Partneriaethau newydd ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach wrth i’r colegau a Phrifysgol Cymru ddod at ei gilydd i arwyddo Cytundeb cydweithredu
25.07.2022
Mae’r broses o ffurfio rhwydwaith o Sefydliadau Prifysgol Technegol, sy’n dod ag addysg uwch ac addysg bellach ynghyd, wedi cymryd cam yn nes at ddod yn realiti wrth i Brifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a cholegau Addysg Bellach blaenllaw ddod i bartneriaeth newydd. Bydd y Sefydliadau Prifysgol Technegol yn cyflwyno rhaglen o gymwysterau technegol uwch ar draws sectorau blaenoriaeth economaidd a chymdeithasol a bydd yn cael ei llywio gan anghenion cyflogwyr.
Bydd y sefydliadau yn rhan o strwythur prifysgolion cydffederal newydd a wnaethpwyd yn bosibl trwy Siarter Frenhinol Prifysgol Cymru a bydd yn cynnwys Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, grŵp prifysgol sector deuol Cymru sy’n cwmpasu Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Yn ymuno â'r brifysgol gydffederal mae Grŵp CAVC, Grŵp Colegau NPTC, a Choleg Sir Benfro a bydd pob un yn parhau i fod yn sefydliadau addysg bellach annibynnol.
Cafodd y cynlluniau i greu’r rhwydwaith eu hamlinellu gan yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn seremoni raddio ym mhresenoldeb Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Siarl. Yn dilyn y seremoni, dywedodd yr Athro Hughes, “Mae’r cytundeb hwn yn garreg filltir yn nhaith addysg uwch ac addysg bellach wrth i’r prifysgolion a’r colegau ymateb gyda’i gilydd i fesur Llywodraeth Cymru i greu un sector addysg ôl-orfodol i Gymru.”
Yn dilyn llofnodi’r cytundeb cydweithredu yn ffurfiol, bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant nawr yn partneru â’r colegau i ddatblygu dull newydd o ddylunio, darparu a sicrhau ansawdd cymwysterau technegol lefel uwch.
Dywedodd Mark Dacey Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Colegau NPTC:
“Bydd y bartneriaeth yn sicrhau ein bod ni yn bartneriaid effeithiol a gweithredol o fewn Prifysgol Cymru ac yn eistedd ochr yn ochr â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae gwaith eisoes ar y gweill i gydgynllunio a chyd-guradu'r ystod newydd o gymwysterau technegol a galwedigaethol. Bydd hyn yn darparu parch cydradd gwirioneddol a chyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gyrfaoedd tra’n cefnogi cyflogwyr lleol.”
Dywedodd Dr Andrew Cornish, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion:
“Bydd dyfodiad y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) yn dod â chyfleoedd a heriau. Bydd y berthynas newydd hon yn datblygu perthynas waith gyffrous, gydffederal rhwng y Brifysgol a’i phartneriaid Addysg Bellach fel rhan o ymagwedd sector deuol integredig a llwyddiannus at addysg. Bydd cefnogi busnes yn ganolog i’r datblygiad hwn yn y misoedd nesaf, wrth i ni weithio gyda nhw i ddarparu gweithlu medrus a gwerthfawr iawn i Gymru yn y dyfodol.”
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp CAVC, Mike James:
“Mae Grŵp CAVC wedi adeiladu partneriaethau cryf, ystyrlon gyda phrifysgolion yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf ac rydym wedi ymrwymo i barhau â hyn. Mae’r bartneriaeth gyffrous hon yn cynnig ymagwedd flaengar, gydlynol, sector deuol at ddatblygu ymhellach ein harlwy sgiliau technegol lefel uwch yn unol â blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae sicrhau bod gennym y cymwysterau cywir a hyfforddiant o ansawdd uchel yn eu lle i ddatblygu sgiliau lefel uwch, yn cefnogi ein cymuned, cyflogwyr ac economi ein rhanbarth a thu hwnt.”
Ychwanegodd Pennaeth Coleg Sir Benfro, Dr Barry Walters:
“Mae’r Coleg yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a cholegau Addysg Bellach eraill yn y dull newydd hwn o ddarparu darpariaeth Addysg Uwch yn lleol. Rydym wedi partneru gyda’r Brifysgol ers 2011 ac yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio wrth symud ymlaen.”
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076