New Designers 2022 yn llwyddiant ysgubol i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant


11.07.2022

Mae’r sioe Dylunwyr Newydd wedi dod i ben am flwyddyn arall, ac mae myfyrwyr a staff o Goleg  Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi pacio eu harddangosfeydd a dod â'u gwaith – a'u gwobrau – adref.

Fe wnaeth myfyrwyr o gyrsiau mewn Crefftau Dylunio, Gwydr, Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Darlunio, Dylunio Graffig a Dylunio Cynnyrch a Dodrefn, arddangos eu gwaith dros bythefnos yn yr arddangosfa flynyddol, ddwy ran yn Llundain. Arddangosfa yw hon sy'n denu cyflogwyr o’r diwydiant, prynwyr, y cyfryngau, rhagfynegyddion tueddiadau a'r cyhoedd sy'n awchu am ddyluniadau.

Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i fyfyrwyr arddangos eu talent i arweinwyr y diwydiant ac ennill gwobrau am waith ardderchog. Eleni, gwelwyd myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn ennill 10 gwobr a geiriau o ganmoliaeth:

Wythnos 1

Cyrhaeddodd Kate Scale, myfyriwr Crefftau Dylunio, y rhestr fer am y Wobr Cydwybod Creadigol i’r gorau yn y sioe am effaith gymdeithasol/amgylcheddol.

Cafodd Elinor Frances Jones, myfyriwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau, ei dewis  gan Contrado yn un o enillwyr eu gwobr Cysylltiedig.

Fe wnaeth Tu Clothing gynnwys Damasque Wells, myfyriwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau, ar eu rhestr fer a’i llongyfarch am ei chyflawniad

Fe wnaeth Wilco gynnwys Emma Landek, myfyriwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau, ar eu rhestr fer a’i llongyfarch am ei chyflawniad

Wythnos 2

Enillodd Erin Jefferys, myfyriwr Dylunio Graffig,  Wobr Sky Creative

Cafodd y myfyrwyr Dylunio Graffig, Sophie Francis a Joseff Williams, gydnabyddiaeth Shout Out Creative Talent gan Pentland Brands

Yn ogystal derbyniodd Joseff Williams gydnabyddiaeth ‘We love your work’ gan lmcdesign

Derbyniodd y myfyrwyr Dylunio Cynnyrch a Dodrefn Lauren Gooch (BA) ac Adam Higgins (MA) wobr ‘Lego Heart’ i gydnabod eu gwaith gwych.

Mae Adam Higgins hefyd wedi cael ei gydnabod â gwobr gan Joseph and Joseph.

Mae’r Brifysgol yn falch iawn o’u cyflawniadau ac yn llongyfarch pawb a gymerodd ran. Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd yng Ngholeg Celf Abertawe: “Rydym yn falch iawn o allu arddangos talentau ein graddedigion yn sioe New Designers yn Llundain eleni. Maent yn unigolion hynod greadigol sy'n rhagori yn eu disgyblaethau, ac mae'r gwobrau a'r rhestrau byr hyn yn cydnabod y dalent honno.”  

Wedi'i sefydlu yn 1853, mae Coleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr cyrsiau sy'n gysylltiedig â'r Celfyddydau yng Nghymru a'r DU,  gan ddod yn 3ydd yn y DU o ran Dylunio a Chrefft, 5ed yn y DU o ran Celf, a 9fed  yn y DU o ran Ffasiwn a Thecstilau.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078