greu a chyflwyno cynnig pum munud yn seiliedig ar syniad busnes cynaliadwy arloesol newydd o flaen panel ar gampws Caerfyrddin o’r Drindod Dewi Sant.
Ar ôl gosod y syniad, roedd yn rhaid i’r myfyrwyr gydweithio er mwyn creu’r digwyddiad. Neilltuwyd rolau gwahanol i’r myfyrwyr o drefnwyr i arweinwyr tîm a rheolwyr llawr.
Tarodd Jessica Shore, Rheolwr Rhaglen ac Uwch Ddarlithydd o Ysgol Fusnes Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant, ar y syniad hwn fel ffordd o ddatblygu set sgiliau’r myfyrwyr, ac iddyn nhw gael cipolwg ar y diwydiant busnes. Ychwanega:
“Rydym yn falch iawn o allu cynnal y Gystadleuaeth Busnes Cynaliadwy yma ar gampws Caerfyrddin wedi’i threfnu gan y myfyrwyr Busnes a Rheolaeth lefel 5, roedd safon y ceisiadau’n uchel iawn ac roedden nhw’n bendant wedi rhoi rhai penderfyniadau anodd i’r beirniaid.
“Tra oedd y myfyrwyr ar y campws, cawsant daith o’r cyfleusterau a’r mannau addysgu ynghyd â thaith o’r cyfleusterau chwaraeon ardderchog sydd ar gael trwy Academi Chwaraeon y Drindod Dewi Sant.
“Mae ein myfyrwyr lefel 5 wedi creu digwyddiad ardderchog, a oedd wedi’i drefnu’n dda a’i ystyried yn fanwl. Rydym yn hynod falch o’r ymrwymiad a ddangoswyd ganddynt yn ystod y dasg hon ac mae wedi rhoi cyfle ardderchog iddynt gael rhywfaint o brofiad ymarferol o drefnu digwyddiadau.”
Mynychwyd y digwyddiad gan 55 myfyriwr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, ac fe wnaeth wyth tîm gymryd rhan yn cynnig syniadau o sefydlu siopau hen ddillad i gaffi bwyd cynaliadwy.
Cymrodd Sophie Evans, myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant, y rôl fel Rheolwr Llawr ar gyfer y digwyddiad. Roedd ei rôl yn cynnwys sicrhau bod yr holl dasgau wedi’u cwblhau, cefnogi ac ymwneud â’i dosbarth er mwyn cynllunio’r digwyddiad, a gwneud yn siŵr fod popeth yn rhedeg yn esmwyth ar y diwrnod.
Meddai:
“Trwy gynllunio’r digwyddiad, mae wedi dangos i mi sut y gall pobl ddod ynghyd i gefnogi ei gilydd a datrys problemau a allai godi wrth weithio fel rhan o dîm mwy.”
Aelod arall o’r grŵp fu’n trefnu oedd Laura Clarke. Ychwanega:
“Cydweithiodd ein grŵp o fyfyrwyr busnes lefel 5 i gynllunio a chynnal y gystadleuaeth hon ar gyfer myfyrwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Fe wnaethom i gyd fwynhau’r prosiect hwn a dysgu llawer am ein cryfderau a’n gwendidau ein hunain wrth gynllunio’r gystadleuaeth, ac roedd hi’n wych cael cwrdd a threulio amser gyda’r myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, a oedd ganddynt i gyd syniadau ysbrydoledig ac arloesol. Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r sgiliau rydyn ni wedi’u dysgu i gynllunio digwyddiadau pellach er lles y brifysgol a’r gymuned ehangach.”
Ar ôl clywed pob grŵp, penderfynodd y beirniaid mai’r enillwyr oedd ‘Plannu’r Dyfodol’, grŵp bach o Goleg Sir Gâr, a’r syniad buddugol oedd ‘deunydd pacio â hadau’ i’w farchnata i gwmnïau siocled a melysion, papur bioddiraddadwy yn y bôn, ac wedi’i argraffu mewn lliwiau llachar gydag inciau bioddiraddadwy, ac yn cynnwys hadau ffrwythau a/neu lysiau. Byddai gan y deunydd lapio wybodaeth ar y tu mewn am yr hadau y byddai’n ei gynnwys, a byddai wedi’i gynllunio i annog garddio, ‘tyfu’ch bwyd eich hun’ a diddordeb yn y daith y mae ein bwyd yn mynd arni cyn ein cyrraedd ni.
Roedd y digwyddiad hwn hefyd yn gyfle gwych i arddangos campws Caerfyrddin i’r myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, ac i ddangos yr hyn sydd gan y cwrs busnes yma i’w gynnig.
Roedd myfyrwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion o’r farn fod y digwyddiad yn llwyddiant ac yn fuddiol, ac maen nhw wedi gofyn i ddigwyddiadau pellach gael eu trefnu ar y campws.
Meddai Navdeep Randhawa, Darlithydd Busnes yng Ngholeg Sir Gâr, yn ogystal ag yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant:
''Rydym yn ddiolchgar i Ysgol Fusnes Caerfyrddin y Drindod Dewi Sant am roi’r cyfle i’n dysgwyr yng Ngholeg Sir Gâr brofi bywyd prifysgol a chyflwyno i banel o feirniaid brwdfrydig a phrofiadol.
“Fe wnaeth ein dysgwyr fwynhau’r diwrnod hwyliog a gafodd ei gynllunio a’i drefnu ar eu cyfer yn arw. Roedd hi’n wych gweld y cydweithio rhwng y sefydliadau er mwyn cadw’r bartneriaeth ddeuol yn gryf.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476