Profiadau sy'n newid bywyd wedi arwain at daith ddysgu newydd i un o raddedigion y Drindod Dewi Sant Birmingham


21.06.2022

A hithau’n wreiddiol o gefndir creadigol, yn berfformwraig uchelgeisiol a fu’n astudio’r Celfyddydau: o Gerddoriaeth, Dawns a Barddoniaeth i berfformiadau Lleisiol, arweiniodd cyfres o brofiadau ysgytwol sy’n newid bywyd at lwybr dysgu newydd i Anne-Marie McDonald.  

“Yn 2008 bu farw fy nhad, a chafodd fy mam ddiagnosis o fath ymosodol o ganser y fron,” meddai.  “Arweiniodd y foment ddiffiniol hon at ddarganfod galluoedd newydd, a rhinweddau a ddechreuodd amlygu eu hunain yn sgil marwolaeth a cholled.” 

Dywedodd Anne-Marie ei bod yn ffodus i gael cwnsela mewn profedigaeth yn Hosbis St Mary’s yn Birmingham ac yn ystod y sesiynau hyn sylweddolodd mai dyma’r yrfa yr oedd am ei dilyn, i gefnogi pobl drwy eu galar.   

"Argymhellwyd y cwrs Iechyd a  Gofal Cymdeithasol o fewn y Dystysgrif Addysg Uwch, Sgiliau ar gyfer y Gweithle, Lefel 4 i mi gan ffrind da a oedd yn gwybod am fy nyheadau i weithio o fewn y sector hwn. Gwnaeth hyn fy rhoi ar y llwybr i fynd yn ôl i astudio a deuthum yn fyfyriwr aeddfed," meddai. 

"Cyn Covid-19 cefais gyfle i brofi bywyd ar y campws, cwrdd â'r darlithwyr, dysgu sgiliau academaidd ac fe wnes i ffynnu wrth gyfrannu at gyflwyniadau tîm a chwrdd â chyd-fyfyrwyr. 

"Roedd tyfu a datblygu sgiliau newydd yn gyffrous, ond hefyd yn hynod o anodd.  Yn ystod Covid roedd dysgu ar-lein ar waith ac roeddwn i bellach hefyd yn wynebu heriau yn gysylltiedig ag iechyd, felly roedd yn rhyddhad i ymuno â'r darlithoedd o gysur fy nghartref.”   

Dywedodd Anne-Marie ei bod wedi elwa fwyaf o’r modylau Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth ac Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy.  

“Gwnaeth y modylau hyn fy ngalluogi i weld sut y gellid defnyddio fy nghreadigrwydd, a hefyd pwysigrwydd cael gweledigaeth, angerdd, y symbyliad i ysgogi ac ysbrydoli er gwell.” 

Yn ystod y modylau Ysgogwyr Newid, cafodd cân a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd gan Anne-Marie o’r enw “S.O.S” ei chymeradwyo gan DT Records i godi ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl, a chafodd perfformiad Fideo ei gynnwys yng Ngwasanaeth Blynyddol Marie Curie, “Lights to Remember.”   

Mae bellach yn wirfoddolwr swyddogol gyda Marie Curie, fel Darparwr Cymorth Emosiynol i Oedolion.   

"Daeth cyflawni'r pethau hyn â llawer o drafferthion yn ei sgil, ond gydag ymdeimlad cryf o bwrpas, rheoli iechyd, cefnogaeth gan rai o'm cysylltiadau myfyrwyr a'm darlithwyr, fe'm sbardunwyd i ddyfalbarhau," ychwanegodd. 

Cynllun Anne-Marie ar gyfer y dyfodol yw parhau â’i thaith ddysgu, gan astudio am BSc mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

"Rwyf am ddechrau fy musnes fy hun neu fynd i bartneriaeth, gan ddarparu gweithdai/sesiynau mentora i gefnogi'r rhai sy'n profi galar," meddai. 

"Mae'r cwrs hwn wedi helpu i ehangu fy ngorwelion, drwy annog cyfleoedd i rwydweithio a chydweithio, i weld y tu hwnt i'm cyfyngiadau, ac i ddatblygu sgiliau a galluoedd newydd.” 

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a'r Cyfryngau

Press and Media Officer

Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus

Corporate Communications and PR

E-bost | Email : ella.staden@uwtsd.ac.uk

Ffôn | Phone : 07384467078