Prentis Gradd Ddigidol yn ei flwyddyn olaf yn canmol PCYDDS am roi hwb i’w gyfleoedd dyrchafiad gyrfaol


18.03.2022

Mae gan Adam Moore, Prentis Gradd Ddigidol sydd yn ei flwyddyn olaf, lawer i ddathlu – cyfres o ddyrchafiadau cyflym a rhediad o rolau newydd dilynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, - a’r cyfan oll cyn iddo raddio!

Final year Digital Degree Apprentice Adam Moore has much to celebrate – a series of rapid promotions and subsequent new roles at Hywel Dda University Health Board - and that’s before he even graduates!

Mae’n hollol wahanol i’w ddyddiau yn yr ysgol lle, y mae e’n cyfaddef, fe labelwyd ef yn dangyflawnwr. Ond ers ymuno â Rhaglen Radd-brentisiaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), mae’n defnyddio ei sgiliau newydd a’i arbenigedd i hybu ei yrfa.  

Meddai Adam: “Roedd ysgol yn anodd i mi, ac er gwaethaf fy ngallu academaidd cryf, roeddwn yn teimlo’n brin o gymhelliant i gyflawni. Ymadewais â’r ysgol ar ôl sefyll fy arholiadau Safon Uwch gan gwblhau ac ennill fy ngradd gyntaf, ond hyd yn oed wedyn, nid oedd gennyf weledigaeth glir o ran cyfeiriad fy nghyrfa. Felly, gwnes gais am nifer o swyddi rhan amser o gwmpas fy nghartref yn Sir Benfro, ac ystyriais fy nyfodol.”

Cymerodd hi chwe mis i Adam ddod o hyd i swydd barhaol a oedd o ddiddordeb iddo, - daeth yn  weinyddwr system i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a dyna phryd dechreuodd ei sefyllfa newid.

“Gwnaeth profi’r amgylchedd cyflym hwn am y tro cyntaf agor fy llygaid a rhyddhau llawer iawn o gymhelliant nad oedd gennyf cyn hynny. Nid oedd gennyf y sgiliau technegol na’r cymwysterau angenrheidiol i symud ymlaen a chwilio am gyfleoedd pellach. Efallai y gwnaiff hyn beri syndod i chi, ond y gwirionedd yw, nid oes gan GIG angen mawr am raddedigion Bioleg Môr. Rwy’n ddiolchgar roedd fy mhenaethiaid yn Hywel Dda yn gefnogol a chafodd fy nymuniadau eu hannog, a chyn bo hir, cefais fy nghyflwyno i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, lle dysgais am radd-brentisiaethau. 

“Roedd hwn i weld yn ddewis perffaith i mi. Roeddwn am symud ymlaen yn fy ngyrfa, ac roeddwn yn gwybod mai dychwelyd i fyd addysg a gweithio ar yr un pryd oedd y ffordd i wneud hynny. Yn ddiweddar, pan oeddwn yn 23 mlwydd oed, prynais fy nhŷ cyntaf, ac felly nid oeddwn yn gallu fforddio colli unrhyw incwm. Gwnaeth y rhaglen radd-brentisiaeth ddatrys y problemau ariannol a hefyd darparu hyblygrwydd. Yn gyflym, rydych chi’n dod yn rhan o rwydwaith cefnogol agos, gyda darlithwyr sydd ganddynt sgiliau diwydiannol ac sy’n gallu eich arwain, ac o’m safbwynt i, mae’r broses wedi rhoi hwb enfawr i’m hyder ac wedi fy helpu i gyrraedd fy nodau.”

O fewn 4 mis ers cofrestru gyda’r Drindod Dewi Sant, dyrchafwyd Adam o fand 4 i fand 5, gan godi i fand 7 dim ond ychydig o fisoedd wedyn.

Meddai ef: “Digwyddodd hyn i gyd yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, a gallaf ddweud yn onest na fyddai pethau wedi digwydd fel hyn oni bai am Y Drindod Dewi Sant. Gwnaeth cefnogaeth ac anogaeth fy narlithwyr roi hyder i mi o ran fy ngallu i wneud cais am ddyrchafiad. Mor berthnasol oedd y modylau y gwnes i eu hastudio, roedd modd i mi ddefnyddio’r hyn y gwnes i ei ddysgu ynddynt ar gyfer fy rôl yn Hywel Dda. Mae hyn wedi fy ngalluogi i dyfu ac i ddatblygu,  - a hynny’n gyflym. Mae dysgu wrth weithio a datblygu sgiliau newydd yn ôl yr angen yn ffordd effeithiol o ddatrys problemau. Er hynny, yn fy achos i, teimlais roedd gennyf fylchau yn fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth drwy ddysgu fel hyn. Teimlaf fod y cwrs gradd wedi llenwi’r bylchau hyn yn fy ngwybodaeth, gan roi i mi gwybodaeth lawer mwy ‘cyflawn’ o bob elfen o’r deunydd pwnc, yn hytrach na gwybodaeth ar lefel ymarferol yn unig

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r Tîm Dadansoddeg Iechyd wedi gwneud yn fawr o  ddysgu peirianyddol, efelychu digwyddiadau arwahanol, technegau dysgu dwfn, systemau gwybodaeth ddaearyddol, dadansoddiad cyfres amser, dadansoddiad ystadegol a mwy er mwyn cynhyrchu dadansoddeg o ansawdd uchel drwy’r sefydliad cyfan. Ar gyfer fy mhrosiect blwyddyn olaf, yr wyf ar hyn o bryd yn adeiladu model efelychu digwyddiadau arwahanol ar gyfer un o’n hadrannau argyfwng. Caiff y model efelychu ei ddefnyddio fel cymhwysiad gwe, a bydd defnyddwyr yn gallu perfformio dadansoddiad senario ‘beth os’ drwy newid nodweddion yr adran, rhedeg yr efelychiadau, a gwerthuso’r canlyniadau. Amgylchedd heb risg fydd hwn, lle y gallwn roi ar brawf unrhyw newid i system yr adran argyfwng, a gwneud hynny mewn ffordd feintiol.”

Meddai Dr Stephen Hole, Swyddog Cyswllt Prentisiaid: “Mae Adam wedi manteisio ar y cyfle i astudio am ail radd drwy gynllun Gradd-brentisiaeth Ddigidol PCYDDS. Diolch i gefnogaeth ei gyflogwr, ei gymhelliant newydd, a staff darlithio PCYDDS, mae ef wedi dod o hyd i bwrpas newydd ac mae’n defnyddio i’r eithaf ei skillset, sydd erbyn hyn wedi cael ei gyfoethogi’n fawr. Mae’n dda gweld bod Adam wedi cael nifer o ddyrchafiadau yn y gweithle, ac mae ef yn priodoli’r rhain i’w astudiaethau fel Prentis Gradd Ddigidol. Mae hyder Adam wedi tyfu, ynghyd â’i alluoedd technegol, ac mae ei skillset newydd yn cyfoethogi ei waith prosiect gyda’r Bwrdd Iechyd. 

“Caiff y Graddau Digidol eu dylunio a’u cynnal gan gadw cysylltau agos â diwydiant a masnach, ac mae hyn wedi helpu Adam i lenwi’r bylchau yn ei wybodaeth gyda dysgu perthnasol oddi wrth y tîm darlithio a’i gydweithwyr yn y gweithle. Er bod llwybr Adam yn unigryw iddo ef, mae gan y llwybr hwnnw lawer o bethau yn gyffredin â llwybrau Prentisiaid Gradd Ddigidol eraill PCYDDS.”

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk