Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar restr fer Gwobrau Rhagoriaeth Springboard 2022
14.02.2022
Mae rhaglenni Rheolaeth Twristiaeth a Digwyddiadau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Rhagoriaeth Springboard 2022, wedi’u henwebu ar gyfer y Wobr am y Bartneriaeth Orau rhwng byd Addysg a Diwydiant, mewn cydnabyddiaeth o gydweithrediadau’r Brifysgol â Diwydiant sy’n helpu myfyrwyr i adeiladu rhwydweithiau gyrfaol rhagorol gydag arweinwyr marchnadoedd ledled y byd.
Mae gan raglenni Rheolaeth Twristiaeth a Digwyddiadau’r Brifysgol naws ddiwydiannol sylweddol, ac maent yn cynnwys teithiau astudio rhyngwladol, ymweliadau â diwydiannau i weld yr hyn sy’n digwydd yn y cefndir, ac interniaethau cyfannol a ariennir gyda sefydliadau blaenllaw a digwyddiadau lleol a rhyngwladol.
Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen Digwyddiadau Rhyngwladol, Twristiaeth a rhaglenni Rheolaeth Cyrchfannau Hamdden PCYDDS: “Rydym wrth ein boddau i gael ein henwebu ar gyfer y wobr am y Bartneriaeth Orau rhwng byd Addysg a Diwydiant. Mae’n gydnabyddiaeth ardderchog o’n hymgysylltu â’r diwydiant yn fyd-eang ac yn lleol, o’n myfyrwyr gwych, ac o’r gefnogaeth a’r ysbrydoliaeth anhygoel a roddir iddynt gan ein graddedigion a chan arweinwyr diwydiant, sef eu mentoriaid.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu’r enwebiad gyda’n digwyddiadau diwydiant ar gyfer myfyrwyr, sydd ar ddod, gan gynnwys Rhedeg y Trac gyda Chwrs Rasio Ffos Las, Digwyddiadau ‘Twristiaeth Ryngwladol a Chymru yn Cwrdd â’r Arbenigwyr’, a chynadleddau diwydiant a drefnir gan fyfyrwyr ar gyfer ysgolion a cholegau.”
Caiff y seremoni wobrwyo ei chynnal yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth, yn Llundain ar Ebrill 7fed.
Sefydlwyd Springboard yn 1990 i gefnogi’r diwydiant lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, a’r sawl sy’n chwilio am waith yn y meysydd hyn.
Yn gweithio’n genedlaethol ar draws y DU a’r Iwerddon, mae ei waith yn cynnwys tri maes allweddol:
Rhaglenni hyfforddiant cyflogadwyedd – yn helpu pobl sydd dan anfantais i ddysgu sgiliau meddal a chaled, cael mewnwelediad i’r diwydiant, a chael cyfleoedd lleoliad gwaith – yn arwain yn gyffredinol at well lesiant, cyflogadwyedd gwell a phontio i gyrchfannau positif, gan gynnwys gwaith/addysg bellach/prentisiaeth/ac ati.
Rhaglenni addysg – gweithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion i gyfoethogi addysgu’r cwricwlwm a gyflwynir i fyfyrwyr – a’u helpu nhw i gael mewnwelediad allweddol i ddiwydiant a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i bontio o fyd addysg i fyd gwaith.
Adnoddau a chyngor gyrfaol – yn darparu gweithgareddau gyrfaol arbenigol ar-lein, wyneb yn wyneb ac mewn digwyddiadau gyrfaol.
Meddai Chris Gamm, Prif Swyddog Gweithredol Springboard: Mae Gwobrau Rhagoriaeth Springboard yn ymwneud â dathlu’r busnesau a’r unigolion hynny sy’n gwneud gwaith gwych drwy hyrwyddo lletygarwch, datblygu ein pobl, atynnu talent a chefnogi cenhadaeth Springboard i ddiogelu’r cyflenwad talent rhag y dyfodol. Llongyfarchiadau i bob busnes gwych a wnaeth gyrraedd y rhestr fer eleni; edrychwn ymlaen at ddathlu gyda chi ar ddydd Iau, Ebrill 7fed yn Illuminate London.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Executive Press and Media Relations Officer
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Corporate Communications and PR
Mobile: 07384 467071
Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk