PCYDDS yn cefnogi penwythnos o chwaraeon dygnwch rhagorol


19.08.2022

Cefnogodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) benwythnos o chwaraeon dygnwch rhagorol yn Abertawe ar Awst 6 a 7.

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) supported a weekend of outstanding endurance sport in Swansea on August 6 & 7.

Denodd Cyfres Para Triathlon y Byd 2022 Volvo, gyda chystadlaethau nofio, seiclo a rhedeg i gyd wedi eu canoli o gwmpas glannau SA1 fel hwb, a’r IRONMAN 70.3 Abertawe, filoedd o athletwyr a gwylwyr, gan roi hwb sylweddol i’r economi leol.

Roedd adeiladau PCYDDS ar ei champws SA1 Glannau Abertawe ar gael i drefnwyr, athletwyr a’u teuluoedd yn ystod y penwythnos. 

Meddai'r Athro Ian Walsh: "A'n prif gampws yma yng nghanol y ddinas, rydyn ni'n credu bod hwn yn gyfle gwych i arddangos manteision ffordd iach o fyw a chymryd rhan mewn chwaraeon trwy arddangos y para-athletwyr gorau yma yng nghanol y ddinas. 

"Rydyn ni'n gyffrous iawn am y cyfleoedd i'n myfyrwyr ein hunain gymryd rhan yn y digwyddiadau a hefyd i gael eu hysbrydoli i wneud chwaraeon yn rhan nid yn unig o'u hastudiaethau ond hefyd er mwyn cael bywyd iachach." 

Roedd y digwyddiadau yn ddiweddglo i wythnos o weithgarwch – gan gynnwys Gŵyl Para Chwaraeon – a ysbrydolodd bobl i gymryd rhan a mwynhau chwaraeon.

Y trefnwyr oedd IRONMAN a British Triathlon; roedd prif gefnogwyr hefyd yn cynnwys Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Bu’r digwyddiad eleni yn rhan o ymrwymiad tair blynedd i gynnal ras Cyfres Para Triathlon y Byd yn Abertawe drwy i’r Gemau Paralympaidd ym Mharis yn 2024

Meddai Stuart Searle, Pennaeth Partneriaethau Brand British Triathlon: “Ar ran pawb yn British Triathlon a rhanddeiliaid y digwyddiad yn Abertawe, hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am gefnogi Cyfres Para Triathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe. Fel y digwyddiad annibynnol cyntaf yn y DU yng Nghyfres Para Triathlon y Byd, ac yn rhan o’n strategaeth gwyliau chwaraeon anabledd gyda Llywodraeth Cymru, bu’n ddiwrnod anhygoel o rasio yn rasys yr Uwch Gyfres, anabledd GO TRI, profiad y carped glas ac athletwyr elitaidd yn cystadlu ar lwyfan y byd.

“Roedd y gallu i fod yn bartner i’ch sefydliad, i leoli swyddfeydd a staff y digwyddiad yn eich cyfleusterau, i ddefnyddio’ch arlwyo a’ch staff ar gyfer ein cynnig VIP ac i gydweithio’n gyffredinol â chi o gwmpas isadeiledd ac elfennau gweithrediadol y digwyddiad o’r pwys mwyaf wrth gynnal digwyddiad llwyddiannus iawn. Buom wrth ein bodd i allu arddangos cyfleusterau a brand PCYDDS o gwmpas y cwrs a’r safle, ac rydym eisoes yn llawn cynnwrf i weithio gyda chi yn 2023 a thu hwnt.”

The Volvo 2022 World Triathlon Para Series event with a swim, bike and run all centred around the SA1 waterfront as a hub and the IRONMAN 70.3 Swansea attracted thousands of athletes and spectators and significantly boosted the local economy.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn noddi digwyddiad IRONKIDS Wales eleni ar 10 Medi yn rhan o’i phartneriaeth gydweithredol ag IRONMAN Wales.

Bydd y bartneriaeth, sy’n cynnwys noddi rhaglen gwirfoddolwyr IRONMAN Wales, yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr a staff gydweithio ag IRONMAN ar feysydd yn gysylltiedig â phortffolio’r Brifysgol yn cynnwys chwaraeon, iechyd a lles, gwasanaethau cyhoeddus, twristiaeth, lletygarwch, rheoli digwyddiadau yn ogystal â ffilm a’r cyfryngau.   Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymchwil cymhwysol yn cynnwys posibilrwydd ymgymryd ag astudiaethau effaith ac adroddiadau i roi gwybodaeth i IRONMAN Wales ar gyfer cynllunio busnes a’i strategaeth yn y dyfodol.   

Mae Ras Hwyl IRONKIDS yn cynnig cyfle i athletwyr ifanc deimlo cyffro cystadlu ar yr un pryd â mwynhau’r awyr agored a hyrwyddo byw’n iach.  Mae’r Brifysgol yn rhan ganolog o’i chymuned leol gan gydweithio â phartneriaid i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal a’i dinasyddion mewn amryw o ffyrdd.

UWTSD buildings at the University’s SA1 Waterfront campus were made available to organisers, athletes, their families during the weekend.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk