Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cefnogi lansiad Canllaw i Hawliau Dynol yn Abertawe


24.10.2022

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi lansiad canllaw newydd i hawliau dynol, sy’n ceisio dangos pam eu bod yn bwysig i fywydau bob dydd pobl yn Abertawe.

The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) is supporting the launch of a new guide to human rights, which aims to show why they are important to the everyday lives of people in Swansea.

Roedd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-ganghellor Y Drindod Dewi Sant yn bresennol wrth lofnodi’r ddogfen yn Neuadd y Guildhall yn y ddinas, ynghyd ag arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart ac uwch staff o’r awdurdod a’r brifysgol.

Bydd y llyfrynnau ar gael am ddim mewn mannau cyhoeddus ar draws y ddinas fel llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chymunedol ac maent hefyd ar gael i'w lawrlwytho.

Bwriad y llyfrynnau yw sicrhau bod preswylwyr yn ymwybodol o'u hawliau dynol yn ogystal ag esbonio pam y maen nhw mor bwysig, a beth mae Abertawe'n ei wneud ar hyn o bryd.

Mae Abertawe wedi datgan ei huchelgais i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol ac mae'r weledigaeth hon wedi'i rhannu gan sefydliadau allweddol fel y cyngor, yr heddlu, y bwrdd iechyd, y gwasanaeth tân a phrifysgolion, yn ogystal â busnesau a llawer o breswylwyr.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes: “Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi gweledigaeth Abertawe o ddod yn Ddinas Hawliau Dynol a’i huchelgais i greu dinas lle mae pawb yn gyfartal. Mae grymuso pobl i ddeall eu hawliau a pharchu hawliau pobl eraill yn sylfaenol i gymdeithas sifil. Maent yn cyd-fynd â gwerthoedd y Brifysgol lle rydym yn dymuno grymuso unigolion trwy ddileu rhwystrau i gyfranogiad a chefnogi pobl o bob cefndir ac amgylchiadau i gyflawni eu potensial”.

Y llynedd aeth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, i seremoni yn Neuadd y Ddinas lle'r oedd y sefydliadau hyn wedi ymrwymo i gydweithio gyda phobl yn y ddinas i sicrhau cydnabyddiaeth swyddogol i Ddinas Hawliau Dynol.

Ers hynny ymgysylltwyd yn helaeth â phreswylwyr i ddarganfod beth yw pryderon allweddol pobl a beth y dylai'r blaenoriaethau fod pan fydd Abertawe'n dod yn Ddinas Hawliau Dynol.

Y blaenoriaethau a nodwyd oedd:

*Trechu tlodi

*Plant a theuluoedd diamddiffyn

*Mynd i'r afael â gwahaniaethu

*Cam-drin domestig a thrais

*Ymwybyddiaeth o hawliau dynol

Meddai Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a Hyrwyddwr Cyngor Abertawe dros Hawliau Dynol, "Rydym wrth ein boddau gyda'r gefnogaeth a'r adborth rydym wedi'u cael ers i ni osod yr her o ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gan fod hyn yn dangos bod awydd gwirioneddol i gyflawni'r statws hwn.

"Drwy roi hawliau dynol wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud, byddwn yn gwella gwasanaethau lleol ac yn gwneud gwell penderfyniadau.  

"Rydym yn gobeithio annog a galluogi pawb i ddefnyddio'u llais, yn enwedig y rheini ar y cyrion a'r rheini sy'n ddiamddiffyn yn gymdeithasol, a manteisio ar y cyfle i lywio'r gwasanaethau hanfodol rydym yn dibynnu arnynt o ddydd i ddydd.

"Bydd yr arweiniad poced newydd hwn ar gael yn eang yn Abertawe.

"Mae'n esbonio pam mae hawliau dynol yn bwysig a'r hyn rydyn ni'n ei wneud, fel dinas, i wireddu'n hawliau dynol."

Dywedodd yr Athro Ian Walsh, Profost Campws Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Mae'r Brifysgol yn falch o gefnogi uchelgais Abertawe i ddod yn ddinas hawliau dynol.

"Bydd y blaenoriaethau a nodwyd yn gam enfawr ymlaen wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac amddifadedd y rhai mwyaf agored i niwed yn ein dinas.

"Mae Abertawe yn lle hyfryd i fyw, gweithio, astudio ac i fwynhau ei adnoddau niferus ac amrywiol lle mae pobl yn cael eu gwerthfawrogi. Bydd dod yn ddinas hawliau dynol yn ychwanegu at ei henw da fel cymuned deg a chynhwysol."

www.abertawe.gov.uk/ArweiniadHawliauDynol

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau

Executive Press and Media Relations Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

Mobile: 07384 467071

Email: Rebecca.Davies@uwtsd.ac.uk