Myfyrwyr Dylunio Modurol Y Drindod yn arddangos cysyniadau mewn cynhadledd ryngwladol yn Barcelona
17.08.2022
Cafodd modelau cysyniad a grëwyd gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Dylunio Modurol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) eu harddangos yng Nghynhadledd ac Arddangosfa Ryngwladol Best of Belron a gynhaliwyd yng nghanolfan gynadledda FIRA Barcelona.
Mae Christian White, myfyrwyr presennol a Francesco Galimberti a Gary Peterson, cyn-fyfyriwr y BA Dylunio Modurol a Chludiant wedi arddangos gwaith yn y gynhadledd, a fynychwyd gan dros 1600 o bobl o’r sectorau gweithgynhyrchu a gwasanaeth modurol. Belron yw cwmni trwsio ac ailosod gwydr modurol mwyaf y byd, ac mae wedi cefnogi ymchwil modurol cymhwysol Y Drindod am fwy na thri deg o flynyddoedd.
Mae Pennaeth Ymchwil ac Arloesi Technegol Belron, Dr Chris Davies, yn Athro Ymarfer yn Y Drindod a dywedodd: “Mae Belron wedi gwerthfawrogi ei bartneriaeth gyda’r Drindod ac arbenigedd staff a myfyrwyr y Brifysgol ym maes technoleg modurol, sydd wedi darparu cymaint o ran mewnwelediad a gwybodaeth dros y blynyddoedd.
“Roedd modelau’r myfyrwyr yn amhrisiadwy wrth amlygu sut y bydd technoleg cerbydau, fel systemau cynorthwyo gyrwyr uwch, yn esblygu dros amser a sut y bydd hynny’n effeithio ar atgyweirio a chynnal a chadw yn y dyfodol.
“Roedd y stondin ymchwil ac arloesi roedd y modelau’n cael eu harddangos arno’n boblogaidd iawn gyda’n cwsmeriaid fflyd byd-eang ac yswiriant, y busnesau gweithredu a’r cyfranddalwyr.”
Meddai Dr Gwen Daniel, Pennaeth Ymchwil a Chwmpas Ailcalibradu yn Belron “Gwnaethom weld bod angen modelau graddfa cysyniadol a fyddai’n gallu dangos y chwildro mewn Systemau Cynorthwyo Gyrwyr Uwch (ADAS), fel synwyryddion datgelu gwrthdrawiad - sy’n fwy a mwy cyffredin mewn cerbydau modern - a’r galw am galibradu gofalus wrth ailosod ffenestri blaen. Roedd y modeli chwarter graddfa o’r Drindod yn berffaith wrth hyrwyddo’r cysyniadau hyn.”
Cafodd gwaith y myfyrwyr ei drefnu gan Sergio Fontanarosa, Rheolwr Rhaglen y BA Dylunio Modurol a Chludiant, a’r Athro Kelvin Donne, Cymrawd Proffesiynol yn Y Drindod Dewi Sant. Dywed Donne: “Hon oedd un o’r cynadleddau rhyngwladol mwyaf rwyf wedi’i mynychu, a gwelais gryn ddiddordeb yn ein harddangosiadau ar y stondin Ymchwil ac Arloesi gan uwch beirianwyr modurol o bob rhan o’r byd.”
Ychwanega Fontanarosa: “Mae’r ffaith bod y Brifysgol a gwaith y tri myfyriwr a graddedigion talentog yma wedi cael eu dewis gan Belron – cwmni atgyweirio ac ailosod gwydr modurol mwyaf y byd – ar gyfer ei stondin Ymchwil ac Arloesi yn anrhydedd enfawr. Am gyfle gwych iddyn nhw a’r rhaglen gyfan i gael eu gweld ar blatfform rhyngwladol. Diolch yn fawr iawn am y cyfle.”
Gwybodaeth Bellach
Ella Staden
Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: ella.staden@uwtsd.ac.uk
Ffôn: 07384467078