Myfyrwyr MA Theatr Perfformio a MA Musical Theatre yn paratoi ar gyfer perfformio ‘The Penelopiad’.


21.03.2022

Mae myfyrwyr cwrs MA Theatr Perfformio a chwrs MA Musical Theatre Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (Wales Academy of Voice and Dramatic Arts - WAVDA) wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer eu cynhyrchiad o’r gwaith ‘The Penelopiad’, a gaiff ei berfformio’n ddiweddarach y mis hwn yng Nghanolfan y Celfyddydau ‘The Gate’, Caerdydd.  

‘The Penelopiad’  by Margaret Atwood is an adaptation of her novel of the same name which re-tells the story of The Odyssey from the perspective of Penelope the wife of Odysseus, it explores the killing of Penelope's 12 Maids and the responsibility of the event. It is a mix of Greek mythology and Atwood's own imagination to explore feminist ideas.

Mae ‘The Penelopiad’  gan Margaret Atwood yn addasiad o’i nofel o’r un enw sy’n ailadrodd hanes Yr Odyseia o safbwynt Penelope, gwraig Odysseus, gan archwilio llofruddiaeth 12 morwyn Penelope, a phwy sy’n gyfrifol am hynny. Mae’n gymysgedd o fytholeg Gwlad Groeg a dychymyg Atwood ei hun wrth archwilio syniadau ffeministaidd.

Gwnaiff y ddrama deimladwy iawn hon, sydd weithiau’n ddoniol, adael y gynulleidfa â rhyw ymdeimlad o barchedig ofn oherwydd arddwysedd a grym y profiad benywaidd.  

Mae ymdrochi yn y themâu a’r byd y mae Atwood yn eu harchwilio yn golygu deall y fytholeg a hefyd gwleidyddiaeth Atwood, gan archwilio sut y mae’r rhain yn gysylltiedig â’r perfformwyr a chydag unigolion eraill. Wrth berfformio’r gwaith hwn, mae aelodau’r cast yn teimlo bod gofyn iddynt ymchwilio, nid dim ond i ymylon y fytholeg a’r hanes, ond hefyd y byd modern, a sut y mae hwythau yn symud o’i gwmpas.

Elen Bowman sydd wedi cyfarwyddo’r cynhyrchiad, a Lucy Rivers yw’r Cyfarwyddwr Cerdd.

Mae’r cast wedi bod wrthi’n gweithio ar y cynhyrchiad hwn am ryw fis. Meddai un o’r myfyrwyr, Leigh Woolford:   “Mae’r broses ymarfer wedi bod, ac yn dal i fod, yn dipyn o siwrnai. O’m safbwynt innau, fel myfyrwraig hŷn, mae hi wedi bod yn broses archwiliadol, ac er ei bod hi’n ddwys, yn flinedig ac yn ddofn... rwy’n mwynhau’r mapio a’r cynnwrf o weld popeth yn dod at ei gilydd.

“Mae gweithio gyda’n Cyfarwyddwr a’n Tiwtor Elen Bowman wedi creu ffordd o weithio unigryw nad wyf erioed wedi ei phrofi o’r blaen. Wrth i ni gydweithio, y mae Elen wedi bod yn annog ein cymeriadu er mwyn gyrru ymlaen y symud a’r symbyliad, a thrwy wneud hynny, cyfleu’r testun a’r golygfeydd. Mae hyn wedi fy ngalluogi i fod yn greadigol a rhannu a datblygu fy nychymyg byw. Nid oes unrhyw amheuaeth bod y modd hwn o weithio o fudd mawr i’r actorion a’u datblygiad fel artistiaid.”

Ym marn Leigh, mae gweithio mewn modd trefnus yn hanfodol,  ac mae hi wedi bod yn paratoi ar gyfer y cynhyrchiad hwn am wythnosau cyn i’r rihyrsals hyd yn oed ddechrau. Mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn Mytholeg Gwlad Groeg am fod llawer o blotiau operâu wedi’u seilio ar y storïau sydd yn y casgliad. Haf diwethaf, bu Leigh yn ddigon ffodus i weithio yn Ithaca, Gwlad Groeg, am ychydig o wythnosau. Yn eironig, roedd hi yno yn gweithio fel gwarchodwraig plant, sef union yr un rôl ag y bydd hi’n ei chwarae yn y ddrama.

Dywedodd Kallum Weyman,  sydd wedi graddio o’r cwrs MA Cyfarwyddo a Rheolwr Llwyfan y cynhyrchiad: “Wrth weithio drwy’r script, y peth unigryw sydd yn eich taro am y cynhyrchiad hwn yw bod y morwynion wedi’u trefnu ar ffurf côr sy’n arsylwi ar bopeth sy’n digwydd ac yn cymryd rhan ym mhob gweithred. Mae creu’r cymeriadau hyn, sydd bob amser yn bresennol ac sy’n effeithio ar sut yr ydym i gyd yn rhyngweithio o fewn y ddrama gyfan, yn dipyn o brofiad unigryw.

“Rhywbeth arall sy’n unigryw yw cydweithio gyda’r cyfansoddwraig Lucy Rivers.  Am nad oes gan y ddrama sgôr ysgrifenedig, mae Lucy wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth i gyd-fynd â’r geiriau a ddarperir, ac mae gweld hwn yn dod yn fyw yn unigryw ac yn ddiddorol.”

Mae’r Cyfarwyddwr Cwrs Eilir Owen Griffiths yn edrych ymlaen at weld y cynhyrchiad hwn yn dod at ei gilydd. “Mae’n brosiect uchelgeisiol, ac mae’r myfyrwyr wedi gweithio’n galed dros ben. Rwyf mor falch bod y myfyrwyr wedi cael y cyfle i gydweithio â Lucy Rivers. Mae aelodau’r cast wedi eu cynhyrfu’n fawr oherwydd eu bod nhw unwaith eto yn gallu perfformio yn bersonol o flaen cynulleidfa mewn theatr. Mae bod yn ôl ar y llwyfan o flaen cynulleidfa fyw ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf, a theimlo ymateb cynulleidfa unwaith eto yn gyffrous iawn.”

Caiff perfformiadau  ‘The Penelopiad’ eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau ‘The Gate’, Caerdydd, ar Fawrth 24ain a 25ain. Mae tocynnau ar gael yma.

Nid yw’r ddrama hon yn addas ar gyfer plant dan 16 mlwydd oed.

Nodyn i'r Golygydd

WAVDA:

 

Gan adeiladu ar lwyddiant Academi Llais Ryngwladol Cymru a Chanolfan Berfformio Cymru, mae WAVDA yn bair o greadigrwydd, sy’n datblygu actorion, cantorion a chyfarwyddwyr y dyfodol. Mae moeseg waith yr Academi wedi’i seilio ar barch a chydweithio, mae ein myfyrwyr yn gweithio gydag arbenigwyr enwog y diwydiant wrth fireinio eu crefft yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

07449 998476

lowri.thomas@uwtsd.ac.uk