PROSIECT YN GOSOD Y LLWYBR AR GYFER CEFNOGI YSGOLION
24.06.2022
Yr wythnos hon caiff prosiect newydd ei lansio â’r bwriad o gefnogi ysgolion drwy’r broses o drawsnewid y cwricwlwm, yn canolbwyntio ar ddilyniant ac asesu.
Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor, Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor
Prosiect dros dair blynedd yw Camau i’r Dyfodol a gyflenwir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glasgow. Mae wedi’i gynllunio i helpu i ddatblygu gwybodaeth newydd a chefnogi’r gwaith o wireddu’r Cwricwlwm i Gymru drwy ddod ag athrawon, partneriaid addysgol ac ymchwilwyr ynghyd i gyd-ddatblygu capasiti, ffyrdd o feddwl ac adnoddau newydd i adeiladu ar ymarfer presennol. Bydd integreiddio dilyniant dysgu, y cwricwlwm, asesu ac addysgeg yn ganolog yn y broses hon.
Ym mis Chwefror, ymrwymodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i sicrhau y byddai cefnogaeth genedlaethol ar gael ar gyfer datblygu dilyniant ac asesu yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd a’r pedwar diben sy’n greiddiol iddo sef galluogi:
- dysgwyr uchelgeisiol, galluog
- cyfranwyr mentrus, creadigol
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus
- unigolion iach, hyderus.
Mae’r prosiect yn adeiladu ar brosiect gwreiddiol CAMAU oedd yn cynnwys y bartneriaeth rhwng 2018 a 2020 a’i fwriad yw datblygu’r capasiti angenrheidiol yn y system mewn dilyniant dysgu i symud yr agenda adnewyddu a diwygio yn ei flaen yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Dylan E Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r brifysgol yn falch iawn i barhau â’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Glasgow ar y prosiect pwysig hwn. Y nod yw cefnogi system addysg Cymru wrth wireddu’r diwygiad cwricwlaidd cynaliadwy hwn sy’n seiliedig ar ddilyniant. Mae hon yn adeg allweddol i addysg yng Nghymru, wrth i ni symud allan o’r pandemig i mewn i ddiwygio, gan ddod â’r profiadau a gawsom gyda phrosiect gwreiddiol CAMAU ac arbenigedd rhyngwladol at ei gilydd i sicrhau bod yr holl bartneriaid yn y system addysg yn cydweithio i ddeall dilyniant dysgu”.
Caiff Trafodaethau Rhwydwaith Cenedlaethol eu sefydlu i greu mannau lle gall ysgolion, lleoliadau a phartneriaid addysgu fyfyrio ar ddilyniant ac asesu yng nghyd-destun eu hymarfer personol a rhannu eu profiadau a’u dulliau gweithredu. Caiff grŵp Cyd-lunio ei sefydlu ar ddechrau’r prosiect i lywio gweithgareddau, ffocws ac allbynnau, a sicrhau ei fod yn ymgysylltu â’r sector addysg gyfan yng Nghymru.
Bydd y prosiect yn:
- Dod â’r holl bartneriaid addysgol ynghyd, o ysgolion a lleoliadau i Estyn, i ddefnyddio eu profiad a’u harbenigedd eu hunain i lunio dealltwriaeth gyffredin o ddilyniant, gan gefnogi cyfranogwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd
- Meithrin dealltwriaeth o’r modd y gellir datblygu’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn effeithiol i holl ddisgyblion Cymru drwy’r cwricwlwm, asesu ac addysgeg.
- Cefnogi datblygu ymarfer a all wireddu dyheadau’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gynnwys edrych heibio’r cyfnod cyflwyno i esblygiad y cwricwlwm dros y tymor hir.
- Sicrhau bod newid yn ystyrlon ac yn ymarferol i ysgolion a lleoliadau, a’i fod yn cael ei gyflawni mewn modd cynhwysol dan arweiniad tystiolaeth, gyda chyfiawnder, uniondeb ac aliniad rhwng holl rannau’r system.
- Darparu sail tystiolaeth sy’n esblygu, a all fwydo’n ôl i mewn i’r system a darparu gwybodaeth newydd i ymarferwyr am gwricwla’n seiliedig ar ddilyniant, ymarfer proffesiynol a newid addysgol.
Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, bydd y bartneriaeth yn cynhyrchu adnoddau ac allbynnau i gynorthwyo ymarferwyr i fyfyrio ar eu hymarfer, rhannu eu profiadau a chefnogi trafodaeth bellach yn eu hysgolion neu leoliadau. Caiff yr adnoddau hyn eu cyhoeddi drwy Hwb, porth adnoddau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor: “Mae gweithio gyda’r llywodraeth i gefnogi ein system addysg yn gynhenid i’r Brifysgol hon. Sefydlwyd ein campysau yng Nghaerfyrddin ac Abertawe fel canolfannau addysg athrawon ac rwy’n ymfalchïo yn hanes blaenorol y Brifysgol. Rwyf i wrth fy modd y byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Glasgow, yn ogystal â’n rhwydwaith o ysgolion a darparwyr addysg ar brosiect Camau i’r Dyfodol. Ein nod bob amser yw sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i wireddu eu potensial”.
Rhagor o wybodaeth: Blog Cwricwlwm i Gymru