Myfyrwyr Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth yn arddangos gwaith mewn arddangosfa haf


15.06.2022

Mae myfyrwyr ar y cwrs BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi arddangos eu darnau terfynol yn y sioe radd haf yn adeilad IQ, Campws SA1 y Glannau.

Mae'r sioe yn arddangos prosiectau terfynol myfyrwyr sydd ar fin cwblhau eu gradd Baglor, ac mae'n un o uchafbwyntiau'r calendr academaidd, gan roi cyfle gwych i arddangos talent a dod â theulu, ffrindiau a'r cyhoedd i mewn i weld a dathlu eu llwyddiant.

Meddai Sergio Fontanarosa, Rheolwr Rhaglen: “Mae dosbarth 2022 yn grŵp o Ddylunwyr Modurol a Thrafnidiaeth talentog, uchelgeisiol sydd wedi llwyddo i oresgyn heriau’r tair blynedd diwethaf.

“Maent yma i arddangos eu gwaith amrywiol a’u creadigrwydd: i ailddychmygu cerbydau’r dyfodol ac iaith ddylunio, i ymdrin â’r heriau amgylcheddol rydym oll yn eu hwynebu yn y dyfodol agos a’r dyfodol pell, i wthio ffiniau peirianneg a datrys problemau ergonomig, ymchwilio i ddefnyddiau newydd, a gwella ystod a rhyngweithio cymdeithasol.

“Mae tair blynedd o waith caled wedi talu ar ei ganfed, ac maent wedi dysgu sut i luniadu, sut i rendro, sut i ddefnyddio meddalwedd 3D safon diwydiannol, sut i gerflunio, sut i ymchwilio, sut i gael eu hysbrydoli, sut i feddwl tu allan i’r bocs, a sut i fod yn feiddgar.

“Mae’n gyrhaeddiad gwych ar gyfer y myfyrwyr hyn, ac yn ddechrau taith ardderchog. Mae’n fraint enfawr i mi a’r tîm allu tystio i hyn wrth ddathlu 200 mlynedd o Addysg. Dymunwn bob lwc iddynt gyda’u gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Cynhelir yr arddangosfa hyd at 16 Mehefin, ac mae'n rhan o Arddangosfa Haf flynyddol Coleg Celf Abertawe, lle mae myfyrwyr  blwyddyn olaf  y Drindod Dewi Sant ar gyrsiau creadigol yn arddangos gwaith mewn lleoliadau amrywiol o amgylch y ddinas.

Bydd yr arddangosfa'n symud ar-lein o 7 Gorffennaf.

 

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Phone : 07384467078