Myfyrwyr o’r Drindod Dewi Sant yn gweithio ar gyfres ddiweddaraf Disney, ‘Willow’.
21.12.2022
Mae dwy fyfyrwraig o gwrs BA Dylunio Set a Chynhyrchu Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi gweithio ar set cyfres ddiweddaraf Disney +, ‘Willow’.
Yn dilyn llwyddiant ffilm 1988 o’r un enw, cyfres deledu antur ffantasi Americanaidd yw ‘Willow’ sydd wedi’i ffilmio yn Dragon Studios, Pen-y-Bont ar Ogwr, a’i chynhyrchu gan Lucasfilm ac Imagine Entertainment.
Cafodd y myfyrwyr Bethan Elsbury ac Ellie Reynolds gyfle i weithio gyda’r cwmni Greens Team ar ôl i’w darlithydd, Dave Atkinson, weld y cyfle’n cael ei hysbysebu a’u hannog i ymgeisio.
Meddai Bethan: “Roedd hi’n swreal iawn cael rhan fechan hyd yn oed mewn cynhyrchiad mor uchel ei broffil ac arwyddo NDA gyda Lucasfilm.”
Meddai Ellie:
“Roeddwn i wedi cyffroi ac yn hapus iawn i fod yn gweithio ar gynhyrchiad mor uchel ei broffil fel myfyriwr.”
Ychwanegodd Bethan:
“Roedd gweithio gyda’r Greens Team yn agoriad llygad mawr i un o’r nifer o rolau sydd ar gael yn y diwydiant ffilm a theledu, gan roi manylion na fyddai’r rhan fwyaf hyd yn oed yn eu hystyried.”
Yn ystod eu hegwylion, bu Bethan ac Ellie’n ddigon ffodus i weld rhywfaint o’r set ar y safle yn Dragon Studios a oedd wedi’i leoli ger eu man gweithio arferol.
Meddai Bethan: “Y prif beth rydw i wedi’i gymryd o’r profiad hwn yw strwythur y diwrnod a’r gwaith caled y tu ôl i’r manylyn lleiaf hyd yn oed, sy’n digwydd ar gynyrchiadau mawr fel hwn. Ceir oriau hir a boreau cynnar, ond mae wedi rhoi enghraifft i mi o’r hyn i’w ddisgwyl ac wedi gwneud i mi deimlo’n fwy parod ar gyfer rolau llawrydd posibl.
“Fe agorodd fy llygaid hefyd i’r gwaith caled sydd ei angen yn y math hwn o lwybr gyrfa, er yr oeddwn i’n ymwybodol ohono, mae’n wastad yn ddefnyddiol cael ei brofi eich hun. Roedd y rhai a weithiais â nhw’n groesawgar a chyfeillgar iawn ac mae gen i’r rhan fwyaf ar y cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn. Roedd hi’n ddiddorol iawn cael clywed am eu profiadau gwahanol nhw i gyd a chlywed am y prosiectau eraill y maen nhw wedi gweithio arnyn nhw.
“Rydw i wedi dod ohono gydag atgofion melys a dealltwriaeth well fyth o fy hunan a sut hwyl y gallwn ei gael ar weithio’n llarwydd yn y dyfodol.”
O ganlyniad i’r profiad hwn, dywedodd Ellie ei bod hi wedi dysgu pwysigrwydd creu cysylltiadau a’ch gwthio’ch hun i roi cynnig ar bethau newydd.
Dywedodd: “Rydw i hefyd wedi cael gwell dealltwriaeth o’r rolau amrywiol mewn ffilm a theledu.”
Wrth weithio ar y set, roedd y ddau fyfyriwr o’r farn bod y Brifysgol yn ystyried y profiad hwn yn fuddiol i’w hastudiaethau.
Meddai Bethan: “Gan ein bod ni bob amser yn cael ein hannog i ennill y profiadau hyn, roedd fy nhiwtoriaid yn gymwynasgar iawn yn ei gylch ac fe wnaethant gynnig cyngor a chymorth drwyddi draw.
“Wrth gychwyn fy mlwyddyn olaf o’r BA Dylunio Set a Chynhyrchu, rydw i wedi dechrau profi’r oriau hir a’r gwaith caled y tu ôl i bob cynhyrchiad ar lefel mwy proffesiynol. Mae cael y profiad a’r ymwybyddiaeth hon o weithio yn Dragon Studios wedi fy nghaniatáu i fynd ato â mwy o hyder a chydag ymwybyddiaeth o safonau’r diwydiant, gan ddeall ei fod i’w ddisgwyl ac yn rhywbeth i ddod yn fwy cyfarwydd ag ef.”
Meddai’r Darlithydd Dave Atkinson:
“Mae’r rhaglen dylunio set a chynhyrchu bob amser yn ceisio annog, cyrchu a darparu ar gyfer lleoliadau gwaith yn y diwydiant ochr yn ochr â’r dysgu oherwydd credwn fod hyn yn galluogi’r amgylchedd dysgu gorau posibl.”
Wrth i’r ddwy barhau â’u hastudiaethau, maen nhw’n bwriadu parhau i ennill sgiliau a phrofiad yn y diwydiant cynhyrchu trwy arbrofi ym mhob maes, wrth achub ar gynifer o gyfleoedd â phosibl, gyda’r nod yn y pen draw o weithio ar set fel cyfarwyddwyr celf.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas, Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
07449 998476